Datganiadau i'r Wasg
Canfod Trysor yn Ne Cymru a Phowys
Dyddiad:
2023-11-14Mae pedwar canfyddiad, gan gynnwys celc o’r Oes Efydd, dwy fodrwy arian Rufeinig a broetsh arian canoloesol, wedi eu datgan yn drysor ar ddydd Mawrth 14 Tachwedd 2023 gan Patricia Morgan, Crwner Ardal Canol De Cymru.
Derbyniodd Mark Lodwick a Dr Susie White, o Gynllun Henebion Cludadwy yng Nghymru (PAS Cymru), adroddiad am y canfyddiadau hyn, ac fe wnaethon nhw eu nodi fel trysor posibl.
Cafodd celc o ddiwedd yr Oes Efydd (Achos Trysor 21.24) ei ddarganfod gan Dr Peter Anning ac Alex Evans ar 2 Chwefror 2021, ar ôl i waith draenio amaethyddol gael ei wneud mewn cae yng nghymuned Sain Ffagan, Caerdydd. Mae’r celc yn cynnwys darnau o 38 arteffact efydd, gan gynnwys bwyelli socedog, pennau gwaywffyn, amrywiaeth o jetiau castio a darnau o ingot. Ymysg yr eitemau mwy anarferol mae amgarn o waelod gwain cleddyf, gaing socedog ar gyfer gwaith coed a dwy fodrwy efydd, a ddefnyddiwyd o bosib fel ffitiadau harnais ceffyl.
Mae’r celc yn dyddio o rhwng 1000 ac 800 CC ac mae’n debyg y cafodd ei gladdu yn fwriadol o fewn un twll yn y ddaear. Byddai wedi bod yn bosibl aildoddi’r metel yn wrthrychau efydd newydd, felly roedd y penderfyniad i gladdu’r gwrthrychau yn fwriadol. Mae’n debygol fod y gwrthrychau efydd hyn wedi’u casglu at ei gilydd gan gymuned leol a’u claddu yn ystod seremoni ddefodol oedd yn mynegi arferion cymdeithasol a chredoau’r cyfnod.
Dywedodd Chris Griffiths, ymchwiliwr sy’n gweithio yn Amgueddfa Cymru a Phrifysgol Reading:
“Mae’r casgliad hwn o ddarnau bach o arteffactau yn cynnig cipolwg diddorol ar gyfoeth bywyd yng nghyffiniau Caerdydd tua diwedd yr Oes Efydd. Mae’r amgarn ac un o’r darnau bwyell socedog yn fwy anarferol ac o ddiddordeb arbennig, gyda’r darnau bwyell socedog yn debygol o fod wedi’u gwneud a’u mewnforio o dde-ddwyrain Lloegr. Drwy’r eitemau hyn, rydyn ni’n cael cipolwg ar y niferoedd o gysylltiadau â chymunedau pell, a fyddai wedi helpu pobl i ffynnu yn y rhan hon o’r wlad, tua 3,000 o flynyddoedd yn ôl.”
Dywedodd Adam Gwilt, Prif Guradur Cynhanes, Amgueddfa Cymru:
“Mae hwn yn gelc sylweddol o ddiwedd yr Oes Efydd o dde-ddwyrain Cymru, sy’n cynnwys amrywiaeth o offer, arfau a chynnyrch castio efydd. Mae’n ychwanegu at ddarlun rhanbarthol ehangach o bobl yn dewis claddu llawer o gelciau efydd ar yr adeg hon, yn aml wrth ymyl afonydd a nentydd. Mae’r canfyddiad hwn yng nghymuned Sain Ffagan yn ychwanegu at glwstwr hysbys o gelciau a ddaethpwyd o hyd iddyn nhw ar hyd afon Elái a’i his-afonydd. Bydd ei ychwanegu at y casgliad cenedlaethol yn ein helpu i gyflwyno archaeoleg cynhanesyddol y dirwedd mae Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru wedi’i lleoli ynddi.”
Mae Amgueddfa Cymru wedi dangos diddordeb mewn caffael y celc, yn dilyn prisiad annibynnol gan y Pwyllgor Prisio Trysor.
Dywedodd Dr Peter Anning, darganfyddwr tri o’r pedwar trysor:
“Dwi ddim yn siŵr sut dwi wedi dod o hyd i gymaint o drysorau mewn cyfnod mor fyr! Dwi’n falch fod y canfyddiadau’n cael eu caffael gan Amgueddfa Cymru ac Amgueddfa’r Bont-faen a dwi’n gobeithio y bydd y cyhoedd a’r amgueddfeydd yn cael budd o’u cael yn eu casgliadau.”
Canfuwyd darn o fodrwy arian Rufeinig (Achos Trysor 22.37) gan Dr Peter Anning ym mis Ebrill 2020, tra’n defnyddio datgelydd metel ar dir âr yng nghymuned Sain Nicolas a Tresimwn, Bro Morgannwg. Mae’r cantel hirgrwn canolog ar y fodrwy wedi’i arysgrifio arno â dyluniad cangen palmwydd, sy’n ei ddyddio i’r 2il neu’r 3ydd ganrif OC.
Canfuwyd broetsh arian canoloesol (Achos Trysor 22.18) gan Dr Peter Anning ar 12 Chwefror 2022, tra’n defnyddio datgelydd metel ar gae wedi ei droi yng nghymuned Llanilltud Fawr, Bro Morgannwg. Roedd y pin plaen wedi’i atodi i’r froetsh arian gylchog ar ryw adeg ac yn dyddio i’r 13eg neu 14eg ganrif.
Mae Amgueddfa’r Bont-faen a’r Ardal wedi dangos diddordeb mewn caffael y fodrwy a’r froetsh, wedi iddynt gael eu prisio’n annibynnol gan y Pwyllgor Prisio Trysorau.
Canfuwyd darn o fodrwy arian Rufeinig (Achos Trysor 22.66) gan Richard Murton ar 6 Tachwedd 2022, tra’n defnyddio datgelydd metel ar dir pori yng nghymuned Llanfechain, Powys. Mae gan y fodrwy, o’r ganrif 1af neu’r 2il ganrif OC, ysgwyddau addurnedig wedi’u mowldio a gosodiad canolog llydan, sydd bellach yn wag. Yn wreiddiol, byddai hwn wedi dal gosodiad carreg lled-werthfawr neu wydr, a fwy na thebyg gyda motiff wedi’i naddu.
Mae’r Lanfa, Amgueddfa Powysland a Llyfrgell y Trallwng wedi dangos diddordeb caffael y darn o fodrwy, wedi iddi gael ei phrisio’n annibynnol gan y Pwyllgor Prisio Trysorau.
Dywedodd David Howell, Swyddog Ymgysylltu Cynllun Henebion Cludadwy yng Nghymru (PAS Cymru):
“Am 25 mlynedd mae PAS Cymru wedi bod yn diogelu a gofalu am wybodaeth am archaeoleg Cymru. Yn ystod y cyfnod hwn mae PAS Cymru wedi cofnodi dros 90,000 o arteffactau, gan adeiladu cysylltiadau â’r gymuned datgelyddwyr metel a chanfyddwyr yn gyffredinol, er mwyn sicrhau bod gwybodaeth am hanes ac archaeoleg Cymru yn cael ei chofnodi a’i rhannu â’r genedl.”
Mae Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb ac yma at ddefnydd pawb. Rydyn ni’n elusen, ac mae ein teulu o saith amgueddfa a chanolfan gasgliadau wedi’u gwasgaru ar draws Cymru. Ein nod yw ysbrydoli pawb trwy stori Cymru – yn ein hamgueddfeydd, yn ein cymunedau ac yn ddigidol.
Mae ein croeso am ddim diolch i nawdd Llywodraeth Cymru, ac mae croeso i bawb o bob cymuned.
Dewch i fod yn rhan o stori Cymru – trwy ymweld â ni, gwirfoddoli, ymuno neu gyfrannu.