Datganiadau i'r Wasg

Amgueddfa Cymru yn caffael Môrwelion gan Garry Fabian Miller ar gyfer y casgliad

Mae gwaith o 40 o ffotograffau gan Garry Fabian Miller – un o ffigurau mwyaf blaengar ffotograffiaeth gain – wedi cael ei gaffael gan Amgueddfa Cymru ar gyfer ei chasgliad parhaol.

Mae Amgueddfa Cymru wedi caffael project mawr cyntaf Garry Fabian Miller, Môrwelion, diolch i gefnogaeth y Gronfa Gelf ac Ymddiriedolaeth Derek Williams. Mae Môrwelion ⁠yn gyfres o bedwar deg print cibachrome a dynnwyd rhwng 1976 a 1977 ⁠o do tŷ yr artist yn Clevedon. Mae'r olygfa yn edrych ar draws Môr Hafren tua Chymru, a'r ffotograffau i gyd wedi'u tynnu o'r un safle ar amserau gwahanol o'r dydd ac mewn gwahanol dywydd.⁠ 

 

Mae pob ffotograff ar ffurf sgwâr, gyda'r gorwel yn rhannu'r môr a'r awyr. Y canlyniad yw cyfres o bortreadau sydd yn dechnegol unfath ond eto'n hollol unigryw. Dyma Gymru o bersbectif anarferol, anghyfarwydd, sy'n annog y gynulleidfa i ystyried hunaniaeth, ffiniau, ac ymdeimlad o le. ⁠ Bron i hanner canrif wedi'r ffotograffau, mae'r gwaith yn cael bywyd newydd yng nghyd-destun yr argyfwng hinsawdd a chodi lefel y môr, a breuder cynyddol cymunedau arfordirol. 

Mae Garry Fabian Miller yn adnabyddus am ei ffotograffau di-gamera ac er i Môrwelion, fel un o'i brojectau cynharaf, gael ei gwblhau gyda chamera, fe ysbrydolodd dechneg sydd wedi llywio ei yrfa gyfan. Dangoswyd y gyfres gyda'i gilydd am y tro cyntaf yn arddangosfa Môrwelion/The Sea Horizon, ⁠yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd rhwng 18 Chwefror a 10 Medi 2023. 

 

Roedd 2023 yn ddathliad o fywyd a gwaith Garry Fabian Miller. Cyflwynwyd arddangosfa o'i yrfa, ADORE, yn Arnolfini rhwng 18 Chwefror a 28 Mai, ac arddangosfa a cyhoeddwyd ei gofiant, The Dark Room, fel rhan o'i Gymrodoriaeth Anrhydeddus yn Llyfrgell Bodleian, Prifysgol Rhydychen. 

 

 

 

Dywedodd Garry Fabian Miller,

 

"Môrwelion oedd y peth cyntaf wnes i, gan fy helpu i ffeindio 'nhraed yn y byd. Dyma nhw'n fy helpu i ddeall y gallai edrych ar draws y dŵr tua'r gorwel bontio, a dangos fy ffordd i fi. I fi, mae hyn yn llawn gobaith am sut all bywyd gael ei siapio. Mae hefyd yn teimlo fel penllanw – bod y gwaith wedi cyrraedd adref mewn ffordd na allwn i fyth wedi ei ddychmygu. Y peth cyntaf a wnes i erioed yn bodoli yn y lle mae'n ei bortreadu.

 

Dywedodd Bronwen Colquhoun, Uwch Guradur Ffotograffiaeth Amgueddfa Cymru,

 

"Mae'n bleser caffael ⁠Môrwelion ar gyfer casgliad Amgueddfa Cymru ar ôl ei dangos yn oriel ffotograffiaeth Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn gynharach eleni. Roedd hi'n arddangosfa deimladwy, wnaeth ddal dychymyg ein hymwelwyr a chodi cwestiynau. Mae'n waith pwysig mewn sawl ffordd, ac rydyn ni'n ddiolchgar iawn i'r Gronfa Gelf ac Ymddiriedolaeth Derek Williams am eu cefnogaeth hael a wnaeth y caffaeliad hwn yn bosibl.”

 

Dywedodd Jenny Waldman, Cyfarwyddwr Art Fund: 

“Mae’r gyfres ryfeddol hon o 40 o ffotograffau gan Garry Fabian Miller yn cyflwyno persbectif o Gymru sy’n fyfyriol ac yn swynol. Rwy’n falch iawn bod Art Fund wedi gallu cefnogi Amgueddfa Cymru i brynu Morwelion ar gyfer y casgliad, lle bydd yn ysbrydoli ymwelwyr o Gymru a thu hwnt.”

Mae Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb ac yma at ddefnydd pawb. Rydyn ni’n elusen, ac mae ein teulu o saith amgueddfa a chanolfan gasgliadau wedi’u gwasgaru ar draws Cymru. Ein nod yw ysbrydoli pawb trwy stori Cymru – yn ein hamgueddfeydd, yn ein cymunedau ac yn ddigidol.  

Mae ein croeso am ddim diolch i nawdd Llywodraeth Cymru, ac mae croeso i bawb o bob cymuned. 

Dewch i fod yn rhan o stori Cymru – trwy ymweld â ni, gwirfoddoli, ymuno neu gyfrannu.  

www.amgueddfa.cymru  

Diwedd