Datganiadau i'r Wasg

Amgueddfa Cymru yn cyhoeddi partneriaeth â Glamorgan Brewing Co. i gyflenwi’r cwrw ar gyfer Gwesty’r Vulcan

Mae Amgueddfa Cymru wedi penodi Glamorgan Brewing Company fel y bragdy i gyflenwi Gwesty’r Vulcan pan fydd yn agor yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru yn 2024. 

O’r chwith i’r dde – Ian Duggan – Technegydd Glamorgan Brewery Company, Emily Kneale - Rheolwr Grŵp Bwyd a Diod Amgueddfa Cymru, Chris Lloyd – Cyfarwyddwr Gwerthiant Glamorgan Brewery Company a Dafydd Wiliam, Prif Guradur: Adeiladau Hanesyddol

Yn dilyn proses dendro gystadleuol, mae Glamorgan Brewing Company o Lantrisant wedi cael ei ddewis i gyflenwi detholiad o gwrw unigryw ar gyfer y dafarn wedi’i hailgodi. 


Adeiladwyd y Vulcan ar Adam Street yng Nghaerdydd ym 1853, yng nghalon cymuned Wyddelig Newtown. Bu’n dyst i newid mawr dros y blynyddoedd wrth i Gaerdydd dyfu yn ganolfan ddiwydiannol a phrifddinas y genedl, cyn cau ei drysau am y tro olaf yn 2012.

 

Yn dilyn ymgyrch deimladwy i’w achub rhag ei ddymchwel, cynigiwyd yr adeilad yn ffurfiol i’r Am gueddfa gan berchnogion Gwesty’r Vulcan yn 2012.


Yna, cafodd yr adeilad enwog ei ddymchwel fesul bricsen gan dîm adeiladau hanesyddol Amgueddfa Cymru a’i symud i Sain Ffagan.

 

Pan fydd y dafarn hanesyddol yn ailagor yn 2024, bydd y Vulcan wedi’i haddurno fel y byddai ym 1915, blwyddyn bwysig yn ei hanes. Roedd gwaith adnewyddu helaeth newydd orffen, pan aildrefnwyd yr ystafelloedd ac ychwanegu’r teils gwyrdd a brown trawiadol ar y blaen.

 

Mae Glamorgan Brewing Co. yn fragdy a chyfanwerthwr teuluol o fri yn Llantrisant, de Cymru. Dechreuon nhw ar eu taith ym 1994 gyda’r nod o ddod â chwrw gwell i dafarndai, clybiau, bariau a phobl Cymru. Maen nhw’n bragu arddulliau clasurol gyda blas Cymreig, wedi’u hysbrydoli gan hanes lleol a diwylliant Cymreig. Mae partneriaeth Amgueddfa Cymru â’r bragdy yn ymestyn presenoldeb Glamorgan Brewing Co. ledled sefydliadau diwylliannol Cymru, a hwythau eisoes yn bartner balch i Ganolfan Mileniwm Cymru.

 

Bydd y Vulcan yn agor ei drysau am y tro cyntaf ers dros ddegawd ac yn gwerthu cwrw wedi’i fragu llai na 10 milltir o’i chartref newydd yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru. Mae’r fenter newydd hon yn cefnogi ymrwymiad parhaus Amgueddfa Cymru i gynaliadwyedd ac i hyrwyddo cynnyrch Cymreig lleol ac o ansawdd ledled ei chaffis, bwytai a siopau.

 

Dywedodd Emily Kneale, Rheolwr Bwyd a Diod Grŵp Amgueddfa Cymru:

 

“Mae Gwesty’r Vulcan yn broject cyffrous iawn ac rydyn ni’n gweithio’n galed tu ôl i’r llenni i fynd â’r Vulcan yn ôl mewn amser i 1915. Mae penodiad Glamorgan Brewing Co. yn gam mawr tuag at ailagor yr adeilad eiconig yn Sain Ffagan.”
“Mae’n bleser cael gweithio gyda busnes lleol yn datblygu’r detholiad o gwrw Cymreig fydd ymwelwyr yn gallu eu mwynhau yn y Vulcan.”

 

Dywedodd Chris Lloyd, Pennaeth Gwerthiant Glamorgan Brewing Company:

 

“Rydyn ni yn Glamorgan Brewing Co. wrth ein boddau o’n partneriaeth ag Amgueddfa Cymru yng Ngwesty’r Vulcan. Rydyn ni’n edrych ymlaen at ddatblygu ambell i gwrw i baratoi ar gyfer y peint cyntaf flwyddyn nesaf. Allwn ni ddim disgwyl i weld sut mae’r cwrw’n gwneud, gan y bydd y Vulcan yn sicr yn ychwanegiad gwych at Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru.”

 

Fel elusen, mae Amgueddfa Cymru yn dibynnu ar haelioni pobl Cymru ac ymwelwyr i’n helpu i warchod, cadw ac adrodd stori Cymru ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.  

 

Mae’r project wedi derbyn cefnogaeth ariannol gan Ymddiriedolaeth Elusennol Simon Gibson, Ymddiriedolaeth Elusennol Swire ac Ymddiriedolaeth Radcliffe  tuag at y gwaith adeiladu, hyfforddiant sgiliau a’r elfennau cyfranogol.

 

Fodd bynnag, mae Amgueddfa Cymru yn dal i ofyn am gyfraniadau i helpu i ddod â darn pwysig o hanes Caerdydd yn ôl yn fyw yn Sain Ffagan. I gyfrannu ewch i 
⁠Cefnogi project Gwesty’r Vulcan | Amgueddfa Cymru 


www.amgueddfa.cymru


DIWEDD

Nodiadau i’r golygydd: 
• Mae Gwesty’r Vulcan yn safle adeiladu, ac ni allwn gynnal unrhyw ffilmio neu ffotograffiaeth tu mewn ar hyn o bryd. 
• Mae Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb ac yma at ddefnydd pawb. Rydyn ni’n elusen, ac mae ein teulu o saith amgueddfa a chanolfan gasgliadau wedi’u gwasgaru ar draws Cymru. Ein nod yw ysbrydoli pawb trwy stori Cymru – yn ein hamgueddfeydd, yn ein cymunedau ac yn ddigidol. 
• Mae ein croeso am ddim diolch i nawdd Llywodraeth Cymru, ac mae croeso i bawb o bob cymuned. 
• Dewch i fod yn rhan o stori Cymru – trwy ymweld â ni, gwirfoddoli, ymuno neu gyfrannu.