Datganiadau i'r Wasg

Datgan canfyddiadau’r Oes Efydd o Went yn drysor

Cafodd tri o ganfyddiadau eu datgan yn drysor ddydd Gwener 3 Mai 2024 gan uwch Grwner Gwent, Ms. Caroline Saunders.

Cafodd celc o’r Oes Efydd (Achos Trysor 22.49) ei ddarganfod gan dri chwilotwr ddydd Gwener 7 Hydref 2022, wrth ddefnyddio datgelydd metel ar gae pori yng Nghymuned Porthsgiwed, Sir Fynwy. Yn cynnwys 57 o wrthrychau, dyma’r celc mwyaf o’i fath o’r Oes Efydd Ddiweddar yn Sir Fynwy. Mae’n cynnwys nifer o ddarnau o arfau, gan gynnwys cleddyfau a phennau picelli, yn ogystal â bwyeill creuog cyflawn a thoredig, ffroenellau bwrw ac ingotau. Mae’r celc yn ddiddorol oherwydd elfen gref yr arfau, sy’n brin yn y rhanbarth yn gyffredinol. Mae’n cynnwys enghraifft arbennig o anarferol o ben picell gyda llafn pigog a llafn-agoriadau siâp lloerfwlch - y cyntaf o'i fath i gael ei adnabod o Gymru. 

Dywedodd Chris Griffiths, ymchwilydd PhD gydag Amgueddfa Cymru a Phrifysgol Reading: 

Mae’r celc hwn o arwyddocad rhanbarthol a chenedlaethol. Mae’r rhan fwyaf o’r celciau o’r rhanbarth yn gymharol fach a braidd byth yn cynnwys cynifer o ddarnau o arfau. Mae lefel yr arbenigedd a'r gofal a aeth i greu'r pen picell pigog gyda llafn-agoriad siâp lloerfwlch yn awgrymu iddo gael ei wneud gan wneuthurwr metel efydd arbenigol. Efallai iddo fod yn symbol o awdurdod ymladd, ond nid yw'n glir a chafodd y pen picell hwn ei ddefnyddio gan un ffigwr blaenllaw neu ei rannu ymhlith grŵp o bobl. Wedi’r cyfan, cafodd ei gladdu ochr yn ochr ag amrywiaeth eang o wrthrychau a fyddai wedi bod ar gael yn haws i bobl yn ystod y cyfnod hwn, gan gynnwys y bwyeill creuog. Efallai y byddai claddu’r celc hwn wedi bod yn ymdrech tîm, a wnaed gan gymuned ffyniannus a oedd yn byw yn y rhan hon o Sir Fynwy tua 3,000 o flynyddoedd yn ôl.”

Ar ôl y darganfyddiad gwreiddiol, fe wnaeth y chwilotwyr gydnabod eu bod wedi canfod a gadael gweddill y gwrthrychau yn y tir mewn ffordd gyfrifol.  Fe wnaethant roi gwybod ar unwaith i staff Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion am eu darganfyddiadau, gan baratoi’r ffordd am ymchwiliad archaeolegol o’r man darganfod. Gyda help y chwilotwyr, cynhaliodd tîm bach o staff Amgueddfa Cymru a Chynllun Henebion Cludadwy yng Nghymru (PAS Cymru) arolwg geoffisegol a chloddiad o leoliad y celc ym mis Tachwedd 2022. Datgelodd canlyniadau’r gwaith fod y celc wedi’i gladdu o fewn pwll bach, a gloddiwyd i nodwedd ‘twmpath llosg’ cynharach – twmpathau a ffurfiwyd wrth gael gwared ar gerrig a gwastraff tân, a geir yn aml yng nghyffiniau cafn, aelwyd a ffynhonnell dŵr croyw.

Gan adlewyrchu ar eu darganfyddiad, dywedodd chwilotwyr y celc:

Ni allem gredu ein lwc. Dydyn ni ddim yn defnyddio’r datgelydd metel yn aml iawn a dyma’n trip cyntaf i’r cae penodol hwn. Roedden ni'n gwybod bod yr hyn roedden ni wedi'i ddarganfod yn bwysig, felly fe wnaethon ni roi gwybod ar unwaith i staff Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion. Pan roedd yr archeolegwyr yn gallu cynnal y gwaith cloddio, roedd cymaint o wrthrychau yn dod o’r ddaear, roedden ni'n gweithio ymhell ar ôl i'r haul fachlud. Yn sicr ni fyddwn yn anghofio'r profiad hwn yn fuan.

Mae Monlife Heritage wedi mynegi diddordeb i fynd i bartneriaeth gydweithredol gydag Amgueddfa Cymru i gaffael y celc hwn, ar ôl iddo gael ei brisio’n annibynnol gan y Pwyllgor Prisio Trysor.

Cafodd stribyn aur addurnedig o’r Oes Efydd (Achos Trysor 22.17) ei ddarganfod gan Richard Bevan Ddydd Sul 27 Chwefror 2022, wrth ddefnyddio datgelydd metel yn ystod rali ar gae porfa arw yng Nghymuned Grysmwnt, Sir Fynwy. Cafodd y canfyddiad cyntaf ei gyfeirio at Adelle Bricking, Swyddog Canfyddiadau Cynllun Henebion Cludadwy yng Nghymru (PAS Cymru) ac yna ei drosglwyddo i Amgueddfa Cymru lle cafodd y canfyddiad ei nodi a'i adrodd ar gyfer y crwner.

Mae'r darn o arteffact, sydd wedi'i wneud o eurddalen, wedi'i addurno â chyfres o gribau a rhigolau cyfochrog sy'n rhoi effaith rhychog addurnol. Ar un adeg yn addurno gwrthrych mwy, fel carn dagr, mae wedi'i nodi fel un sy'n dyddio o'r Oes Efydd Gynnar (2150-1650 CC). Mae'r lefelau copr a’r arian a ddarganfuwyd o fewn y stribed aur hwn yn debyg i arteffactau aur eraill o'r dyddiad hwn.

Dywedodd Adam Gwilt, Uwch Guradur Cynhanes yn Amgueddfa Cymru: 

“Mae’r darn hwn o stribyn aur addurnedig yn ddarganfyddiad newydd pwysig. Mae’n un o’r arteffactau aur cynharaf rydyn ni’n gwybod amdano o Gymru, wedi’i greu tua 4,000 o flynyddoedd yn ôl. Fwy na thebyg, byddai’n addurno gwrthrych mwy o faint a drudfawr a fyddai wedi’i wisgo neu ym medddiant person uchel eu parch yn y gymuned. Mae’r canfyddiad hwn o Sir Fynwy yn ein harwain i feddwl a fyddai wedi bod yn rhan o wrthrych a ddewiswyd yn arbennig ar gyfer ei gladdu ym medd ei berchennog.”

Mae Amgueddfa Cymru wedi mynegi diddordeb caffael y stribyn aur hwn ar gyfer y casgliad cenedlaethol ar ôl iddo gael ei brisio’n annibynnol gan y Pwyllgor Prisio Trysor. 

● Cafodd dolen lawes arian ôl-ganoloesol (Achos Trysor 22.32) ei darganfod gan Wayne Ramsey ym mis Ebrill 2022 wrth ddefnyddio datgelydd metel mewn cae pori yng Nghymuned Panteg, Torfaen. Mae’r ddolen lawes yn cynnwys dwy ddisg siâp cylch wedi'u cysylltu gan ddolen hirgrwn. Mae pob disg wedi'i haddurno â chynllun stampiedig o goron uwchben dwy law bleth a dwy galon danllyd. Daw’r ddolen lawes o ddiwedd yr ail ganrif ar bymtheg i ddechrau’r ddeunawfed ganrif.  Mae Amgueddfa Torfaen wedi mynegi diddordeb caffael y ddolen lawes ar gyfer eu casgliad. 

Mae Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb ac yma at ddefnydd pawb. Rydyn ni’n elusen ac yn deulu o saith amgueddfa genedlaethol a chanolfan gasgliadau, wedi’u lleoli ledled Cymru. Ein nod yw ysbrydoli pawb drwy stori Cymru, yn ein hamgueddfeydd, mewn cymunedau ac yn ddigidol.

Mae ein croeso am ddim diolch i gyllid Llywodraeth Cymru ac mae’n ymestyn i bobl o bob cymuned.

Dewch i fod yn rhan o stori Cymru – drwy ymweld â ni, drwy wirfoddoli neu drwy gyfrannu.  

www.amgueddfa.cymru