Datganiadau i'r Wasg

Canfod Trysor Rhufeinig ar Ynys Môn

Cafodd pâr o freichledau Rhufeinig eu datgan yn drysor ar ddydd Mercher 13 Mawrth gan Ddirprwy Grwner Gogledd Cymru (Dwyrain a Chanol), Kate Robertson.

Cafodd dwy freichled aloi copr (Achos Trysor 23.68) eu canfod gan Mr Andrew Hutchinson wrth ddefnyddio datgelydd metel yng Nghymuned Llanddyfnan, Sir Fôn, ym mis Medi 2023. Gan eu bod yn Drysor, cafodd y breichledau eu trosglwyddo i Sean Derby yn Ymddiriedolaeth Archaeoleg Dyfed cyn cael eu cludo i’w hadnabod a’u dehongli gan guraduron arbenigol Amgueddfa Cymru yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

Dwy freichled aloi copr

Mae’r ddwy freichled wedi’u creu o stribed aloi copr wedi’i addurno â band canolog mawr gyda rhigolau cyflin naill ochr. Mae darnau o’r colyn wedi goroesi ar y ddwy: mae’r pennau wedi’u rholio’n diwbiau a’u torri, efallai ar gyfer tabiau fyddai’n cydblethu. Ar un o’r breichledau mae plât arian, sgwâr yn dal i’w weld. Arno mae addurn trisgell cerfwedd, gyda border o’i amgylch o ddotiau ysgafnach.

Mae ffurf ac addurn y breichledau yn debyg i freichledau Rhufeinig sydd wedi’u canfod yng Nghonwy, Powys a Chastell Plunton yn Dumfries a Galloway. Drwy gymharu’r canfyddiadau, gallwn ni amcangyfrif bod y breichledau yn dyddio mwy na thebyg i’r 2il ganrif OC. Mae’r trisgell yn cael ei gysylltu’n bennaf â diwylliant Celtaidd yr Oes Efydd, ond mae i’w weld hefyd ar arteffactau o’r Oesoedd Neolithig ac Efydd, a’r Hen Roeg. Mae ei weld ar arteffactau Rhufeinig o’r 2il ganrif yn gipolwg diddorol ar y cyswllt rhwng diwylliannau yn ystod Prydain Oes y Rhufeiniad.

Dywedodd y cafnyddwr, Andrew Hutchinson: 

“Mae hwn yn ganfyddiad hyfryd, a dwi’n gobeithio y bydd yn taflu mwy o oleuni ar hanes Ynys Môn.”

Dywedodd Evan Chapman, Uwch Guradur Archaeoleg, Amgueddfa Cymru:

“Mae’r breichledau hyn yn esiampl ddiddorol o’r cymysgu rhwng dylunio a diwylliant trigolion cynhenid Prydain a’r Rhufeiniaid mewn un gwrthrych.”

Dywedodd Ian Jones, Rheolwr adeilad a Chasgliadau Oriel Ynys Môn: 

“Mae’n gyffrous clywed y newyddion am y canfyddiad archaeolegol diweddaraf o Ynys Môn. Tan i weddillion setliad Rhufeinig tai Cochion ger Brynsiencyn, prin yw’r deunydd Rhufeinig yng nghasgliad yr Amgueddfa. Byddai’r ddwy freichled hyn yn ychwanegiad gwych, ac mae’n bleser cydweithio ag Amgueddfa Cymru, y tirfeddiannwr a’r datgelyddwr metel. Rydyn ni’n edrych ymlaen at eu caffael a’u harddangos. Byddan nhw’n bendant o ddiddordeb i’n hymwelwyr, ac yn gallu cael eu dangos i ysgolion a grwpiau addysg.”

Mae Amgueddfa ac Oriel Ynys Môn wedi dangos diddordeb mewn caffael y Trysor ar gyfer eu casgliad wedi iddo gael ei brisio’n annibynnol gan y Pwyllgor Prisio Trysorau.

Mae Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb ac yma at ddefnydd pawb. Rydyn ni’n elusen, ac mae ein teulu o saith amgueddfa a chanolfan gasgliadau wedi’u gwasgaru ar draws Cymru. Ein nod yw ysbrydoli pawb trwy stori Cymru – yn ein hamgueddfeydd, yn ein cymunedau ac yn ddigidol. 

Mae ein croeso am ddim diolch i nawdd Llywodraeth Cymru, ac mae croeso i bawb o bob cymuned.

Dewch i fod yn rhan o stori Cymru – trwy ymweld â ni, gwirfoddoli, ymuno neu gyfrannu. 

www.amgueddfa.cymru  

 

Diwedd