Datganiadau i'r Wasg

Y Cymoedd - Arddangosfa Newydd yn agor yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Beth yw’r Cymoedd i chi? Mae arddangosfa newydd yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn cyflwyno tirwedd, pobl a chymunedau cymoedd de Cymru. 

© Bruce Davidson/Magnum Photos/Amgueddfa Cymru - Museum Wales

Beth yw’r Cymoedd i chi? Mae arddangosfa newydd yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn cyflwyno tirwedd, pobl a chymunedau cymoedd de Cymru. Mae arddangosfa newydd yn cyflwyno pobl, cymunedau a thirwedd Cymoedd y De yn agor ar 25 Mai 2024 yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Bydd Y Cymoedd yn rhoi llwyfan i ddiwylliant gweledol cymoedd de Cymru, gan ddangos gweithiau celf a gwrthrychau o gasgliad Amgueddfa Cymru er mwyn rhoi darlun llawn, am y tro cyntaf, o hanes cymunedau’r maes glo. Beth ydyn ni’n ei olygu pan fyddwn ni’n sôn am y Cymoedd a’u cymunedau? Sut mae straeon y trigolion a’r ymwelwyr yn wahanol? Allwn ni gwestiynu ein syniad o’r Cymoedd?

Ers y 18fed ganrif mae artistiaid o bedwar ban byd wedi cael eu hysbrydoli gan y Cymoedd, o Rydaman i Bont-y-pŵl. Yn yr arddangosfa hon byddwn ni’n edrych yn fanylach ar dirlun y Cymoedd, a bywyd a gwaith y trigolion. Dywedodd Dr Kath Davies, Cyfarwyddwr Casgliadau ac Ymchwil Amgueddfa Cymru:

Mae’n bleser cael adrodd rhai o straeon cymoedd de Cymru a dod â’r arddangosfa newydd hon i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Rydyn ni’n gwahodd ymwelwyr i ystyried eu dealltwriaeth o’r Cymoedd er mwyn dechrau trafodaeth a herio eu rhagdybiaethau. ‘Yn yr 20fed ganrif, daeth y cymunedau hyn dan bwysau economaidd a chymdeithasol mawr. Ymatebodd artistiaid drwy greu portreadau unigryw a rhyngwladol bwysig o brofiad y dosbarth gweithiol, ond mae’r traddodiad gweledol hwn yn anghyfarwydd i lawer heddiw. Am y tro cyntaf mae Amgueddfa Cymru yn defnyddio’r casgliad cenedlaethol i adrodd y stori bwysig hon.

Mae mynediad am ddim i’r arddangosfa sy’n cynnwys dros 200 o weithiau celf. Yn eu plith mae paentiadau, ffotograffau, ffilmiau a chelf gymwysol gan 60 a mwy o artistiaid megis Penry Williams, Josef Herman, ac Ernest Zobole. Mae’r arddangosfa hefyd yn cyflwyno gwaith artistiaid a chrefftwyr hunanddysgedig fel Nicholas Evans ac Illtyd David. Yn yr arddangosfa hefyd mae grŵp o ffotograffau newydd eu caffael diolch i gefnogaeth hael y Gronfa Gelf, gan gynnwys casgliadau pwysig gan Tina Carr, Annemarie Schöne a Robert Frank. Dywedodd Nicholas Thornton, Pennaeth Celf Fodern a Chyfoes Amgueddfa Cymru:

'Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at agor yr arddangosfa fawr hon sy’n adrodd straeon cymoedd de Cymru drwy gyfrwng casgliadau celf Amgueddfa Cymru. Mae’r arddangosfa yn canolbwyntio ar bobl a chymunedau’r Cymoedd – eu gwaith caled a’u hunaniaeth nhw sy’n ganolog i un o draddodiadau gweledol pwysicaf, ond lleiaf adnabyddus, y byd modern.'

Mae Amgueddfa Cymru wedi cydweithio’n agos â chymunedau’r ardal wrth ddatblygu’r arddangosfa, drwy ddatblygu project Ail-ddweud Stori’r Cymoedd yn 2021. Gweledigaeth hirdymor y project oedd adeiladu casgliad o gelf sy’n adlewyrchu pobl, diwylliant, a hunaniaeth yr ardal.

Drwy hyn bydd Y Cymoedd yn rhoi llwyfan i gymunedau Dowlais (Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tydfil) a Penrhiwceibr (Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf) adrodd eu straeon eu hunain.

Rydyn ni am adlewyrchu’r ysbryd cymunedol unigryw sy’n dod â phobl o bob math o gefndiroedd ynghyd.

Mae’r arddangosfa am ddim ac i’w gweld yn orielau 19-24 yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Bydd ar agor tan 3 Tachwedd 2024.

Nodiadau i Olygyddion

· Bydd Y Cymoedd ar agor o 10am o ddydd Mawrth i ddydd Sul, a phob dydd Llun Gŵyl y Banc, gyda mynediad olaf am 4pm. Am gasgliad o luniau a credyd, ewch i: https://we.tl/t-poREl62HW6

· Mae’r arddangosfa yn addas i deuluoedd, ac yn rhad ac am ddim. Mae’n gwahodd y gynulleidfa i ystyried ac ymateb er mwyn dechrau sgwrs.

· Bydd Y Cymoedd yn pontio gyda arddangosfa fawr arall Amgueddfa Cymru ar streic 1984/1985, sy’n agor yn Hydref 2024.

· Mae arddangosfeydd eraill yr Amgueddfa yn cynnwys Drych ar yr Hunlun, sy’n cynnwys hunanbortread arbennig Van Gogh a llawer mwy. Mae Amgueddfa Cymru yn annog ymwelwyr Drych ar yr Hunlun i dalu beth allan nhw am docyn.

Amgueddfa Cymru – Museum Wales Mae Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb ac yma at ddefnydd pawb. Rydyn ni’n elusen, ac mae ein teulu o saith amgueddfa a chanolfan gasgliadau wedi’u gwasgaru ar draws Cymru. Ein nod yw ysbrydoli pawb trwy stori Cymru – yn ein hamgueddfeydd, yn ein cymunedau ac yn ddigidol.

Mae ein croeso am ddim diolch i nawdd Llywodraeth Cymru, ac mae croeso i bawb o bob cymuned.

Dewch i fod yn rhan o stori Cymru – trwy ymweld â ni, gwirfoddoli, ymuno neu gyfrannu. www.amgueddfa.cymru Dilynwch saith amgueddfa teulu Amgueddfa Cymru ar X, Instagram neu Facebook.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Eleri Wynne Arweinydd Cyfathrebu Eleri.Wynne@amgueddfacymru.ac.uk