Datganiadau i'r Wasg
Eitemau Crefyddol o Ffynnon ar Ynys Môn yn Cael eu Datgan yn Drysor
Dyddiad:
2024-02-28Mae grŵp o 16 arteffact o Oes yr Haearn a chyfnod y Rhufeiniaid wedi’u datgan yn Drysor ar ddydd Mercher 28 Chwefror 2024 gan Uwch Grwner ei Fawrhydi ar gyfer Gogledd-Orllewin Cymru, Ms Kate Robertson.
Cafodd y darganfyddiad (Achos Trysor 20.04) ei wneud gan Ian Porter ar 4 Mawrth 2020 wrth iddo ddefnyddio datgelydd metel ar dir pori yng Nghymuned Llanfair-Mathafarn-Eithaf, Ynys Môn. Rhoddwyd gwybod yn gyntaf i Sean Derby, Swyddog Cyswllt Darganfyddiadau y Cynllun Henebion Cludadwy yng Nghymru (PAS Cymru) yn Ymddiriedolaeth Archaeoleg Gwynedd. Yn ddiweddarach cafodd ei adrodd fel trysor gan guraduron archaeoleg arbenigol yn Amgueddfa Cymru.
Mae’r grŵp o arteffactau yn cynnwys nifer o addurniadau cerbyd rhyfel yn dyddio’n ôl i ddiwedd y ganrif gyntaf OC, ac addurniadau cafalri Rhufeinig o’r un cyfnod. Mae’r rhain yn cynnwys darnau o dair genfa, dolen gyfrwy, addurn pen maharen a set o bedair disg harnais (phalerae). Cafodd ingot copr Rhufeinig cyflawn hefyd ei ddarganfod, yn pwyso 20.5kg. Mae’n debyg mai copr wedi’i fwyndoddi gan y Rhufeiniaid ym Mynydd Parys yw hwn. Mae’r arteffactau eraill, i gyd o gyfnod y Rhufeiniaid, yn cynnwys broetsh wedi’i addurno, pedair ceiniog a phot plwm wedi’i drwsio.
Cafodd yr holl arteffactau eu darganfod o gwmpas ffynnon mewn rhan gorsiog o gae modern, sy’n tueddu i gael llifogydd. Credir bod yr arteffactau anarferol hyn o efydd, copr a phlwm wedi’u rhoi fel offrymau crefyddol o gwmpas ffynnon sanctaidd ar wahanol adegau yn ystod diwedd Oes yr Haearn a chyfnod y Rhufeiniaid ym Mhrydain. Cafodd yr addurniadau cerbyd rhyfel, y darnau o harnais a’r broetsh eu gosod yno tua 50–120 OC, adeg goresgyniad Prydain gan y Rhufeiniaid yn 60/61 OC neu yn fuan wedyn. Mae’r ceiniogau a’r arteffactau eraill yn awgrymu bod yr arfer o offrymu rhoddion o gwmpas y ffynnon hon wedi parhau drwy gydol cyfnod y Rhufeiniaid. Mae’r geiniog ddiweddaraf yn y grŵp yn dyddio o 364–378 OC.
Dywedodd Ian Porter, y darganfyddwr:
“Roeddwn i mor gyffrous o ganfod yr eitemau hyn. I feddwl bod y person diwethaf i’w cyffwrdd yn fyw tua 2,000 o flynyddoedd yn ôl. Mae’n dangos peth o hanes yr ynys.”
Dywedodd Adam Gwilt, Prif Guradur Cynhanes Amgueddfa Cymru:
“Mae’r grŵp hwn o arteffactau yn deillio o sawl diwylliant gwahanol, ac yn cynnwys addurniadau o Oes yr Haearn a chyfnod y Rhufeiniaid. Mae’n ddarganfyddiad newydd pwysig i’r ynys. Cafodd ei osod yn ystod neu yn fuan ar ôl i’r ynys gael ei goresgyn gan y fyddin Rufeinig. Ysgrifennodd yr awdur Rhufeinig Tacitus gofnod byw o’r cyfnod dramatig hwn, a’r cyfarfyddiad cyntaf rhwng milwyr Rhufain a Derwyddon Môn. Mae’r grŵp hwn o roddion yn dangos pwysigrwydd llefydd gwlyb, fel safle sanctaidd Llyn Cerrig Bach, ar gyfer seremonïau crefyddol mewn oes o ryfel a newid.
Mae’r pen maharen – addurn ar gyfer cerbyd neu ffon mae’n debyg – wedi’i addurno yn yr arddull Geltaidd hwyr. Mae’n ddarlun manwl a digri o’r faharen, ac yn siŵr o ddod yn un o atyniadau poblogaidd Oriel Môn!”
Dywedodd Ian Jones, Rheolwr Casgliadau ac Adeilad Oriel Môn:
“Ers darganfod arteffactau o Oes yr Haearn yn Llyn Cerrig Bach yn ystod y 1940au, mae Ynys Môn wedi ei gysylltu’n gryf â’r cyfnod pwysig hwn yn ein hanes. Bydd y darganfyddiad newydd a chyffrous hwn yn gwella ein dealltwriaeth a’n gwybodaeth, ac mae Oriel Môn yn falch o weithio gydag Amgueddfa Cymru ac yn awyddus i’w gaffael ar gyfer ein casgliad. Mae cryn arwyddocâd archaeolegol i’r eitemau eu hunain a’r ffordd y cawsant eu gadael, ac mae iddynt botensial mawr o ran arddangos a dehongli. Bydd hefyd yn cynnig cyfleoedd gwych ar gyfer addysg ac ymgysylltu. Mae eitemau o’r cyfnod hwn o ddiddordeb i’n hymwelwyr, felly mae hyn yn newyddion gwych i bawb.”
Mae Oriel Môn wedi dangos diddordeb mewn caffael y grŵp hwn o arteffactau ar gyfer ei chasgliad, wedi iddo gael ei brisio yn annibynnol drwy’r Pwyllgor Prisio Trysor.
Mae Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb ac yma at ddefnydd pawb. Rydyn ni’n elusen, ac mae ein teulu o saith amgueddfa a chanolfan gasgliadau wedi’u gwasgaru ar draws Cymru. Ein nod yw ysbrydoli pawb trwy stori Cymru – yn ein hamgueddfeydd, yn ein cymunedau ac yn ddigidol.
Mae ein croeso am ddim diolch i nawdd Llywodraeth Cymru, ac mae croeso i bawb o bob cymuned.
Dewch i fod yn rhan o stori Cymru – trwy ymweld â ni, gwirfoddoli, ymuno neu gyfrannu.
Diwedd