Datganiadau i'r Wasg

Canfod trysor yn Sir Fon

Cafodd celc o geiniogau aur o'r Oes Haearn ei ddyfarnu'n drysor ar ddydd Mercher 9 Awst gan Uwch Grwner EF Gogledd-orllewin Cymru, Kate Robertson. ⁠ 

Canfuwyd celc ceiniogau (Achos Trysor 20.21) sy'n cynnwys 15 ceiniog aur, a elwir yn staterau, yng Nghymuned Llangoed, Ynys Môn rhwng Gorffennaf 2021 a Mawrth 2022, gan Peter Cockton, Lloyd Roberts a Tim Watson wrth ddefnyddio datgelydd metel, a adroddodd am y canfyddiad i'r Cynllun Henebion Cludadwy. Dyma'r celc cyntaf o geiniogau aur o'r Oes Haearn i gael ei ddarganfod yng Nghymru.

Cafodd y ceiniogau eu darganfod ar wasgar mewn cornel cae. Dywedodd Lloyd Roberts, a ddaeth o hyd i ddwy geiniog gyntaf y celc:

"Ar ôl chwilio am hanes am dros 14 mlynedd, roedd dod o hyd i stater aur yn rhywbeth oeddwn i wedi bod yn breuddwydio amdano. A minnau heb ddisgwyl dod o hyd i un o gwbl, heb sôn am ddod o hyd i un yn Ynys Môn, allwch chi ddychmygu fy syndod a hapusrwydd wrth i mi weiddi ar fy ffrind Peter, ar ôl i mi godi stater aur cyfan mewn cyflwr perffaith?! Byddai'r un geiniog honno ar ei phen ei hun wedi gwneud fy mlwyddyn i, ond es i ymlaen i ddod o hyd i un arall ar fy signal nesaf, ac yna daeth Peter o hyd i dair arall. Ar ôl cysylltu â'r Cynllun Henebion Cludadwy, dyma ni’n dau yn eistedd yno, yfed coffi a dychmygu sut olwg oedd ar y lle 2,000 o flynyddoedd yn ôl, a sut fywydau oedd gan y bobl! Roedden ni wrth ein boddau yn darganfod mai dyma oedd y celc cyntaf o geiniogau aur o'r Oes Haearn i gael ei ddarganfod yng Nghymru erioed, ac rydyn ni'n falch y byddan nhw'n cael eu harddangos mewn amgueddfa i bawb gael llawenhau gyda Peter a minnau.

Dywedodd Tim Watson, a ddaeth o hyd i'r deg ceiniog arall:

"Mae defnyddio datgelydd metel yn rhywbeth gymharol newydd i mi a chefais fy annog i roi cynnig arni gan fy nhad yn ystod y cyfnod clo. Roeddwn i wedi bod dros y cae hwn ambell waith a heb ddod o hyd i fawr ddim o ddiddordeb yno ac yna un noson dyma fi’n dod o hyd i aur! Fe frysiais adref i ddangos i fy ngwraig ac roedden ni'n dau yn rhyfeddu ar y geiniog hon oedd yn wahanol iawn i unrhyw beth oeddwn i wedi dod o hyd iddo - roedd mewn cyflwr perffaith gyda lluniau arddulliedig anarferol. Yn llawn brwdfrydedd, penderfynais uwchraddio fy natgelydd metel, a chael gwerth fy arian wrth i mi ddod o hyd i 9 ceiniog arall yn yr un ardal dros yr wythnosau nesaf. Dwi’n edrych ymlaen yn arw at eu gweld i gyd gyda'i gilydd yn yr amgueddfa, gan mai dim ond nifer fach ohonynt oedd gen i yn fy meddiant ar unrhyw adeg."

Ar ôl i fwy o geiniogau gael eu darganfod, ymwelodd Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd â'r man darganfod gyda Mr Watson a pherchennog y tir ym mis Medi 2021 i weld os oedd unrhyw nodweddion archaeolegol yn weladwy ar yr arwyneb, a allai fod wedi rhoi cliwiau i’r rheswm dros gladdu’r ceiniogau. Dywedodd Sean Derby, Archaeolegydd Cofnod Amgylcheddol Hanesyddol a Swyddog Cofnodi Canfyddiadau PAS Cymru yn Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd:

"Mae'r celc hwn yn enghraifft arbennig o'r dirwedd archaeolegol gyfoethog sy'n bodoli yng ngogledd-orllewin Cymru. Er na wnaeth cyffiniau'r man darganfod roi unrhyw gliwiau o ran tarddiad y canfyddiad, mae'r man darganfod mewn ardal lle'r oedd gweithgarwch cynhanesyddol a Rhufeinig cynnar yn hysbys ac mae'n helpu i wella ein dealltwriaeth o'r rhanbarth hwn. Dwi'n ddiolchgar iawn i’r person wnaeth ddarganfod y trysor a pherchennog y tir am adrodd ar y canfyddiadau ac am ein caniatáu i ymweld â'r safle."

Cafodd y ceiniogau eu bathu rhwng 60 CC a 20 CC mewn tri bathdy yn yr ardal sydd bellach yn Swydd Lincoln. Cânt eu priodoli i'r llwyth Corieltavi, oedd yn byw yn ardal ddaearyddol Dwyrain Canolbarth Lloegr fodern yn ystod diwedd yr Oes Haearn. ⁠ 

Mae dyluniad bob ceiniog yn arddulliedig iawn, wedi’u seilio ar geiniogau aur Phillip II o Macedonia, sy'n dangos penddelw Apolon ar y blaen (ochr y pen) a cherbyd a cherbydwr yn cael eu tynnu gan ddau geffyl ar y cefn (ochr y cynffon). Mae blaen y staterau hyn yn dangos torch a gwallt Apolon, tra bo'r cefn yn dangos ceffyl pen trionglog arddulliedig gyda symbolau amrywiol o'i amgylch. Y symbolau hyn yw'r nodweddion allweddol sy'n ein galluogi i’w rhannu i'w gwahanol fathau.

⁠Ni wnaeth llwythau o'r Oes Haearn a oedd yn byw yng Nghymru fodern fathu eu ceiniogau eu hunain a phrin oeddent yn defnyddio ceiniogau llwythau eraill, felly mae canfyddiadau ceiniogau o'r cyfnod hwn yn brin yng Nghymru. Prin iawn fydd ceiniogau o'r Oes Haearn yn cael eu canfod mewn aneddiadau cyn-Rufeinig ym Mhrydain. Mae'n debyg nad oeddent yn cael eu defnyddio ar gyfer taliadau bob dydd fel rydyn ni'n defnyddio ceiniogau heddiw. Yn hytrach, mae pobl yn meddwl eu bod wedi cael eu defnyddio fel rhoddion rhwng pobl bwerus er mwyn sicrhau cynghreiriau neu ffyddlondeb, fel offrymau i'r duwiau, ac efallai weithiau i brynu pethau o werth uchel. Roedd cyswllt anorfod rhwng masnach, gwleidyddiaeth a chrefydd, a gallai’r celc fod wedi cael ei gladdu am un neu fwy o resymau. Mae'r offeiriaid paganaidd a elwir yn dderwyddon sy'n ymddangos mewn ffynonellau sy'n cyfeirio at Ynys Môn, a chanfyddiadau archaeolegol megis yr offrymau yn Llyn Cerrig Bach, yn awgrymu fod yr ynys yn ganolfan grefyddol bwysig yn ystod y canrifoedd cyntaf CC ac OC. Mae natur sanctaidd yr ynys hon yn debygol o fod wedi chwarae rhan yn yr offrwm. Roedd Mynydd Parys ar Ynys Môn a Phen y Gogarth gerllaw hefyd yn ffynonellau copr, felly mae'n bosibl fod y ceiniogau hyn wedi bod yn daliad gan y Corieltavi yn gyfnewid am gopr.

Mae gan Oriel Môn ddiddordeb caffael y celc ceiniogau hwn, yn dilyn prisiad annibynnol gan y Pwyllgor Prisio Trysorau. Dywedodd Ian Jones, Rheolwr Adeilad a Chasgliadau yn Oriel Môn:

"Mae'r darganfyddiad lleol hwn yn newyddion cyffrous ar gyfer Oriel Môn. Mae'r ceiniogau o bwysigrwydd cenedlaethol ac rydyn ni'n edrych ymlaen at eu hychwanegu at gasgliad amgueddfa Ynys Môn a’u harddangos i'r cyhoedd."

 

Mae Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb ac yma at ddefnydd pawb. Rydyn ni’n elusen, ac mae ein teulu o saith amgueddfa a chanolfan gasgliadau wedi’u gwasgaru ar draws Cymru. Ein nod yw ysbrydoli pawb trwy stori Cymru – yn ein hamgueddfeydd, yn ein cymunedau ac yn ddigidol.  

Mae ein croeso am ddim diolch i nawdd Llywodraeth Cymru, ac mae croeso i bawb o bob cymuned. 

Dewch i fod yn rhan o stori Cymru – trwy ymweld â ni, gwirfoddoli, ymuno neu gyfrannu.  

www.amgueddfa.cymru  

Diwedd