Datganiadau i'r Wasg

Mwynhewch diwrnod ‘Dyfeisgar’ gyda llu o weithgareddau ymarferol i'r teulu cyfan ar gyfer Wythnos Gwyddoniaeth!

Mae Amgueddfa Lechi Cymru Llanberis yn paratoi ar gyfer diwrnod 'DYFEISGAR' o weithgareddau 

i ddathlu wythnos Wyddoniaeth Genedlaethol.  O gylchedau golau i gylchoedd creigiau, bydd DYFEISGAR,  a gynhelir ddydd Sul 17 Mawrth  rhwng 10am – 3pm, yn cynnwys llu o weithgareddau ar thema PŴER. 

 

Bydd gweithdai i greu anemomedrau gwynt a cylchoedd cerrig gyda siocled gan gwmni SBARDUNO a  bydd adran Peirianneg Electronig Prifysgol Bangor yn cynnal gweithdai LLEIDR GOLAU – sy’n dangos sut i greu cylchedau golau a byddant yn dod â'u robot arbennig iawn!  Bydd hefyd sioeau gwyddoniaeth deuluol gyda SBARC? - gwyddonydd 'Cyw' S4C a bydd 'gwyddonwyr gwirion' yr amgueddfa yn creu swigod o gwmpas y lle ac yn cynnal sesiynau crefft drwy gydol y dydd.

Mae hefyd cyfle i roi cynnig ar her yr olwyn ddŵr, fel yr eglurodd Lowri Ifor, Swyddog Addysg yr amgueddfa:

"Nod DYFEISGAR yw i hyrwyddo hanes diwydiannol arloesol yr amgueddfa gyda gweithgareddau hwyliog i'r teulu cyfan. Drwy gymryd rhan yn her yr olwyn ddŵr, er enghraifft, gall teuluoedd roi cynnig ar roi egwyddorion allweddol pŵer dŵr ar brawf drwy adeiladu eu holwynion eu hunain a dysgu am ein holwyn ddŵr enfawr anhygoel yr un amser!  Hon yw’r mwyaf ar dir mawr Prydain ac unwaith yn pweru'r rhan fwyaf o'r peiriannau yma!”

Meddai Sian Ashworth o gwmni SBARDUNO: "Mae'n bleser cael cynnal gweithdy gwyddoniaeth yn yr amgueddfa ble mae'n gyfle cymharu hen dechnolegau efo technolegau newydd. Mae'n bwysig ennyn diddordeb meddyliau ifanc efo gweithgareddau gwyddoniaeth cyffroes i ennyn diddordeb i ddilyn cyrsiau STEM yn y dyfodol, meysydd hanfodol ar gyfer y DU a gweddill y byd . Drwy gynnal gweithdai fel hyn, rydym yn eu hannog i ddilyn eu hangerdd a gosod y sylfeini ar gyfer yr hyn sy’n bosibl mewn disgyblaethau wyddonol. Ers sawl blwyddyn bellach, mae Sbarduno wedi cael yr anrhydedd o weithio mewn partneriaeth â'r Amgueddfa Lechi yn Llanberis i gyflwyno gweithdai gwyddonol amrywiol.

Meddai Dr Daniel Roberts, Uwch Darlithydd mewn Peirianneg Electronig a Chyfarwyddwr Ennyn Diddordeb Myfyrwyr yn yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg ym Mhrifysgol Bangor:

"Mae cael defnyddio lleoliad lleol, sy'n llawn enghreifftiau o STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg) ar hyd y canrifoedd yn bwysig iawn i’n gwaith o hyrwyddo'r maes diddorol hwn, yn ogystal ag i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o Wyddonwyr a Pheiriannwyr. Mae cael cynnig gweithdai gwyddonol sy'n llawn hwyl, arbrofi a dysgu mewn lleoliad ysbrydoledig a chartrefol yn bwysig, a mae'r sesiynau hyn hefyd yn gyfle i deuluoedd gyd-ddysgu a chael hwyl gyda'i gilydd."                                                  

Cynhelir DYFEISGAR  ar 17 Mawrth 2024 rhwng 10am a 3pm.

Mae mynediad AM DDIM ond mae tocynnau ar gyfer rhai gweithgareddau*

Am fwy o wybodaeth ewch i'r wefan www.amgueddfa.cymru/llechi