Datganiadau i'r Wasg
Mae HWYRNOS yn dychwelyd i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn 2024
Dyddiad:
2024-01-29Dathlu celf, diwylliant a chymuned
Bydd y digwyddiad poblogaidd i oedolion yn unig yn ôl yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar 9 Chwefror, o 7pm i 11.30pm. Bydd y noson yn dathlu celf gyfoes ac arddangosfa Artes Mundi 10 gan hudo'r gynulleidfa â chymysgedd o gerddoriaeth, gweithgareddau, celf gyfoes, perfformiadau a bwyd blasus.
Cyn i'r noson ddechrau, bydd Sgwrs gyda: Mujib Yahaya, Shirish Kulkarni ac Ogechi Dimeke (Artes Mundi 10) yn cael ei chynnal am 6pm.
Mae HWYRNOS wedi cydweithio ag Artes Mundi i roi cyfle arbennig i grwydro prif neuadd ac orielau'r Amgueddfa, a rhoi llwyfan i greadigrwydd a thalent Caerdydd. Y nod yw meithrin cysylltiadau ac annog pobol i fyfyrio ar leisiau artistig gwahanol, gan ganolbwyntio'n benodol ar Gaerdydd fel dinas noddfa. Bydd y noson yn rhoi llwyfan i artistiaid a phobl greadigol sydd wedi gwneud eu cartref yng Nghaerdydd.
Ymhlith yr uchafbwyntiau bydd perfformiad gan Oasis One World Choir, danteithion blasus yng Nghegin Falafel Global Eats gyda Oasis Catering Team, cyfle i grwydro Arddangosfa Artes Mundi 10 ac i fwynhau Gweithdai a Gweithgareddau Creadigol.
Bydd cyfle hefyd i ddysgu am fenter gyffrous Celf ar y Cyd, rhan o'r gwaith o greu Amgueddfa Gelf Gyfoes Genedlaethol i Gymru, a chwrdd â'r tîm.
Bydd y Brif Neuadd yn cael ei gweddnewid yn hafan atmosfferig. Dewch i fwynhau dawns, cerddoriaeth fyw, a setiau DJ gan ddoniau creadigol Caerdydd. Yn cloi'r noson fydd set gan Raven007, gan gymysgu cerddoriaeth house, ballroom, a techno yn un don o sain, dawns, a mynegiant.
Mae tocynnau HWYRNOS yn £12 ac ar gael i'w prynu o https://museum.wales/cardiff/whatson/12139/LATES-AM10/
Ymunwch â ni am sgwrs arbennig am 6pm yn edrych ar Gaerdydd fel Dinas Noddfa a sut bod hynny'n arwain at gyfraniadau anhygoel i'n diwylliant a'n cymdeithas. Bydd y sgwrs yn cael ei harwain gan Natasha Gauthier.
Mae tâl ychwanegol am y digwyddiad hwn, a rhaid prynu tocyn ar-lein ymlaen llaw.
Mae Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb ac yma at ddefnydd pawb. Rydyn ni’n elusen, ac mae ein teulu o saith amgueddfa a chanolfan gasgliadau wedi’u gwasgaru ar draws Cymru. Ein nod yw ysbrydoli pawb trwy stori Cymru – yn ein hamgueddfeydd, yn ein cymunedau ac yn ddigidol.
Mae ein croeso am ddim diolch i nawdd Llywodraeth Cymru, ac mae croeso i bawb o bob cymuned.
Dewch i fod yn rhan o stori Cymru – trwy ymweld â ni, gwirfoddoli, ymuno neu gyfrannu.
DIWEDD
Nodiadau i olygyddion:
Mae HWYRNOS yn un o'n prif ddigwyddiadau, sy'n casglu celf a diwylliant ynghyd, creu cymuned, a chynnig llwyfan i leisiau ac arddulliau amrywiol. Mae'n noson llawn creadigrwydd a chysylltiadau, sy'n dod â'r ddinas yn fyw i gyfeiliant bwrlwm celf gyfoes.
Artes Mundi yw prif sefydliad y celfyddydau gweledol rhyngwladol yng Nghymru, yn canolbwyntio ar gydnabod a chefnogi artistiaid sy'n trafod realiti cymdeithasol a phrofiad bywyd. Mae Artes Mundi 10 yn dathlu dwy ddegawd o lwyfannu celf weddnewidiol sy'n codi cwestiynau.
Fel rhan o'r Oriel Celf Gyfoes Genedlaethol i Gymru, mae gwefan Celf ar y Cyd yn gwneud casgliad celf gyfoes y genedl yn Amgueddfa Cymru yn haws i'w weld nad erioed o'r blaen. Cymerwch olwg ar y wefan newydd sbon, lle cewch ddysgu a chael eich ysbrydoli gan y casgliad cenedlaethol.
Am ymholiadau'r cyfryngau cysylltwch â:
Laura Osborne
Swyddog Marchnata a Chyfathrebu
(029) 2057 3211