Datganiadau i'r Wasg

⁠Mounira Al Solh yn ennill Gwobr Brynu Artes Mundi Ymddiriedolaeth Derek Williams

Fel rhan o Artes Mundi 10, mae Mounira Al Solh yw enillydd ⁠Gwobr Brynu Artes Mundi Ymddiriedolaeth Derek Williams. 

In Love in Blood (2023) gan Mounira Al Solh

Mae’r wobr yn galluogi i Amgueddfa Cymru gaffael un o’r darnau celf sy’n cael eu cyflwyno ym mhob arddangosfa Artes Mundi ar gyfer y casgliad cenedlaethol parhaol o gelf gyfoes. ⁠Ymysg enillwyr blaenorol y wobr mae Prabhakar Pachpute, Ragnar Kjartansson, Bedwyr Williams, Tanya Bruguera ac Anna Boghiguian.  

 

Eleni, cafodd sawl darn o’r gyfres In Love in Blood (2023) gan Mounira Al Solh eu dewis ar gyfer y wobr gan banel yn cynnwys Ceri Jones, Cyfarwyddwr Creadigol, Oriel Celf Gyfoes Genedlaethol i Gymru a Sian Ll Williams, Ymddiriedolaeth Derek Williams, ynghyd ag Artes Mundi.

 

Mae 12 darn o’r gyfres i’w gweld ar hyn o bryd yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, fel rhan o arddangosfa a gwobr gelf ryngwladol fwyaf y DU – Artes Mundi 10 – sy’n cael ei chynnal mewn pum lleoliad ledled Cymru tan 25 Chwefror 2024.  

 

Mae Mounira Al Solh yn creu paentiadau, gweithiau ar bapur, gosodwaith fideo, brodwaith a pherfformiadau sy’n trafod mudo, cof, trawma a cholled. Mae ei gwaith yn dyst i straeon a phrofiadau bywyd pobl sydd wedi’u dadleoli o ganlyniad i’r gwrthdaro parhaus yn y Dwyrain Canol, gyda ffocws penodol ar drafferthion menywod yn y byd Arabaidd.

 

Mae gwaith tecstilau In Love in Blood yn nodweddiadol o ddefnydd Mounira o frodwaith a’i diddordeb yng nghrefft adrodd stori ac iaith yn ei holl gymhlethdod, ei naws a’i newid mewn ystyr. Mae’ pob brodwaith yn darlunio un gair o restr a luniwyd gan Ibn Qayyim El Jawziyya, diwynydd Islamaidd canoloseol a oedd yn byw yn Namascus yn y 13eg ganrif. Mae’r casgliad o eiriau Arabaidd yn cynnwys serch, addoli, angerdd, gwaed, hiraeth, galar, ffolineb, ac yn catalogio dros 50 o ffyrdd o ddatgan cariad, yn seiliedig ar faint, lefel neu naws yr emosion.  

 

Dywedodd Mounira Al Solh: “

 

Dywedodd Ceri Jones, aelod o’r panel, ⁠Gwobr Brynu Artes Mundi Ymddiriedolaeth Derek Williams 2024, “Mae’n hyfryd ein bod yn gallu caffael y gwaith tecstilau hardd hwn gan Mounira ar gyfer y casgliad cenedlaethol. Mae’r darnau hyn, sydd wedi’u brodio â llaw ac sy’n hongian heb glawr na ffrâm, yn rhoi ymdeimlad o gynhesrwydd ac agosrwydd. Mae pob darn yn cyfleu llun neu olygfa syml yn gain, golygfeydd sy’n sicr o ysgogi cysylltiadau gwahanol i bawb sy’n eu gweld. Mae’r geiriau a lluniau sydd wedi’u pwytho’n lliwgar yn edrych ar ddyfnder ac ehangder cariad a’r emosiynau a phrofiadau a ddaw yn sgil cariad. Teimlad mor gyffredin, ond mor wahanol i bawb – mae tecstilau Mounira’n taflu goleuni ar bŵer a chyrhaeddiad cariad.”

 

⁠Dywedodd Sian Ll Williams, Ymddiriedolaeth Derek Williams: “

“⁠Mae Ymddiriedolaeth Derek Williams yn falch o’i gweledigaeth a’i dewrder ugain mlynedd yn ôl yn cynnig yr Wobr Brynu Artes Mundi Ymddiriedolaeth Derek Williams gyntaf i ategu prif wobr Artes Mundi. Rydyn ni wrth ein bodd fod ei henillydd cyntaf, Berni Searle, yn cael ei harddangos yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar hyn o bryd. Mae’r wobr wedi caniatáu i Amgueddfa Cymru greu casgliad o waith gan artistiaid cyfoes o safon ryngwladol – testun cenfigen i lawer o orielau Prydeinig eraill”.  

 

 

Dywedodd Dr Kath Davies, Cyfarwyddwr Casgliadau ac Ymchwil, Amgueddfa Cymru:  

 

“Diolch i’r bartneriaeth gydag Ymddiriedolaeth Derek Williams ac Artes Mundi, rydyn ni’n falch iawn o ychwanegu’r gwaith hwn at y casgliad cenedlaethol. ⁠Mae gwaith yr artist yn cysylltu â llawer o’r themâu rydyn ni’n edrych arnyn nhw fel Amgueddfa ac mae mor gyfoethog o ran lliw a haenau.”

 

 

Dywedodd Nigel Prince, Cyfarwyddwr, Artes Mundi: “Gan dynnu’n aml ar dreftadaeth Libanus a Syria, mae gwaith teimladwy a phersonol Mounira Al Solh yn trafod pwysigrwydd hanes llafar ac adrodd straeon fel cofnod o brofiad bywyd pobl. ⁠Mae elfennau In Love in Blood yn nodweddiadol o’i gwaith ac yn parhau â’i hymchwiliad a’i defnydd o brofiad Arabeg i edrych ar wreiddiau a newid esblygol ystyron, sut mae amser, lleoliad ac ieithoedd mewnfudo yn creu gofod o’r famiaith.

 

Fel rhan o’r dathliadau yn nodi deng mlynedd ac ugain mlynedd o Artes Mundi, mae Amgueddfa Cymru hefyd yn arddangos gwaith gan enillydd cyntaf Gwobr Brynu Artes Mundi Ymddiriedolaeth Derek Williams – gwaith ffilm Berni Searle, Snow White  o 2001 – yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

 

 

DIWEDD  

 

 

 

ARTES MUNDI

Artes Mundi yw prif sefydliad y celfyddydau gweledol rhyngwladol yng Nghymru. Ar gyfer ei hugeinfed flwyddyn, mae Artes Mundi 10 (20 Hydref 2023 i 25 Chwefror 2024) yn cael ei chyflwyno gyda phum partner lleoliad ledled Cymru am y tro cyntaf.⁠⁠ ⁠Yr artistiaid a lleoliadau’r arddangosfeydd ar gyfer AM10 yw: Mounira Al Solh, Rushdi Anwar ac Alia Farid yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd (un o deulu o amgueddfeydd Amgueddfa Cymru); Nguyễn Trinh Thi yn Oriel Gelf Glynn Vivian, Abertawe a Chapter, Caerdydd; Taloi Havini yn Mostyn, Llandudno a Chapter, Caerdydd; Carolina Caycedo yn Oriel Davies, y Drenewydd a Chapter, Caerdydd; a Naomi Rincón Gallardo yn Chapter, Caerdydd.  

 

Fel pont ddiwylliannol bwysig rhwng y DU a’r gymuned ryngwladol, mae Artes Mundi wedi datblygu enw da ar gyfer dod â chelf at ei gilydd gan rai o’r lleisiau celfyddydol mwyaf perthnasol sy’n edrych ar destunau argyfyngus ein hoes. Mae arddangosfeydd blaenorol wedi gweld Artes Mundi yn gweithio gydag artistiaid ar gyfnodau pwysig o’u gyrfaoedd, yn aml eu cyflwyniad cyntaf i gynulleidfaoedd y DU, a llawer ohonyn nhw bellach wedi gwneud eu henw’n rhyngwladol, gan gynnwys Dineo Seshee Bopape, Prabhakar Pachpute, Ragnar Kjartansson, Theaster Gates, John Akomfrah, Teresa Margolles, Xu Bing, a Tania Bruguera.

 

BYWGRAFFIAD YR ARTIST ⁠

Mounira Al Solh, ganwyd ym 1978 yn Libanus. Mae’n byw a gweithio yn Libanus a’r Iseldiroedd.

 

Mae arddangosfeydd unigol diweddar wedi cael eu cynnal yn y Baltic Centre for Contemporary Art, Gateshead (2022); Museumsquartier Osnabrück, yr Almaen (2022); Amgueddfa Gelf Mori, Tokyo (2020); Mathaf, Qatar (2018); Art Institute Chicago (2018); ALT, Istanbul (2016); KW Institute for Contemporary Art, Berlin (2014); Center for Contemporary Art, Glasgow (2013); Art in General, Efrog Newydd (2012); a Stedelijk Museum Bureau, Amsterdam (2011). Mae ei harddangosfeydd grŵp yn cynnwys Biennale Sharjah (2023); Amgueddfa Het Valkhof, Nijmengen, yr Iseldiroedd (2022); Biennale Busan (2022); Palais de Tokyo, Paris (2020), Van Abbemuseum, Eindhoven (2020), Carré d’Art Musée d’art contemporain de Nîmes (2018); documenta 14, Athens & Kassel (2017); 56fed Biennale Fenis (2015); New Museum, Efrog Newydd (2014); Homeworks, Beirut (2013); House of Art, Munich (2010); ac 11fed International Istanbul Biennial (2009).

 

⁠Yn 2024, bydd Mounira yn cynrychioli Libanus yn Biennale Fenis.

 

Mae’n cael ei chynrychioli gan Oriel Sfeir-Semler, Hamburg/Beirut.