Datganiadau i'r Wasg

Datgan wyth canfyddiad o Dde Cymru a Phowys yn Drysor

Cafodd wyth canfyddiad trysor, gan gynnwys pedwar canfyddiad o’r Oes Efydd, grŵp o geiniogau Rhufeinig, grŵp o geiniogau canoloesol, ingot arian canoloesol cynnar a chrogaddurn bath ôl-ganoloesol eu datgan yn drysor ddydd Mawrth 23 Ebrill gan Grwner Ardal Canol De Cymru, Ms. Patricia Morgan. 

Celcio yr Oes Efydd

Darn aur wedi'i led-weithio o'r Oes Efydd

Darn aur wedi'i led-weithio o'r Oes Efydd

Ingot arian Canoloesol Cynnar

Cafodd celc o’r Oes Efydd Ddiweddar (Achos Trysor 23.48) ei ddarganfod gan Matthew Poole ar Ddydd Mercher 13 Medi 2023, wrth ddefnyddio datgelydd metel ar gae yng Nghymuned Llanilltud Fawr, Bro Morgannwg. Yn gyntaf, hysbyswyd Mark Lodwick, Cydlynydd y Cynllun Henebion Cludadwy yng Nghymru (PAS Cymru) am y celc ac yna hysbyswyd curaduron arbenigol Amgueddfa Cymru. 

Mae’r celc yn cynnwys naw bwyell greuog gyflawn mewn efydd a ffroenell fwrw efydd, cronfa o fetel o fowld, a grëwyd yn ystod y broses o gastio’r efydd. Mae’r bwyeill creuog i gyd yn fathau De Cymru, math cyffredin o fwyell yn ne-ddwyrain Cymru gydag addurniadau tair rhesog ar eu hwyneb uchaf. Claddwyd y celc tuag at ddiwedd yr Oes Efydd tua 1000-800 CC neu bron i dair mil o flynyddoedd yn ôl.

Dywedodd Matthew Poole, y chwilotwr: 

“Roeddwn i’n defnyddio’r datgelydd metel ar dir fferm, gyda chaniatâd y tirfeddiannwr, ac roeddwn i’n awyddus i ddarganfod rhywbeth diddorol i ddangos ar y bwrdd canfyddiadau yng nghyfarfod y clwb y noson honno. Er mawr syndod, fe wnes i ddarganfod pen cyntaf y fwyell, ychydig o fodfeddi’n unig o dan yr wyneb, a achosodd signal anhygoel ar y datgelydd metel. Rwy’n gwybod pa mor bwysig yw cofnodi'r broses adfer yn ei chyfanrwydd a chofnodi sut cafodd pob eitem ei lleoli. Gadewais y pridd ar bob arteffact er mwyn gadael i dîm cadwraeth yr amgueddfa lanhau a dysgu manylion cudd o hyn.

Mae dod o hyd i hanes yn agos iawn at fy nghalon a gyda phenderfyniad a dyfalbarhad byddaf yn dod o hyd i arteffactau gwirioneddol ryfeddol yn achlysurol iawn ac yn helpu i ailysgrifennu’r llyfrau hanes am genedlaethau i ddod.”

Dywedodd Adam Gwilt, Uwch Guradur: Cynhanes yn Amgueddfa Cymru: 

“Mae’r celc hwn o fwyeill creuog, gyda’r addurn rhesog, yn ychwanegu’n sylweddol at y casgliad helaeth  o'r math yma o fwyeill a gladdwyd ym Mro Morgannwg ddiwedd yr Oes Efydd. Roedd yr ardal hon o amgylch Llanilltud Fawr yn ardal o anheddu a meddiannaeth ddwys yn ystod y cyfnod hwn. Ni pharatowyd llawer o'r bwyeill hyn i'w defnyddio cyn eu claddu. Mae hyn yn awgrymu bod y dewis gofalus i’w claddu yn y celc hwn, yn ystod seremoni gymdeithasol a defodol fwy na thebyg, yr un mor bwysig i’r gymuned Oes Efydd hon ag oedd eu defnydd ymarferol fel offer torri coed.”

Mae gan Amgueddfa Cymru ddiddordeb caffael y celc hwn ar gyfer eu casgliad, ar ôl iddo gael ei brisio’n annibynnol gan y Pwyllgor Prisio Trysor. 

● Cafodd darn aur lled-bwythog o Ganol yr Oes Efydd neu’r Oes Efydd Ddiweddar (Achos Trysor 22.43) ei ddarganfod gan Peter Halford ddydd Sul 24ain Ebrill 2022, wrth ddefnyddio datgelydd metel yn ystod rali ar gae yng Nghymuned Llanmaes, Bro Morgannwg. Roedd y darn bach aur wedi’i forthwylio’n wastad ond nid oedd yn rhan o arteffact gorffenedig ac adnabyddadwy. Dadansoddwyd ei gyfansoddiad metel aur, arian a chopr a helpodd hyn i’w ddyddio i'r Oes Efydd. Mae gan Amgueddfa Ranbarthol Y Bont-faen ddiddordeb caffael y darn aur hwn o’r Oes Efydd ar gyfer eu casgliad. 

● Cafodd darn aur lled-bwythog o Ganol yr Oes Efydd neu’r Oes Efydd Ddiweddar (Achos Trysor 23.54) ei ddarganfod gan Stuart Humphrey ddydd Iau 14eg Medi 2023, wrth ddefnyddio datgelydd metel mewn cae yng Nghymuned Llanilltud Fawr, Bro Morgannwg. Roedd y darn bach aur wedi’i forthwylio’n wastad ond nid oedd yn rhan o arteffact gorffenedig ac adnabyddadwy. Dadansoddwyd ei gyfansoddiad metel aur, arian a chopr a helpodd hyn i’w ddyddio i'r Oes Efydd. Mae gan Amgueddfa Ranbarthol Y Bont-faen ddiddordeb caffael y darn aur hwn o’r Oes Efydd ar gyfer eu casgliad. 

● Cafodd grŵp o geiniogau arian Rhufeinig (Achos Trysor 21.06) eu darganfod yng Nghymuned Caersws, Powys gan Julie Hughes a Mark Gore wrth ddefnyddio datgelydd metel ddechrau 2021. Mae’r ceiniogau  denarii yn dyddio rhwng 127 CC a 61 OC. Mae Y Lanfa (Amgueddfa Powysland) yn Y Trallwng wedi mynegi diddordeb mewn caffael y ceiniogau hyn ar gyfer eu casgliad. 

● Cafodd ingot arian canoloesol cynnar (Achos Trysor 23.63) ei ddarganfod gan Gareth Williams ar 12fed Awst 2023 wrth ddefnyddio datgelydd metel ar dir âr yng Nghymuned Corneli, Pen-y-bont ar Ogwr. Mae’r ingot, sydd o siâp bys ac wedi'i dorri ar un pen, yn dyddio o’r nawfed i’r ddegfed ganrif. Mae Amgueddfa Porthcawl wedi mynegi diddordeb mewn caffael yr ingot hwn ar gyfer eu casgliad.

● Cafodd dwy geiniog arian ganoloesol (Achos Trysor 23.53) eu darganfod gan Steve Picton wrth ddefnyddio datgelydd metel yng Nghymuned Tonyrefail, Rhondda Cynon Taf ar 24ain Medi 2023. Cafodd y ceiniogau, pâr o grotiau sydd bron yn union yr un fath, eu bathu yn 1351-1352 yn ystod teyrnasiad  Edward III (a deyrnasodd rhwng 1327-1377). Mae Gwasanaeth Treftadaeth Rhondda Cynon Taf ac Amgueddfa Pontypridd wedi mynegi diddordeb mewn caffael y ceiniogau hyn ar gyfer eu casgliad.

● Cafodd celc o ddarnau o dair bwyell greuog efydd o’r Oes Efydd (Achos Trysor 22.48) ei ddarganfod gan Jay Edwards ddydd Mercher 21ain Medi 2022, wrth ddefnyddio datgelydd metel mewn cae yng Nghymuned Llangynidr, Powys. Gallai’r tri darn o lafnau blaen y bwyeill ddyddio o’r Oes Efydd Ddiweddar, rhwng 1150 CC ac 800 CC, tua 3,000 o flynyddoedd yn ôl. 

● Cafodd ceiniog arian ôl-ganoloesol (Achos Trysor 23.46) ei darganfod gan Nick Mensikov wrth ddefnyddio datgelydd metel yng Nghymuned Pentyrch, Caerdydd ar 4ydd Awst 2023. Mae’n ddarn tair ceiniog o oes Elizabeth I (a deyrnasodd rhwng 1558-1603), a gafodd ei bathu yn y 1570au a’i goreuro a’i rhwyllo’n ddiweddarach i’w throi’n ddarn o emwaith.