Datganiadau i'r Wasg

GŴyl Wyddoniaeth Caerdydd

Ymunwch â'r Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol ar 9 Gorffennaf am ddiwrnod o weithgareddau i ddathlu pwysigrwydd gwyddoniaeth, fel rhan o Wyl Wyddoniaeth Caerdydd, sy'n cael ei chynnal am y tro cyntaf eleni o 7

Bydd llond lle o ddigwyddiadau a gweithgareddau ar gael i'r teulu cyfan. Cewch gyfle i gwrdd â Mr Bugg ei hun, gwneud robot a phrofi'r sioe swigod. Yn ogystal â'r rhain, fe fydd hefyd cyfle i bawb fod yn rhan o'n gweithdai peintio a chwarae'r gêm 'Darganfod'! Fe fydd yr ystod eang o weithgareddau yn canolbwyntio ar y spectrwm Wyddonol: o Wyddoniaeth Siocled i ddamcaniaethau Einstein!

Bydd yr Amgueddfa'n gweithio gyda Phrifysgol Caerdydd, Techniquest, Y Gymdeithas Brydeinig er Datblygu Gwyddoniaeth a sawl un arall i gyflwyno pob math o hwyl a gweithgareddau i bawb yn y Ganolfan Ddinesig a chanol y ddinas.

Mae Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol, Caerdydd yn un o chwe amgueddfa a weithredir gan Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru. Y safleoedd eraill AOCC yw Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan, Pwll Mawr: Amgueddfa Lofaol Genedlaethol Cymru, Blaenafon - enillydd Gwobr Gulbenkian eleni - Amgueddfa'r Lleng Rufeinig, Caerllion, Amgueddfa Wlân Genedlaethol, Dre-fach Felindre ac Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis. Bydd Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn agor yn Abertawe yn nes ymlaen eleni, gan adrodd stori pobl, diwydiant a blaengaredd yng Nghymru.

Mae mynediad i'r holl amgueddfeydd cenedlaethol am ddim, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.