Datganiadau i'r Wasg

Goleuni a Lliw: Pumdeg o Weithiau Argraffiadol ac Ôl-argraffiadol yn yr Amgueddfa Genedlaethol

Heno, siaradodd Dr Colin Bailey, Prif Guradur Casgliad Frick enwog Efrog Newydd am lansiad Goleuni a Lliw yn America. Dyma lyfr trawiadol newydd sy'n adrodd hanes casgliad celf Argraffiadol ac Ôl-argraffiadol byd-enwog Amgueddfa Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd. Dywedodd: "Dyma'r llyfr cyntaf ers dros 20 mlynedd ar gasgliad Caerdydd. Fel un sydd wedi bod i Gaerdydd, rydw i wrth fy modd bod Amgueddfa Genedlaethol Cymru wedi lansio'r llyfr yma yn Efrog Newydd. Llongyfarchiadau i'r awdur Ann Sumner a'r Amgueddfa ar y llyfr ardderchog yma."

Daeth awdur y Llyfr, Dr Ann Sumner, Curadur Celf Gain Amgueddfa Genedlaethol Cymru, i'r lansiad a gynhaliwyd gan Prif Gonswl Prydain, Sir Philip Thomas. Meddai:

"Rydyn ni mor falch o gael lansio'r llyfr yma yn Efrog Newydd. Mae gweithiau'r Argraffiadwyr wedi bod yn boblogaidd yn America ers blynyddoedd, a ffurfiwyd rhai o gasgliadau mawr America ddechrau'r 20fed ganrif yr un pryd â chasgliad hynod y chwiorydd Davies yng Nghymru. Trawsnewidiodd eu cymynroddion i ein casgliadau ni'n llwyr.

"Mae'r gweithiau Argraffiadol yng Nghaerdydd yn eithriadol, ac mae hi wedi bod yn bleser ymchwilio iddynt ac ysgrifennu'r llyfr newydd yma. Gobeithio y bydd yn codi proffil y casgliadau'n genedlaethol ac yn rhyngwladol, ac yn denu pobl America i ddod i weld y gweithiau eu hunain. Gobeithio hefyd y bydd y llyfr yma'n ffynhonnell wybodaeth werthfawr i'n hymwelwyr ac y bydd yn annog iddyn nhw edrych o'r newydd ar rai o'n gweithiau gwych" ychwanegodd Dr Sumner.

Mae casgliad yr Amgueddfa'n cynnwys gweithiau Argraffiadol eiconaidd fel La Parisienne Renoir a ddangosodd yn yr arddangosfa Argraffiadol gyntaf erioed ym 1874, tri darn o gyfres Lilïau Dŵr Monet a thri o'i olygfeydd diweddar o Fenis. Mae yna weithiau rhagorol gan Manet, Pissarro, Sisley, Berthe Morisot, Degas, Cezanne a Van Gogh hefyd.

Goleuni a Lliw yw cyhoeddiad cyntaf yr Amgueddfa ar y casgliad arbennig yma o luniau a cherfluniau ers dros 20 mlynedd. Cymynroddion gan Gwendoline a Margaret Davies yw'r rhan helaeth o'r casgliad. Roedd y chwiorydd yn wyresau i David Davies, Llandinam (1818-1890), mentrwr diwydiannol mwyaf Cymru yn y 19eg ganrif.

Mae'r llyfr yn cynnwys traethawd am gasglu gweithiau'r Argraffiadwyr. Mae'r traethawd yn gosod y chwiorydd Davies yn eu cyd-destun ac yn eu cymharu â chasglwyr yn America. Mae'r cyhoeddiad newydd yn llawn lluniau lliw, ac yn cynnwys llawer o luniau at ddibenion cymharu hefyd.

Mae'r gwaith yn crynhoi syniadau a dehongliadau cyfoes am rhai o'n gweithiau enwocaf, gan gynnwys Effaith Eira yn Petit-Montrouge, Paris Manet