Datganiadau i'r Wasg
Maes Chwarae Newydd Sain Ffagan Yn Plesio'r Plantos Lleia'
Dyddiad:
2005-06-21Wedi'i adeiladu ar ffurf caer fawr a chyda coed a bywyd gwyllt o'i amgylch i bob cyfeiriad, mae'r maes chwarae newydd, sydd wrth ymyl y cae chwarae presennol ar gyfer plant hŷn, yn fan perffaith i rieni a theuluoedd gael hoe wrth i'r plant fwynhau. Dyma'r lle chwarae perffaith ar gyfer darpar Geltiaid, môr ladron, tywysogesau, a hyd yn oed y rheini sydd am roi tro ar ladd dreigiau!
Meddai Mark Richards, Cyfarwyddwr Gweithredol Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru:
"Rydym yn falch iawn o gynnig yr adnodd newydd yma i'n hymwelwyr. Mae'n bwysig darparu lle chwarae ar gyfer plant o bob oed, ac mae'r maes hwn yn le perffaith i deuluoedd ifanc rwydweithio a chwarae.
"Rydym yn ddiolchgar iawn i Lywodraeth Cynulliad Cymru am ariannu'r maes chwarae newydd hwn, ac yn falch o'r cyfle i gefnogi Her Iechyd Cymru gyda'r cyfle newydd hwn i chwarae ac ymarfer yn yr amgueddfa."
Dywedodd Alun Pugh, Gweinidog Diwylliant, yr Iaith Gymraeg a Chwaraeon, Llywodraeth Cynulliad Cymru:
"Mae'n bwysig i atyniadau ymwelwyr Cymru fuddsoddi yn eu hadnoddau er mwyn denu rhagor o ymwelwyr a gwella'r hyn sy'n cael ei gynnig ar gyfer yr holl deulu. Mae Sain Ffagan yn ddiwrnod allan gwych, ac mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi buddsoddi'n sylweddol yn ein hamgueddfeydd i sicrhau eu bod nhw'n llawn gwybodaeth, yn ddiddorol ac yn hwyl."
Mae safleoedd eraill AOCC yn cynnwys yr Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd, Pwll Mawr: Amgueddfa Lofaol Genedlaethol Cymru, Blaenafon - enillydd Gwobr Gulbenkian eleni - Amgueddfa'r Lleng Rufeinig yng Nghaerllion, Amgueddfa Wlân Genedlaethol yn Nre-fach Felindre ac Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis. Bydd Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn agor yn Abertawe yn nes ymlaen eleni, gan adrodd stori pobl, diwydiant a blaengaredd yng Nghymru.
Mae mynediad i holl safleoedd AOCC am ddim, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Am ragor o fanylion cysylltwch ag Esyllt Lord, Amgueddfa Werin Cymru, 029 2057 3486