Datganiadau i'r Wasg

Datganiad Amgueddfa Cymru: Cyhoeddiad Cyllideb Ddraft 24/25 Llywodraeth Cymru

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei chyllideb ddrafft ar gyfer 2024-25 ar ddydd Mawrth 19 Rhagfyr, yn cynnwys toriad o 10.5% i gyllid Amgueddfa Cymru. Mae hyn yn rhan o doriadau sylweddol ar draws holl bortffolios Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â diffyg mawr yng nghyllideb y Llywodraeth.

Dyma’r toriad mwyaf i gyllideb yn hanes yr amgueddfa, a bydd yn cael effaith fawr ar waith Amgueddfa Cymru o ddydd i ddydd. Er mwyn sicrhau y gall y sefydliad barhau i weithredu o dan y gyllideb newydd, mae Amgueddfa Cymru yn gorfod ystyried gwahanol ffyrdd o arbed arian, gan gynnwys newid trefniadau gweithredu, cau gwasanaethau, ac o bosibl golli swyddi.

Mae hwn yn gyfnod cythryblus i Amgueddfa Cymru, a’r flaenoriaeth gyntaf dros yr wythnosau a’r misoedd i ddod yw darparu gofal a chefnogaeth i’n staff a’n gwirfoddolwyr. Byddwn hefyd yn ymgynghori â’r undebau llafur drwy gydol y broses.

Dywedodd Jane Richardson, Prif Weithredwr Amgueddfa Cymru:

“Rhaid i ni sylweddoli y bydd effeithiau hirdymor y toriadau hyn ar Amgueddfa Cymru, a’r sector diwylliant yng Nghymru, yn sylweddol. Rydyn ni eisoes yn gweithio mewn hinsawdd economaidd hynod heriol ar ôl Covid, wrth i ni geisio rheoli risgiau er mwyn gwarchod, diogelu a hyrwyddo’r casgliad cenedlaethol.

“Mae’r sefyllfa hon yn heriol i bawb, ac rydyn ni’n cydnabod y bydd rhaid i ni wneud penderfyniadau ariannol anodd. Byddwn yn canolbwyntio ar gyflawni ein pwrpas creiddiol, sef ysbrydoli addysg a mwynhad i bawb drwy gyfrwng casgliad cenedlaethol Cymru.” 

Mae Amgueddfa Cymru yn croesawu dros 1.3 miliwn o ymwelwyr y flwyddyn i’w saith amgueddfa a chanolfan gasgliadau, ac yn gyfrifol am warchod a gofalu am gasgliad cenedlaethol Cymru – dros 5 miliwn eitem o bwysigrwydd hanesyddol a diwylliannol. Yr Amgueddfa yw un o ddarparwyr mwyaf Cymru o addysg tu allan i’r ystafell ddosbarth – bob blwyddyn bydd dros 200,000 o blant a phobl ifanc yn defnyddio adnoddau addysg yr Amgueddfa, sy’n seiliedig ar y casgliadau.

Wedi i Lywodraeth Cymru gyhoeddi ym mis Hydref fod toriadau ar y ffordd, mae Ymddiriedolwyr ac uwch dîm Amgueddfa Cymru wedi bod yn cynllunio ar gyfer newidiadau mawr. O dan y teitl ‘Llywio ein Dyfodol’, bydd y sefydliad yn cychwyn ar raglen sylweddol fydd yn cynllunio a sicrhau dyfodol mwy cynaliadwy i Amgueddfa Cymru. 

Dywedodd Jane Richardson: 

“Rhaid i ni edrych eto ar beth yw Amgueddfa Cymru, beth ydyn ni’n ei gynrychioli, a beth ydyn ni’n ei gyflawni. Mae gwahanol gyfleoedd ac opsiynau i’w hystyried, ond nid yw am fod yn hawdd ac mae llawer mwy o heriau ar y gorwel.

“Mae’r casgliad cenedlaethol yn drysor diwylliannol gwerthfawr sy’n perthyn i holl bobl Cymru. Mae’n adnodd i bawb ei fwynhau a’i brofi yn eu cymunedau, yn ein teulu o amgueddfeydd, ac yn ddigidol. Mae’n cynrychioli ac yn dathlu celf, hanes, gwyddoniaeth a diwylliant amrywiol Cymru. Mae felly yn hollbwysig ein bod yn taclo’r her ariannol hon gyda’r nod o greu Amgueddfa Cymru sy’n ffit i’r dyfodol.”

Nodiadau i Olygyddion

  • Mae Amgueddfa Cymru yn Gorff Cyhoeddus Gweithredol a Noddir gan Lywodraeth Cymru. Fe’i sefydlwyd drwy Siarter Frenhinol, ac mae’n derbyn canran uchel o’i nawdd gan Lywodraeth Cymru. Rydyn ni hefyd yn elusen gofrestredig, ac yn ddarostyngedig i oruchwyliaeth reoleiddiol y Comisiwn Elusennau.

  • Rydyn ni’n elusen, ac mae ein teulu o saith amgueddfa a chanolfan gasgliadau wedi’u gwasgaru ar draws Cymru. Ond rydyn ni’n fwy nag adeiladau. Mae ein hamgueddfeydd yn ganolfannau cymunedol pwysig sy’n ymestyn tu hwnt i’w milltir sgwâr. Ein nod yw ysbrydoli pawb drwy stori Cymru, gan gydnabod bod gan bawb rywbeth i’w gyfrannu drwy ein hamgueddfeydd, rhaglenni, casgliadau a’r gwaith yr ydym yn ei wneud.

  • Amgueddfa Cymru yn 2022-23: 

  • Deg Atyniad am Ddim i Ymwelwyr Gorau y DU gan gylchgrawn Which? wedi rhoi Sain Ffagan ar y brig ac Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn bumed eleni. ⁠

  • Dathlodd Big Pit ei ben-blwydd yn 40 oed gyda digwyddiadau i’r cyhoedd ac i’r staff. Cafodd hefyd ei enwi’n un o’r atyniadau am ddim gorau i ymwelwyr yng nghylchgrawn You.