Datganiadau i'r Wasg

Canfod Trysor yn Ne Cymru a Phowys

Mae pum canfyddiad, gan gynnwys tri chelc a dau grŵp o wrthrychau bedd, yn dyddio o'r Oes Efydd ac Oes y Rhufeiniaid wedi cael eu datgan yn Drysor ar ddydd Mawrth 11 Gorffennaf 2023 gan Grwner Rhanbarthol Canol De Cymru, Patricia Morgan. ⁠ 

Modrwy fylchgron aur

Darnau o grib bren wedi llosgi or Oes Efydd

Broetsh bwa croes arian Rhufeinig

Celc bychan o geiniogau Rhufeinig

Cafodd casgliad o wrthrychau bedd o'r Oes Efydd, gan gynnwys modrwy bylchgrwn aur a darnau o grib bren wedi llosgi (Achos Trysor 17.13) ei ganfod gan Rubicon Heritage Services (Red River Archaeology Group). Gwnaed y canfyddiad yn ystod gwaith cloddio yng Nghymuned St Nicholas a Bonvilston ar 28 Gorffennaf 2017, fel rhan o waith archaeolegol cyn dechrau ar gynllun gwella ffordd Five Mile Lane yr A4462 dan nawdd Llywodraeth Cymru a dan ofal Cyngor Bro Morgannwg.⁠ Cafodd y ddau arteffact eu canfod gydag amlosgiad dynol mewn man claddu bychan. Cofnodwyd y canfyddiad yn ofalus, cyn symud y gweddillion a'r gwrthrychau claddu. Derbyniwyd trwydded gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder, yn rhoi caniatâd i symud y gweddillion dynol hynafol. 

Mae'r fodrwy fylchgron aur, sydd prin 1.1cm o ddiamedr, yn dangos crefft arbennig ac wedi'i haddurno â phatrwm chevron neu saethben mân. Esiampl yw hyn o fodrwy wallt - math o wrthrych rydyn ni'n credu fyddai wedi cael ei ddefnyddio i addurno'r gwallt. Mae'r grib bren mewn cyflwr bregus iawn, a dim ond wyth o'r dannedd tenau cyfochrog sydd wedi goroesi. Dyma esiampl hynod brin o wrthrych organig yn goroesi mewn pridd, a hynny am fod y siarcol o'r llosgi wedi ei warchod rywfaint. Cafodd y ddau wrthrych, sy'n dyddio o ganol yr Oes Efydd (1300-1150 CC), eu dewis yn ofalus gan y bobl oedd yn galaru i fynd gyda'r person oedd yn cael ei amlosgi i'r byd nesaf. 

Dywedodd Adam Gwilt, Prif Guradur Cynhanes Amgueddfa Cymru:

"Diolch i'r amlosgiad hwn, gyda'r fodrwy aur a'r grib bren, fe gawn ni gip ar fywyd a marwolaeth yn yr Oes Efydd. Mae'r fodrwy aur yn esiampl gynnar, fychan, a safonol iawn o'i bath, sy'n taflu goleuni newydd ar ddatblygiad modrwyau gwallt fel gemwaith cynnar ar draws Prydain ac Iwerddon. Dim ond un enghraifft yw'r gladdedigaeth hon o'r cyfoeth o dystiolaeth cynhanesyddol sy'n cael ei ddadorchuddio ar draws Bro Morgannwg, yn brawf o gyfoeth ac amrywiaeth, ac o bwysigrwydd archaeoleg wrth ehangu ein dealltwriaeth o'r gorffennol." 

Mae gan Amgueddfa Cymru ddiddordeb caffael yr eitem hon, yn dilyn prisiad annibynnol gan y Pwyllgor Prisio Trysorau. Byddant yn dod yn rhan o gasgliad ac archif ehangach o'r gwaith cloddio hwn, ac yn rhan hefyd o'r Casgliad Cenedlaethol. 

Dywedodd David Gilbert, Rheolwr Project Rubicon Heritage Services (Red River Archaeology Group):

"Y fodrwy aur yw'r gwrthrych mwyaf trawiadol gyda'r amlosgiad wrth reswm. Ond y gwrthrych pwysicaf yw'r un sy'n ymddangos ar yr olwg gyntaf yn llawer mwy diflas - y grib bren, sy'n ganfyddiad heb ei ail yng Nghymru, os nad y DU. Gyda'i gilydd mae'r gwrthrychau yn dangos natur bersonol ein gwaith, ac yn dangos pwysigrwydd y gwrthrychau i'r person gafodd ei gladdu gyda nhw. Mae'n dangos balchder mewn ymddangosiad a llygad am brydferthwch sydd ar goll o bob dehongliad bron o bobl gynhanesyddol ar y teledu neu mewn ffilmiau. Mae'r canfyddiad hwn yn pwysleisio cyfraniad pwysig archaeoleg fasnachol i ehangu ein gwybodaeth fanwl o hanes Cymru."

⁠Cafodd claddedigaeth Rufeinig ei dadorchuddio gan Rubicon Heritage Services (Red River Archaeology Group) yn Ebrill 2017, fel rhan o waith archaeolegol cyn dechrau ar gynllun gwella ffordd Five Mile Lane yr A4462 dan nawdd Llywodraeth Cymru a dan ofal Cyngor Bro Morgannwg. ⁠ Roedd y bedd yn cynnwys broetsh bwa croes arian, gweddillion cleddyf haearn a hoelion o bâr o sgidiau. Mae'r canfyddiad hwn yn pwysleisio cyfraniad pwysig archaeoleg fasnachol i ehangu ein gwybodaeth fanwl o hanes Cymru." Oherwydd bod y broetsh yn arian a dros 300 mlwydd oed, roedd y canfyddiad yn dod o dan y Ddeddf Drysor (Achos Trysor 17.06).

Mae broetshys bwa croes yn addurn Rhufeinig eithaf cyffredin, yn dyddio o droad y bedwaredd ganrif OC. ⁠Aloi copr yw'r rhan fwyaf o esiamplau, er bod esiamplau arian ac aur hyd yn oed i'w cael. Mae'r cleddyf yn esiampl o gleddyf hirach a ddefnyddiwyd gan fyddin Rhufain yn y drydedd a'r bedwaredd ganrif OC, sy'n cyfateb â dyddiad y broetsh.

Dywedodd Evan Chapman, Uwch Guradur Archaeoleg Amgueddfa Cymru: ⁠ ⁠

"Hyd y gwn i, dyma'r esiampl gyntaf o froetsh bwa croes arian Rhufeinig i'w ganfod yng Nghymru. Mae'n debyg bod broetshys bwa croes yn gysylltiedig â dyddiau ddiweddaraf byddin Rhufain a'r gwasanaeth sifil. Efallai eu bod yn wreiddiol yn symbol o swydd, ond mae awgrymiadau y byddai pobl o statws yn mabwysiadu elfennau o wisg filwrol, gan gynnwys broetshys bwa croes. Mae presenoldeb y cleddyf yn awgrymu cyswllt milwrol yn yr achos hwn. Wyddon ni ddim os yw'r broetsh yn dangos cyswllt uniongyrchol â byddin Rhufain, ond mae'r defnydd o arian yn awgrymu ei fod yn unigolyn o statws."

Mae Amgueddfa Cymru yn gobeithio caffael y gwrthrychau hyn, er mwyn eu cadw gyda gweddill y gwrthrychau o'r gwaith cloddio, a'u gwneud yn rhan o'r Casgliad Cenedlaethol. 

Dywedodd Rachel Morgan, Rheolwr Project Rubicon Heritage Services (Red River Archaeology Group):

"Peth anarferol yw canfod claddedigaeth gŵr ifanc mewn gwisg filwrol ar dir ffermio Rhufeinig. Mae'r broetsh bwa croes arian yn dangos ei statws uchel yn y Fyddin, neu'r gymdeithas Rufeinig ehangach. Bu farw rywbryd rhwng canol y drydedd ganrif a diwedd y bedwaredd ganrif OC - cyfnod pan oedd broetsh o'r fath yn symbol o weinyddwr ymerodrol, ac felly mae'n debygol taw nid milwr cyffredin oedd hwn, a'i fod yn dod o deulu cyfoethog. Mae dadansoddiad isotop wedi dangos taw nid yn lleol y cafodd ei eni, ond iddo gael ei fagu rywle yn y dwyrain, efallai o dir y Mers neu tu hwnt. Beth oedd y gŵr ifanc yn ei wneud ar ffarm yn ne Cymru?" 

Cafodd celc o offer ac arfau o'r Oes Haearn (Achos Trysor 20.22) ei ganfod gan Richard Griffiths ar 17 Rhagfyr 2020 wrth ddefnyddio datgelydd metel ar dir pori corsiog yng Nghymuned Llangrallo Uchaf ger Pen-y-bont. ⁠Mae'r celc o saith arteffact efydd yn cynnwys pedair bwyell socedog, blaen saeth, palstaf a jet castio. Cafodd y celc ei gladdu mewn pydew bach unig, mwy na thebyg fel rhodd crefyddol i'r duwiau, ac mae'n dyddio i ddiwedd yr Oes Efydd (1000-800 CC). Prin yw'r celciau o'r cyfnod hwn sydd wedi eu canfod yn ucheldir de Cymru, felly bydd y canfyddiad hwn yn galluogi i ni adrodd straeon mwy cyfoethog am drigolion yr ardal rhyw 3,000 o flynyddoedd yn ôl. 

Gwnaed archwiliad archaeolegol o’r safle yn Awst 2022 gan dîm bychan o staff Amgueddfa Cymru a henebion Cludadwy Cymru (PAS Cymru) gyda help y canfyddwr. 

Dywedodd Richard Griffiths, y gŵr wnaeth ganfod y celc gyda'i ddatgelydd metel:

"Roeddwn i'n llawn cyffro yn canfod y celc yma o'r Oes Efydd, a dwi'n browd iawn bod fy nghanfyddiad i nawr yn rhan o'n hanes ni. I feddwl taw di oedd y person cyntaf i dal y gwrthrychau hyn ers i'r person diwethaf eu defnyddio nhw, filoedd o flynyddoedd yn ôl, yn deimlad arbennig iawn. Fe wnes i fwynhau'n fawr cydweithio ag archaeolegwyr yr Amgueddfa wrth iddyn nhw wneud eu gwaith geoffiseg a chloddio. Roedd hi'n bleser gweld sut oedden nhw'n gweithio, cloddio, a chofnodi popeth mor ofalus. Roedd canfod y blaen saeth ar ben y cyfan, yn dal wedi'i gladdu yn y tir, yn dro annisgwyl arall i'r stori!"

Dywedodd Chris Griffiths, ymchwilydd yn Amgueddfa Cymru wnaeth arwain y gwaith ymchwil: 

"Roedd y cyfle i archwilio lleoliad y celc hwn yn amhrisiadwy, ac rydyn ni'n ddiolchgar iawn am help y tirfeddiannwr a Richard drwy gydol y broses.⁠ Roedd darganfod blaen saeth efydd yn ystod y gwaith cloddio yn goron ar y cyfan, ac yn rhoi cipolwg diddorol i ni ar berthynas pobl â'r ucheldiroedd hyn yn yr oes Efydd."

Mae gan Amgueddfa Cymru ddiddordeb caffael y celc hwn, yn dilyn prisiad annibynnol gan y Pwyllgor Prisio Trysorau. 

Dywedodd David Howell, Swyddog Ymgysylltu Cynllun Henebion Cludadwy yng Nghymru (PAS Cymru): 

"Am 25 mlynedd mae PAS Cymru wedi bod yn diogelu a gofalu am wybodaeth am archaeoleg Cymru. Yn ystod y cyfnod hwn mae PAS Cymru wedi cofnodi dros 90,000 o arteffactau, gan adeiladu cysylltiadau â'r gymuned datgelyddion metel a chanfyddwyr yn gyffredinol, er mwyn sicrhau bod gwybodaeth am hanes ac archaeoleg Cymru yn cael ei gofnodi a'i rannu â'r genedl.

Cafodd celc o'r Oes Efydd (Achos Trysor 21.5) gan Peter Anning wrth ddefnyddio datgelydd metel ar dir pori yng Nghymuned Pontprennau, Caerdydd ar 20 Hydref 2022.⁠ Derbyniodd Mark Lodwick adroddiad am y Trysor drwy gyfrwng Cynllun Henebion Cludadwy yng Nghymru (PAS Cymru). Mae'r celc yn cynnwys pedwar darn o lafn cleddyf siâp deilen a dau jet castio a gynhyrchwyd yn ystod y broses o gastio efydd mewn mowldiau clai. Mae'r darnau metel yn perthyn i gleddyf yn arddull Parc Ewart, tra bod y jetiau castio wedi cael eu cynhyrchu wrth gastio bwyell socedog yn arddull de Cymru. Mae hyn yn dangos fod y celc yn dyddio o tua 1000-800 CC yn niwedd yr Oes Efydd. Cafodd yr arteffactau eu claddu'n ofalus gyda'i gilydd mewn pydew, mwy na thebyg fel offrwm crefyddol. 

Mae gan Amgueddfa Caerdydd ddiddordeb caffael y celc ar gyfer eu casgliad, wedi iddo gael ei brisio'n annibynnol gan y Pwyllgor Prisio Trysorau. 

Dywedodd Alison Tallontire, Rheolwr Amgueddfa Gweithredol Amgueddfa Caerdydd: 

"Mae'n gyffrous iawn cael cyfle i gaffael y celc hwn. Y cleddyf fyddai'r cyntaf yng nghasgliad yr amgueddfa, a byddai'n gaffaeliad gwerthfawr i'n casgliad archaeoleg Oes Efydd sydd yn barod yn cynnwys bwyell socedog, a bydd y jetiau castio yn ychwanegu at yr hanes o gynhyrchu bwyelli o'r fath yng Nghaerdydd yr Oes Efydd. Drwy gaffael y celc hwn gallwn ni ehangu ar y straeon rydyn ni'n eu hadrodd am y cyfnod, ac ar ein casgliad o ardal Pontprennau yng Nghaerdydd."

Dywedodd Chris Griffiths, myfyriwr doethurol sy'n gweithio ym Mhrifysgol Reading ac Amgueddfa Cymru:

"Peth anghyffredin yw canfod sawl darn o gleddyf sy'n ffitio'n un yn ne Cymru, ac felly mae'r celc hwn o Gymuned Pontprennau, a'r pedwar darn o lafn un cleddyf, yn ganfyddiad newydd nodedig.⁠ Cyn cael ei gladdu, mae'n debyg bod y cleddyf wedi cael ei dorri'n ddarnau glân. Mae rhai darnau ar goll ac mae'n bosib eu bod nhw wedi cael eu hailgylchu. Mae'r modd y cafodd y cleddyf ei dorri, a'r ddau jet castio, yn awgrymu bod gof efydd yn rhan o greu'r celc hwn, ac yn ein helpu ni i ddychmygu bywydau'r bobl oedd yn byw yn y rhan hon o Gaerdydd rhyw 3,000 o flynyddoedd yn ôl."

Canfuwyd celc bychan o geiniogau Rhufeinig (Achos Trysor 21.18) gan Shawn Hendry a Chris Perkins ym mis Mai 2021 wrth ddefnyddio datgelydd metel ar dir pori yng Nghymuned Glascwm, Powys. Mae'r celc yn cynnwys chwe cheiniog arian o'r enw denarii, yn dyddio o 32 CC i OC 161. Ar y ceiniogau mae wynebau'r cadfridog Mark Antony, a'r ymerawdwyr Titus, Hadrian ac Antonius Pius. Cafodd y geiniog ieuengaf ei bathu mor ddiweddar ag OC 161, sy'n awgrymu bod y ceiniogau wedi cael eu colli ar yr un pryd rhwng OC 145 ac 165. Byddai'r rhan fwyaf o geiniogau mewn cylchrediad am amser hir cyn cael eu colli ac mae'r geiniog hynaf, o gyfnod Marc Antony (32-1 CC) wedi treulio llawer. Mwy na thebyg i'r ceiniogau gael eu colli mewn pwrs bychan, neu gelc bychan. 

Mae gan Amgueddfa Sir Faesyfed ddiddordeb mewn caffael y celc, wedi iddo gael ei brisio'n annibynnol gan y Pwyllgor Prisio Trysorau. 

Mae Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb ac yma at ddefnydd pawb. Rydyn ni’n elusen, ac mae ein teulu o saith amgueddfa a chanolfan gasgliadau wedi’u gwasgaru ar draws Cymru. Ein nod yw ysbrydoli pawb trwy stori Cymru – yn ein hamgueddfeydd, yn ein cymunedau ac yn ddigidol. 

Mae ein croeso am ddim diolch i nawdd Llywodraeth Cymru, ac mae croeso i bawb o bob cymuned. 

Dewch i fod yn rhan o stori Cymru – trwy ymweld â ni, gwirfoddoli, ymuno neu gyfrannu. 

www.amgueddfa.cymru  

Diwedd