Datganiadau i'r Wasg
Yr Hen A'r Newydd: Canfod Trysor Yn Ne Cymru a Phowys
Dyddiad:
2024-01-25Mae chwe chanfyddiad, gan gynnwys llwy doiled arian Rufeinig, celc o'r Oes Efydd, a modrwy arian gilt Ôl-Ganoloesol, wedi eu datgan yn drysor ar ddydd Iau 25 Ionawr 2024 gan Grwner Rhanbarthol E.F. ardal Canol De Cymru, Patricia Morgan.
Cafodd ligula (llwy doiled) (Achos Trysor 21.39) Rufeinig ei chanfod gan Mr Valentinas Avdejevas wrth ddefnyddio datgelydd metel yng Nghymuned St Nicholas a Bonvilston, Bro Morgannwg ym mis Mehefin 2020. Cafodd y canfyddiadau eu cyfeirio gyntaf at Mark Lodwick, Cydlynydd y Cynllun Henebion Cludadwy yng Nghymru (PAS Cymru). Cafodd ei adnabod fel Trysor, ai'i adrodd arno gan Evan Chapman, Uwch Guradur Archaeoleg Amgueddfa Cymru.
Mae gan y llwy arian fechan bowlen gron a choesyn tenau sy'n teneuo. Roedd y coesyn a'r bowlen yn syth yn wreiddiol, ond maen nhw wedi plygu mewn dau le erbyn hyn. Mae sawl defnydd wedi cael eu cynnig ar gyfer ligulae Rhufeinig gan gynnwys; tynnu colur a phersawr o boteli gyddfau hir er mwyn eu defnyddio ar yr wyneb a'r corff, tynnu moddion o boteli a'i gymryd, ac mewn triniaethau meddygol.
Mae ligulae arian (yn hytrach na'r aloi copr mwy cyffredin) yn cael eu cysylltu â thriniaethau meddygol – o bosib oherwydd nodweddion gwrthficrobaidd arian. Mae'r llwy hon yn dystiolaeth archaeolegol werthfawr o wybodaeth feddygol ac arferion glanweithdra personol yng ngorllewin Prydain dan y Rhufeiniaid.
Mae Amgueddfa'r Bont-faen a'r Cylch wedi dangos diddordeb mewn caffael y Trysor, wedi iddo gael ei brisio'n annibynnol gan y Pwyllgor Prisio Trysorau.
Cafodd clec Oes Efydd o saith arteffact efydd (Achos Trysor 22.13) ei ganfod gan Mark Herman wrth ddefnyddio datgelydd metel yng Nghymuned Pendoylan, Bro Morgannwg ar 8 Medi 2019. Cafodd y canfyddiadau eu cyfeirio gyntaf at Mark Lodwick o PAS Cymru, cyn i guraduron Amgueddfa Cymru adrodd arnynt fel Trysor.
Mae'r celc yn cynnwys gweddillion dau gleddyf a phum bwyell socedog efydd yn dyddio o ddiwedd yr Oes Efydd, tua 1000-800 CC. Mae gan ddwy o'r bwyeill addurn asennog, sydd wedi'u hadnabod fel esiamplau o Arddull De Cymru. Mae'r dyluniad, sy'n nodweddiadol o'r ardal, yn gyffredin ar draws de-ddwyrain Cymru, ac yn cael ei chanfod mewn celciau ac yn unigol. Mae enghreifftiau tebyg wedi eu canfod ar draws gogledd a gorllewin Cymru, de Lloegr a gogledd Ffrainc, sy'n brawf bod rhwydwaith eang o gyfnewid metel yn bodoli yn niwedd yr Oes Efydd.
Dywedodd Chris Griffiths, myfyriwr doethurol sy'n gweithio ym Mhrifysgol Reading ac Amgueddfa Cymru:
“Mae hwn yn gelc anarferol am ei fod yn cynnwys gweddillion dau gleddyf – un gyda darn o flaen y llafn gyda rhigolau addurnol wedi’i gynhyrchu yng ngogledd-orllewin Ffrainc. Mae’r darn bychan hwn felly yn rhan allweddol o stori llawer mwy, sy’n cysylltu trigolion Cymuned Pendoylan â thrigolion gogledd-orllewin Ffrainc bron i 3,000 o flynyddoedd yn ôl.”
Dywedodd Adam Gwilt, Prif Guradur Cynhanes, Amgueddfa Cymru:
"Yn ddiweddar, mae nifer fawr o gelciau wedi cael eu canfod ar draws de-ddwyrain Cymru gan ddatgelyddwyr metel, yn enwedig ar hyd dyffryn afon Elai a'i llednentydd. Bydd caffael y celc hwn ar gyfer y casgliad cenedlaethol yn ein helpu i adrodd straeon am y bobl wnaeth gynhyrchu, defnyddio a chladdu'r gwrthrychau gwerthfawr hyn."
Mae gan Amgueddfa Cymru ddiddordeb mewn caffael y celc, wedi iddo gael ei brisio'n annibynnol gan y Pwyllgor Prisio Trysorau.
Cafodd modrwy arian gilt Ôl-Ganoloesol (Achos Trysor 23.42) ei chanfod gan Mr Carlton Sheath yn Awst 2023, wrth ddefnyddio datgelydd metel yng Nghymuned Duhonw, Powys. Cafodd y canfyddiad ei drosglwyddo i Felicity Sage, Rheolwr Cofnod Amgylchedd Hanesyddol Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed, cyn ei gludo i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd i gael ei adnabod, ac adrodd arno gan Sian Iles, y Curadur Archaeoleg a Diweddar.
Mae'r fodrwy addurnol hon wedi'i gwneud o arian gydag arwynebau gilt, gydag addurn o 8 panel gleiniog wedi'u rhannu gan linellau lletraws igam-ogam. Mae'r arddull gleinio hwn yn aml yn cael ei alw'n Saesneg yn 'brambling' (am ei fod yn debyg i fwyar). Er bod y gildio wedi goroesi bron i gyd, mae wedi treulio ychydig ar yr ymylon.
Mae'r arddull yn nodweddiadol Ôl-Ganoloesol, ac yn dyddio o ddechrau'r 16eg ganrif. Cafodd modrwy debyg gyda llinellau igam-ogam a phaneli addurn mwyar eu canfod yn llongddrylliad y Mary Rose, a suddodd ym 1545. Mae esiamplau gydag addurn tebyg wedi'u datgan yn drysor hefyd yn Essex, Norfolk a Phowys. Gyda'i gilydd mae'r modrwyau hyn yn adeiladu darlun mwy cyflawn o arddulliau addurno a chrefftwaith yng Nghymru a Lloegr yn oes y Tuduriaid.
Dywedodd Sian Iles, Curadur Archaeoleg Ganoloesol a Diweddar Amgueddfa Cymru:
"Mae'r fodrwy arian gilt addurnol hon yn enghraifft wych o arddull poblogaidd yn y bymthegfed a'r unfed ganrif ar bymtheg. Diolch i'r Cynllun Henebion Cludadwy ac amodau'r Ddeddf Trysor, yn ogystal ag adrodd prydlon y canfyddwr, caiff gwrthrychau fel hyn eu cofnodi, gan wneud cyfraniad mawr at ein dealltwriaeth gynyddol o ffasiwn diwedd y canol oesoedd a dechrau cyfnod y Tuduriaid yng Nghymru."
Mae Amgueddfa, Oriel a Llyfrgell Y Gaer yn Aberhonddu wedi dangos diddordeb mewn caffael y Trysor, wedi iddo gael ei brisio'n annibynnol gan y Pwyllgor Prisio Trysorau.
Dywedodd David Howell, Swyddog Ymgysylltu Cynllun Henebion Cludadwy yng Nghymru (PAS Cymru):
"Mae'r Cynllun Henebion Cludadwy yng Nghymru yn darparu cysylltiad hanfodol rhwng datgelyddwyr metal a chymunedau amgueddfaol. Mae cofnodi gwrthrychau sydd wedi eu darganfod drwy ddatgelyddion metel yn helpu i ddiogelu gwybodaeth am dreftadaeth Cymru. Mae rhan fwyaf o ddarganfyddiadau trysor yn cael eu dangos a'i trosglwyddo yn gyntaf i Swyddogion Cyswllt Darganfyddiadau arbenigol iawn, sydd wedi'u lleoli ledled Cymru. "
Cafod yr eitemau canlynol hefyd eu datgan yn drysor:
- Celc ceiniogau Rhufeinig yn cynnwys un ar bymtheg o geiniogau aloi copr (Achos Trysor 21.43) a ganfuwyd gan Andrew Ellis yn Chwefror 2019 wrth ddefnyddio datgelydd metel yng Nghymuned Llancarfan, Bro Morgannwg. Mae Amgueddfa'r Bont-faen a'r Cylch wedi dangos diddordeb mewn caffael y Trysor, wedi iddo gael ei brisio'n annibynnol gan y Pwyllgor Prisio Trysorau.
- Modrwy gylchog arian ganoloesol gyda phin siâp dagr (Achos Trysor 21.51) a ganfuwyd gan Mr Alexander Savage ar 5 Rhagfyr 2021 wrth ddefnyddio datgelydd metel yng Nghymuned Penllyn, Bro Morgannwg. Mae Amgueddfa'r Bont-faen a'r Cylch wedi dangos diddordeb mewn caffael y Trysor, wedi iddo gael ei brisio'n annibynnol gan y Pwyllgor Prisio Trysorau.
- Ceiniog arian Rufeinig (denarius) o deyrnasiad Domitian (Achos Trysor 21.58) a ganfuwyd gan Mr Andrew Arthur ar 3 Chwefror 2019 wrth ddefnyddio datgelydd metel yng Nghymuned y Faenor, Merthyr Tudful. Mae'r geiniog hon yn perthyn i'r un canfyddiad â chelc CYmuned y Faenor (Achos Trysor 17.28) sy'n cynnwys 5 denarius Rhufeinig arall. Mae Castell ac Oriel Cyfarthfa wedi dangos diddordeb mewn caffael y Trysor, wedi iddo gael ei brisio'n annibynnol gan y Pwyllgor Prisio Trysorau.
Mae Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb ac yma at ddefnydd pawb. Rydyn ni’n elusen, ac mae ein teulu o saith amgueddfa a chanolfan gasgliadau wedi’u gwasgaru ar draws Cymru. Ein nod yw ysbrydoli pawb trwy stori Cymru – yn ein hamgueddfeydd, yn ein cymunedau ac yn ddigidol.
Mae ein croeso am ddim diolch i nawdd Llywodraeth Cymru, ac mae croeso i bawb o bob cymuned.
Dewch i fod yn rhan o stori Cymru – trwy ymweld â ni, gwirfoddoli, ymuno neu gyfrannu.
Diwedd
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:
Ellie Johnston
Swyddog Cyfathrebu Marchnata Cynorthwyol
Elena.Johnston@amgueddfacymru.ac.uk
Dilynwch saith amgueddfa teulu Amgueddfa Cymru ar X, Instagram neu Facebook.
NODIADAU I OLYGYDDION
1. © Amgueddfa Cymru – National Museum Wales yw hawlfraint pob delwedd.
2. Mae Cynllun Henebion Cludadwy Cymru (PAS Cymru) yn rhaglen sy’n ein galluogi i gofnodi a chyhoeddi canfyddiadau archaeolegol gan aelodau’r cyhoedd. Mae wedi profi’n ffordd hynod effeithiol o gael gwybodaeth archaeolegol hanfodol yn ogystal â denu cynulleidfaoedd a chymunedau nad ydynt yn ymweld ag amgueddfeydd fel arfer.
3. Bob blwyddyn, caiff rhwng 50 a 80 o achosion trysor eu hadrodd yng Nghymru, fel canfyddiadau wedi eu gwneud gan aelodau o'r cyhoedd, pobl gyda'u datgelyddion metel fel arfer. Ers 1997, mae dros 700 o ganfyddiadau trysor wedi cael eu gwneud yng Nghymru, gyda swm y canfyddiadau trysor yn cynyddu'n raddol dros amser, gyda 77 o achosion trysor wedi eu cofnodi yn 2022. Mae'r canfyddiadau hyn yn ychwanegu gwybodaeth a dealltwriaeth newydd pwysig am ein gorffennol, adnodd diwylliannol sy'n gynyddol bwysig i Gymru.
4. Mae'n rhaid i eitemau trysor gael eu hadrodd yn gyfreithiol a'u trosglwyddo i staff PAS Cymru ac Amgueddfa Cymru, fel y prif sefydliad treftadaeth sy'n rheoli gwaith trysor yng Nghymru. Mae curaduron Amgueddfa Cymru yn casglu gwybodaeth fanwl gywir ac yn adrodd ar ganfyddiadau trysor, gan wneud argymhellion i'r crwneriaid, y swyddogion sy'n gwneud penderfyniadau cyfreithiol annibynnol ar drysor a pherchnogaeth.