Datganiadau i'r Wasg
Datgan bod canfyddiadau o’r Oes Efydd a’r Canoloesoedd yn Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro yn Drysor
Dyddiad:
2024-05-14Cafodd dau ganfyddiad o’r Oes Efydd a chelc ceiniogau o’r canoloesoedd eu datgan yn drysor ar ddydd Gwener 22 Mawrth 2024 gan Grwner E.F. Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro, Mr. Paul Bennett.
Cafodd dwy fwyell wastad efydd (Achos Trysor 23.58) eu canfod gan David Brown, Barry Johnson a Kerry Johnson ar ddydd Sadwrn 7 Hydref 2023 wrth ddefnyddio datgelydd metel mewn cae yng Nghymuned Penalun, Sir Benfro. Adroddwyd am y canfyddiad wrth Adelle Bricking, Swyddog Adrodd Canfyddiadau y Cynllun Henebion Cludadwy yng Nghymru (PAS Cymru). Cafodd yr offer eu creu ddechrau’r Oes Efydd tua 2000-1900 CC, neu ryw 4,000 o flynyddoedd yn ôl.
Dywedodd y canfyddwyr, David Brown, Barry Johnson a Kerry Johnson: "Rydyn ni’n teimlo’n cymaint o fraint dod ar draws rhan mor bwysig o hanes Cymru. Mae meddwl bod gan bobl 4,000 o flynyddoedd yn ôl yn gwybod sut i gymysgu tun a chopr i greu offer hanfodol i fywyd yn anhygoel"
Dywedodd David Llewellyn, Curadur Amgueddfa ac Oriel Gelf Dinbych-y-pysgod: "Mae gan Amgueddfa ac Oriel Gelf Dinbych-y-pysgod ddiddordeb mawr yn y canfyddiad gwych hwn sydd o bwys cenedlaethol. Mae’n rhywbeth rydyn ni’n gobeithio ei gaffael ar gyfer ein casgliad helaeth o wrthrychau archaeolegol lleol oedd yn sylfaen i sefydlu’r Amgueddfa wreiddiol. Mae canfyddiadau fel hyn yn gymorth mawr i’n nod o gadw, dehongli a rhannu hanes Dinbych-y-pysgod a’r ardal."
Mae Amgueddfa ac Oriel Gelf Dinbych-y-pysgod wedi dangos diddordeb mewn caffael y Trysor ar gyfer eu casgliad wedi iddo gael ei brisio'n annibynnol gan y Pwyllgor Prisio Trysorau.
Dywedodd Adam Gwilt, Prif Guradur Cynhanes Amgueddfa Cymru: “Mae’r pâr hwn o fwyeill efydd tenau ac ymledol, fyddai wedi cael eu clymu i ddolenni pren a’u defnyddio fel offer torri, yn ganfyddiad newydd nodedig i Gymru. Mae’n darparu gwybodaeth newydd bwysig am bobl a chymunedau dechrau’r Oes Efydd. Mewn oes pan oedd Côr y Cewri yn cael ei adeiladu, roedd pobl yn cynnal cysylltiadau drwy symud rhwng tirweddau seremonïol a chladdedigaethol. Mae’r gwrthrychau hyn gafodd eu gosod yn ofalus yn creu cyswllt gwirioneddol rhwng Sir Benfro â’r byd hwn.”
Cafodd modrwy fylchgron aur (Achos Trysor 23.51) ei ganfod gan Craig Smithson ar 11 Medi 2023 wrth ddefnyddio datgelydd metel mewn cae yng Nghymuned Llangadog, Sir Gaerfyrddin. Adroddwyd ar y canfyddiad wrth Felicity Sage, swyddog y Cynllun Henebion Cludadwy yng Nghymru (PAS Cymru) yn swyddfa ranbarthol Dyfed Heneb – Ymddiriedolaeth Archaeoleg Cymru. Mae’n bosib taw modrwy i addurno’r gwallt neu’r clustiau oedd y fodrwy, sy’n dyddio o ddiwedd yr Oes Efydd (1300-800 CC).
Dywedodd y canfyddwr, Craig Smithson: “Dwi wedi bod yn defnyddi datgelydd metel ar y cae yma am bron i bedair mlynedd. Roedd hwn yn ganfyddiad bywyd i fi. Dwi mor falch o fod yn geidwad y fodrwy fylchgron am ychydig ddyddiau, a chael y fraint o’i dal hi.”
Dywedodd Adam Gwilt, Prif Guradur Cynhanes Amgueddfa Cymru: “Mae’r fodrwy hon yn esiampl o fodrwy gwallt – math o emwaith oedd yn boblogaidd mewn cymunedau amaeth a metel ym Mhrydain ac Iwerddon tua 3,000 o flynyddoedd yn ôl. Mae gwaith dadansoddi wedi dangos ei bod hi wedi eu creu o aur o safon uchel, gyda pheth arian a chopr hefyd yn bresennol. Byddai’r eiddo gwerthfawr yn arwydd o statws uchel y dyn neu’r fenyw fyddai yn ei gwisgo. Mae’r canfyddiad yn ychwanegu at ein dealltwriaeth o sgiliau gofaint aur Cymru yr Oes Efydd.”
Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Sir Gaerfyrddin dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth – y Cynghorydd Hazel Evans: “Mae’r cydweithio rhwng datgelyddwyr metel, PAS Cymru ac Amgueddfa Cymru dadorchuddio hanesion cudd ac yn helpu i newid ein dealltwriaeth o’n cyndeidiau. Mae’r fodrwy aur ryfeddol hon yn ehangu ar hanes Sir Gâr yr Oes Efydd. Weithiau y gwrthrychau lleiaf sydd â’r potensial mwyaf i ddatgelu ein gorffennol, ac mae CofGâr edrych ar ffyrdd newydd o ddod â Sir Gâr yr Oes Efydd yn fyw i gynulleidfa heddiw.”
Mae CofGâr, Gwasanaeth Amgueddfeydd a Chelf Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi dangos diddordeb mewn caffael y Trysor ar gyfer eu casgliad wedi iddo gael ei brisio'n annibynnol gan y Pwyllgor Prisio Trysorau.
Cafodd celc o 23 darn arian Canoloesol (Achos Trysor 23.52) eu canfod gan Howard James wrth ddefnyddio datgelydd metel yng Nghymuned Llanddarog, Sir Gaerfyrddin ym mis Medi 2023. Cafodd y ceiniogau eu bathu rhwng 1248 ac 1265 yn ystod teyrnasiad Harri III (1216-1272). Mwy na thebyg i’r celc gael ei gladdu er diogelwch yn y 1260au neu’r 1270au, cyfnod cythryblus a phwysig yn hanes Cymru. Yn 1267, ar ôl brwydro’n llwyddiannus yn erbyn Harri III ac Arglwyddi’r Mers, Llywelyn ap Gruffudd oedd y person cyntaf ac olaf i gael ei gydnabod yn swyddogol fel Tywysog Cymru gyfan gan Frenin Lloegr. Ond erbyn 1283 roedd Cymru wedi cael ei choncro’n gyfangwbl gan fab Harri, Edward I.
Dywedodd Alastair Willis, Uwch Guradur Niwmismateg ac Economi Cymru Amgueddfa Cymru: “Cafodd y celc ei gladdu mewn cyfnod o wrthdaro ac ansicrwydd yn Sir Gâr, oedd yn destun anghydfod rhwng tywysogion Gwynedd ac Arglwyddi’r Mers yn y 13eg ganrif. Byddai rhai pobl wedi ymateb i’r ansicrwydd drwy gladdu eu cyfoeth, fel y celc hwn.”
Mae CofGâr, Gwasanaeth Amgueddfeydd a Chelf Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi dangos diddordeb mewn caffael y Trysor ar gyfer eu casgliad wedi iddo gael ei brisio'n annibynnol gan y Pwyllgor Prisio Trysorau.
Mae Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb ac yma at ddefnydd pawb. Rydyn ni’n elusen, ac mae ein teulu o saith amgueddfa a chanolfan gasgliadau wedi’u gwasgaru ar draws Cymru. Ein nod yw ysbrydoli pawb trwy stori Cymru – yn ein hamgueddfeydd, yn ein cymunedau ac yn ddigidol. Mae ein croeso am ddim diolch i nawdd Llywodraeth Cymru, ac mae croeso i bawb o bob cymuned.
Dewch i fod yn rhan o stori Cymru – trwy ymweld â ni, gwirfoddoli, ymuno neu gyfrannu.
Diwedd
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:
Eleri Phillips Adams
Arweinydd Cyfathrebu
eleri.wynne@museumwales.ac.uk
Dilynwch saith amgueddfa teulu Amgueddfa Cymru ar X, Instagram neu Facebook.
NODIADAU I OLYGYDDION
- 1. © Amgueddfa Cymru – National Museum Wales yw hawlfraint pob delwedd.
- 2. Mae Cynllun Henebion Cludadwy Cymru (PAS Cymru) yn rhaglen sy’n ein galluogi i gofnodi a chyhoeddi canfyddiadau archaeolegol gan aelodau’r cyhoedd. Mae wedi profi’n ffordd hynod effeithiol o gael gwybodaeth archaeolegol hanfodol yn ogystal â denu cynulleidfaoedd a chymunedau nad ydynt yn ymweld ag amgueddfeydd fel arfer.
- 3. Bob blwyddyn, caiff rhwng 70 a 80 o achosion trysor eu hadrodd yng Nghymru, fel canfyddiadau wedi eu gwneud gan aelodau o'r cyhoedd, pobl gyda'u datgelyddion metel fel arfer. Ers 1997, mae dros 700 o ganfyddiadau trysor wedi cael eu gwneud yng Nghymru, gyda swm y canfyddiadau trysor yn cynyddu'n raddol dros amser, gyda 77 o achosion trysor wedi eu cofnodi yn 2022. Mae'r canfyddiadau hyn yn ychwanegu gwybodaeth a dealltwriaeth newydd pwysig am ein gorffennol, adnodd diwylliannol sy'n gynyddol bwysig i Gymru.
- 4. Mae'n rhaid i eitemau trysor gael eu hadrodd yn gyfreithiol a'u trosglwyddo i staff PAS Cymru ac Amgueddfa Cymru, fel y prif sefydliad treftadaeth sy'n rheoli gwaith trysor yng Nghymru. Mae curaduron Amgueddfa Cymru yn casglu gwybodaeth fanwl gywir ac yn adrodd ar ganfyddiadau trysor, gan wneud argymhellion i'r crwneriaid, y swyddogion sy'n gwneud penderfyniadau cyfreithiol annibynnol ar drysor a pherchnogaeth.