Datganiadau i'r Wasg

Y Fenyw Las ar ei gwyliau!

Mae un o hoff baentiadau Amgueddfa Cymru yn teithio i Baris er mwyn cymryd rhan flaenllaw mewn arddangosfa i ddathlu 150 o flynyddoedd ers sioe gyntaf yr Argraffiadwyr. 

Mae La Parisienne,gan Renoir (y Fenyw Las), yn mynd ar fenthyg i'r Musee D'Orsay fel rhan o arddangosfa Paris 1874: Inventing Impressionism ⁠sy'n agor ar 26 Mawrth eleni. Bydd yr arddangosfa wedyn yn symud i'r National Gallery of Art yn Washington ym mis Medi.

Bydd gwaith enwog Renoir yn ymddangos ochr yn ochr â gweithiau artistiaid fel Monet a Cezanne – rhai o gyd-sylfaenwyr y mudiad Argraffiadol a gynhaliodd eu harddangosfa gyntaf ym 1874.

Dywedodd y Cyfarwyddwr Casgliadau ac Ymchwil, Kath Davies:

"Anaml fydd y Fenyw Las yn gadael Cymru gan taw hi un o'n hatyniadau mwyaf poblogaidd ac mae llawer yn ymweld â'r Amgueddfa'n unswydd i'w gweld hi. Ond ar achlysur arddangosfa arbennig i ddathlu blwyddyn ei chreu mae'n gyfle i La Parisienne ddychwelyd at ei gwreiddiau, mwynhau cwmni hen ffrindiau, a diddanu miloedd o ymwelwyr Paris. Bon voyage i'r hen ferch!"   

Daeth La Parisienne yn rhan o gasgliad celf Amgueddfa Cymru yn y 1960au fel rhan o gymynrodd Margaret a Gwendoline Davies. Fe deithiodd y chwiorydd Davies yn helaeth a chasglu amrywiaeth eang o baentiadau a dyfodd yn un o gasgliadau celf preifat pwysicaf Ewrop. ⁠ ⁠

Bydd un o weithiau Edward Degas, Menyw yn y Baddon yn cael ei ddangos yn lle La Parisienne am y tro. 

Nodiadau i Olygyddion

  • Rydyn ni’n elusen, ac mae ein teulu o saith amgueddfa a chanolfan gasgliadau wedi’u gwasgaru ar draws Cymru. Ond rydyn ni'n fwy nag adeiladau. Mae ein safleoedd yn ofodau cymunedol hanfodol sy'n llawer mwy na lle ar fap. Ein nod yw defnyddio stori Cymru i ysbrydoli pawb fyddwn ni'n eu cyffwrdd, gan gydnabod bod gan bawb rywbeth i'w gyfrannu drwy ein casgliadau a'r gwaith rydyn ni'n ei wneud.

Cyfrannwch heddiw

Prynwch gopi o La Parisienne