Datganiadau i'r Wasg

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn arddangos casgliadau newydd o gelf gyfoes

Bydd gweithiau celf cyfoes sydd wedi’u casglu gan Amgueddfa Cymru yn cael eu rhoi at ei gilydd mewn arddangosfa ‘Casgliadau Newydd’ sydd i’w gweld yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd o 8 Gorffennaf 2023 ymlaen.

Mae’r arddangosfa’n dod ag ystod eang o weithiau celf cyfoes sydd wedi cael eu hychwanegu at y casgliad cenedlaethol yn y 5 mlynedd diwethaf ynghyd. Bydd cyfle i ymwelwyr weld gwaith gan artistiaid Cymraeg cyfoes ac artistiaid sy’n gweithio yng Nghymru, gan gynnwys Anya Paintsil, Zillah Bowes, Mike Perry, Mohamed Hassan, Catrin Webster a Jack Crabtree. ⁠ Bydd gwaith gan yr artist haniaethol Glyn Baines hefyd, enillydd hynaf y Fedal Aur am Gelfyddyd Gain yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2015. Bu farw Glyn yn gynharach eleni.

Bydd yr arddangosfa yn cael ei newid bob 6 mis er mwyn galluogi’r amgueddfa i arddangos gweithiau newydd sy’n dod i’w meddiant. Yn fuan, bydd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd hefyd yn cynnal arddangosfeydd unigol artistiaid hen a newydd sy’n gweithio yng Nghymru, gan gynnwys Go Home Polish, gan Michal Iwanowski, a gwaith diweddar gan yr artist o Gaerdydd, Sean Edwards. Yn rhan o’r rhaglen o arddangosiadau, bydd yr Amgueddfa yn arddangos gwaith dylunwyr Cymreig cyfoes, gan gynnwys Llio James a Hiut DenimCo.  

Dywedodd Melissa Munro, Uwch Guradur, Celf, Amgueddfa Cymru: “Rydyn ni’n falch iawn o gael y cyfle i rannu’r ychwanegiadau newydd i’r casgliad celf gyda’n hymwelwyr. Mae cymaint o waith yn digwydd y tu ôl i’r llenni i ymchwilio a datblygu’r casgliad cenedlaethol drwy gael gafael ar weithiau newydd. Bydd y rhaglen newydd hon o arddangosfeydd sy’n newid yn rhoi gwell syniad i’n hymwelwyr o beth mae Amgueddfa Cymru yn ei gasglu heddiw.”

“Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i’n noddwyr, yr artistiaid, ac i bawb sy’n rhoi gweithiau celf i Amgueddfa Cymru.”

Mae Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb ac yma at ddefnydd pawb. Rydyn ni’n elusen, ac mae ein teulu o saith amgueddfa a chanolfan gasgliadau wedi’u gwasgaru ar draws Cymru. Ein nod yw ysbrydoli pawb trwy stori Cymru – yn ein hamgueddfeydd, yn ein cymunedau ac yn ddigidol. 

 

Fel elusen, mae eich cefnogaeth yn hanfodol, ac yn helpu'r Amgueddfa ym mhopeth rydyn ni'n ei wneud.

Mae eich cefnogaeth yn helpu i gysylltu cymunedau ledled Cymru â'u hanes, a gofalu am dros 5 miliwn o wrthrychau yn ein casgliadau ar ran pobl Cymru. Rydych chi’n ein helpu ni i warchod ein gorffennol ac ysbrydoli cenedlaethau drwy gelf, treftadaeth a gwyddoniaeth.

⁠Helpwch ni i greu dyfodol bywiog sy'n siapio stori Cymru! 

Cyfrannwch heddiw

 

amgueddfa.cymru