Datganiadau i'r Wasg
Canfod Trysor ar Benrhyn Gwyr
Dyddiad:
2023-09-25
Mae dau ganfyddiad, gan gynnwys modrwy ganoloesol a matrics sêl ôl-ganoloesol arian, wedi eu datgan yn drysor ar 25 Medi 2023 gan Ddirprwy Grwner Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot, Mr Aled Gruffydd.
Canfuwyd modrwy aur ganoloesol (Achos Trysor 21.11) gan Kieran Slade wrth ddefnyddio datgelydd metel ar dir âr yng Nghymuned Porth Eynon, Abertawe, ar 27 Mawrth 2021. Mae gan y fodrwy aur bwrw gantel octagon cau, gydag olion carreg goch tywyll mewn gosodiad cabosión – garned mwy na thebyg. Gall y fodrwy gael ei dyddio i'r 13eg neu'r 14eg ganrif OC, yn ôl arddull a thechneg y gwneuthuriad.
Dywedodd Sian Iles, Curadur Archaeoleg Ganoloesol a Diweddar Amgueddfa Cymru:
“Diolch i'r Cynllun Henebion Cludadwy a'r Ddeddf Drysor 1996 caiff darganfyddiadau, fel y fodrwy hon gyda'i gosodiad cabosión cyflawn, eu cofnodi a'u cadw er budd y cyhoedd, gan gyfrannu'n fawr at ein dealltwriaeth o ffasiwn a mynegiant hunaniaeth yng Nghymru'r Oesoedd Canol.”
Mae gan Amgueddfa Abertawe ddiddordeb caffael yr eitem hon, yn dilyn prisiad annibynnol gan y Pwyllgor Prisio Trysorau.
Cafodd matrics sêl arian o'r 17eg garnif (Achos Trysor 20.18) ei ganfod gan Gwyn Thomas wrth ddefnyddio datgelydd metel mewn tir âr yng Nghymuned Llangynydd, Llanmadog a Cheriton, Abertawe ar 13 Tachwedd 2020. Adroddwyd ar y canfyddiad gyntaf gan Peter Reavill, Swyddog Cyswllt Canfyddiadau Swydd Amwythig a Swydd Henffordd y Cynllun Henebion Cludadwy ar y pryd, cyn ei drosglwyddo i Amgueddfa Cymru i adrodd ar drysor a ganfuwyd yng Nghymru.
Ar wyneb hirgrwn y sêl boced arian mae arysgrif pum dalen wedi plethu a phriflythrennau'r perchennog gwreiddiol – H M. Mae addurn gleiniog ar y border allanol. Ar ben y llabed mae dolen i'w hongian o gadwyn neu stribed ffabrig.
Mae gan Amgueddfa Abertawe ddiddordeb caffael yr eitem hon, yn dilyn prisiad annibynnol gan y Pwyllgor Prisio Trysorau.
Dywedodd Emma Williams, Swyddog Casgliadau a Mynediad Amgueddfa Abertawe:
"Bydd y canfyddiadau hyn yn ychwanegiadau gwych i gasgliadau'r amgueddfa ac yn ein helpu i adrodd mwy o hanes Abertawe. Rydyn ni'n edrych ymlaen at eu harddangos nhw fel y gall pawb eu mwynhau."
Mae Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb ac yma at ddefnydd pawb. Rydyn ni’n elusen, ac mae ein teulu o saith amgueddfa a chanolfan gasgliadau wedi’u gwasgaru ar draws Cymru. Ein nod yw ysbrydoli pawb trwy stori Cymru – yn ein hamgueddfeydd, yn ein cymunedau ac yn ddigidol.
Mae ein croeso am ddim diolch i nawdd Llywodraeth Cymru, ac mae croeso i bawb o bob cymuned.
Dewch i fod yn rhan o stori Cymru – trwy ymweld â ni, gwirfoddoli, ymuno neu gyfrannu.
Diwedd
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:
Lleucu Cooke
Rheolwr Cyfathrebu
lleucu.cooke@amgueddfacymru.ac.uk
Dilynwch y saith aelod o deulu Amgueddfa Cymru ar Twitter, Instagram a Facebook.
NODIADAU I OLYGYDDION
1. © Amgueddfa Cymru – Museum Wales yw hawlfraint pob delwedd.
2. Mae Cynllun Henebion Cludadwy Cymru (PAS Cymru) yn rhaglen sy’n ein galluogi i gofnodi a chyhoeddi canfyddiadau archaeolegol gan aelodau’r cyhoedd. Mae wedi profi’n ffordd hynod effeithiol o gael gwybodaeth archaeolegol hanfodol yn ogystal â denu cynulleidfaoedd a chymunedau nad ydynt yn ymweld ag amgueddfeydd fel arfer.
3. Bob blwyddyn, caiff rhwng 50 a 80 o achosion trysor eu hadrodd yng Nghymru, fel canfyddiadau wedi eu gwneud gan aelodau o'r cyhoedd, pobl gyda'u datgelyddion metel fel arfer. Ers 1997, mae dros 600 o ganfyddiadau trysor wedi cael eu gwneud yng Nghymru, gyda swm y canfyddiadau trysor yn cynyddu'n raddol dros amser, gyda 76 o achosion trysor wedi eu cofnodi yn 2022. Mae'r canfyddiadau hyn yn ychwanegu gwybodaeth a dealltwriaeth newydd pwysig am ein gorffennol, adnodd diwylliannol sy'n gynyddol bwysig i Gymru.
4. Mae'n rhaid i eitemau trysor gael eu hadrodd yn gyfreithiol a'u trosglwyddo i staff PAS Cymru ac Amgueddfa Cymru, fel y prif sefydliad treftadaeth sy'n rheoli gwaith trysor yng Nghymru. Mae curaduron Amgueddfa Cymru yn casglu gwybodaeth fanwl gywir ac yn adrodd ar ganfyddiadau trysor, gan wneud argymhellion i'r crwneriaid, y swyddogion sy'n gwneud penderfyniadau cyfreithiol annibynnol ar drysor a pherchnogaeth.