Datganiadau i'r Wasg

Canfod Trysor ar Benrhyn Gwyr

 

Modrwy aur ganoloesol 

Wyneb hirgrwn y sêl boced arian 

Matrics sêl ôl-ganoloesol arian

Mae dau ganfyddiad, gan gynnwys modrwy ganoloesol a matrics sêl ôl-ganoloesol arian, wedi eu datgan yn drysor ar 25 Medi 2023 gan Ddirprwy Grwner Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot, Mr Aled Gruffydd. ⁠ 

Canfuwyd modrwy aur ganoloesol (Achos Trysor 21.11) gan Kieran Slade wrth ddefnyddio datgelydd metel ar dir âr yng Nghymuned Porth Eynon, Abertawe, ar 27 Mawrth 2021. ⁠ ⁠Mae gan y fodrwy aur bwrw gantel octagon cau, gydag olion carreg goch tywyll mewn gosodiad cabosión – garned mwy na thebyg. Gall y fodrwy gael ei dyddio i'r 13eg neu'r 14eg ganrif OC, yn ôl arddull a thechneg y gwneuthuriad. ⁠ ⁠ 

Dywedodd Sian Iles, Curadur Archaeoleg Ganoloesol a Diweddar Amgueddfa Cymru:

Diolch i'r Cynllun Henebion Cludadwy a'r Ddeddf Drysor 1996 caiff darganfyddiadau, fel y fodrwy hon gyda'i gosodiad cabosión cyflawn, eu cofnodi a'u cadw er budd y cyhoedd, gan gyfrannu'n fawr at ein dealltwriaeth o ffasiwn a mynegiant hunaniaeth yng Nghymru'r Oesoedd Canol.

Mae gan Amgueddfa Abertawe ddiddordeb caffael yr eitem hon, yn dilyn prisiad annibynnol gan y Pwyllgor Prisio Trysorau. 

Cafodd matrics sêl arian o'r 17eg garnif (Achos Trysor 20.18) ei ganfod gan Gwyn Thomas wrth ddefnyddio datgelydd metel mewn tir âr yng Nghymuned Llangynydd, Llanmadog a Cheriton, Abertawe ar 13 Tachwedd 2020. ⁠Adroddwyd ar y canfyddiad gyntaf gan Peter Reavill, Swyddog Cyswllt Canfyddiadau Swydd Amwythig a Swydd Henffordd y Cynllun Henebion Cludadwy ar y pryd, cyn ei drosglwyddo i Amgueddfa Cymru i adrodd ar drysor a ganfuwyd yng Nghymru. 

Ar wyneb hirgrwn y sêl boced arian mae arysgrif pum dalen wedi plethu a phriflythrennau'r perchennog gwreiddiol – H M. Mae addurn gleiniog ar y border allanol. Ar ben y llabed mae dolen i'w hongian o gadwyn neu stribed ffabrig. 

Mae gan Amgueddfa Abertawe ddiddordeb caffael yr eitem hon, yn dilyn prisiad annibynnol gan y Pwyllgor Prisio Trysorau. 

Dywedodd Emma Williams, Swyddog Casgliadau a Mynediad Amgueddfa Abertawe:

"Bydd y canfyddiadau hyn yn ychwanegiadau gwych i gasgliadau'r amgueddfa ac yn ein helpu i adrodd mwy o hanes Abertawe. Rydyn ni'n edrych ymlaen at eu harddangos nhw fel y gall pawb eu mwynhau."

Mae Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb ac yma at ddefnydd pawb. Rydyn ni’n elusen, ac mae ein teulu o saith amgueddfa a chanolfan gasgliadau wedi’u gwasgaru ar draws Cymru. Ein nod yw ysbrydoli pawb trwy stori Cymru – yn ein hamgueddfeydd, yn ein cymunedau ac yn ddigidol.

Mae ein croeso am ddim diolch i nawdd Llywodraeth Cymru, ac mae croeso i bawb o bob cymuned. 

Dewch i fod yn rhan o stori Cymru – trwy ymweld â ni, gwirfoddoli, ymuno neu gyfrannu.  

www.amgueddfa.cymru 

 

Diwedd

 

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Lleucu Cooke

Rheolwr Cyfathrebu

lleucu.cooke@amgueddfacymru.ac.uk

Dilynwch y saith aelod o deulu Amgueddfa Cymru ar TwitterInstagramFacebook.

 

NODIADAU I OLYGYDDION

1. © Amgueddfa Cymru – Museum Wales yw hawlfraint pob delwedd.

2. Mae Cynllun Henebion Cludadwy Cymru (PAS Cymru) yn rhaglen sy’n ein galluogi i gofnodi a chyhoeddi canfyddiadau archaeolegol gan aelodau’r cyhoedd. Mae wedi profi’n ffordd hynod effeithiol o gael gwybodaeth archaeolegol hanfodol yn ogystal â denu cynulleidfaoedd a chymunedau nad ydynt yn ymweld ag amgueddfeydd fel arfer.

3. Bob blwyddyn, caiff rhwng 50 a 80 o achosion trysor eu hadrodd yng Nghymru, fel canfyddiadau wedi eu gwneud gan aelodau o'r cyhoedd, pobl gyda'u datgelyddion metel fel arfer.  Ers 1997, mae dros 600 o ganfyddiadau trysor wedi cael eu gwneud yng Nghymru, gyda swm y canfyddiadau trysor yn cynyddu'n raddol dros amser, gyda 76 o achosion trysor wedi eu cofnodi yn 2022.  Mae'r canfyddiadau hyn yn ychwanegu gwybodaeth a dealltwriaeth newydd pwysig am ein gorffennol, adnodd diwylliannol sy'n gynyddol bwysig i Gymru.  

4. Mae'n rhaid i eitemau trysor gael eu hadrodd yn gyfreithiol a'u trosglwyddo i staff PAS Cymru ac Amgueddfa Cymru, fel y prif sefydliad treftadaeth sy'n rheoli gwaith trysor yng Nghymru.  Mae curaduron Amgueddfa Cymru yn casglu gwybodaeth fanwl gywir ac yn adrodd ar ganfyddiadau trysor, gan wneud argymhellion i'r crwneriaid, y swyddogion sy'n gwneud penderfyniadau cyfreithiol annibynnol ar drysor a pherchnogaeth.