Datganiadau i'r Wasg

1984 - 1985: Y flwyddyn aeth Margaret Thatcher benben â’r cymunedau glofaol

Mae tocynnau yn nawr ar werth ar gyfer arddangosfa newydd sbon Amgueddfa Cymru, Streic ’84-'85 Strike, sy’n agor yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar 26 Hydref. Mae’r arddangosfa yn taflu goleuni ar stori hanesyddol Streic y Glowyr a’i effaith hynod ar ein gwlad.   

 

Steic 84-85 Strike: Martin Shakeshaft - www.strike84.co.uk

Am flwyddyn, aeth y glowyr, eu teuluoedd a’r undebau llafur benben â’r llywodraeth. Llywodraeth oedd yn ceisio chwalu grym yr undebau a sicrhau awdurdod. 40 mlynedd yn ddiweddarach, mae effaith Streic y Glowyr yn parhau.

Dywedodd Cyfarwyddwr Casgliadau ac Ymchwil Amgueddfa Cymru, Dr Kath Davies:   

Gwnaeth y streic arwain at gydsefyll a chwyldro gwleidyddol digynsail yng Nghymru. Roedd y gost ddynol yn aruthrol: roedd teuluoedd yn dioddef, cymunedau wedi’u rhannu, a dirywiad y diwydiant glo yn parhau.

O luniau a phlacardiau protest i straeon personol o frawdoliaeth, colled a gobaith, rydym yn falch o gyflwyno’r arddangosfa arbennig hon sy’n cofio blwyddyn dyngedfennol a newidiodd dirlun cymdeithasol, gwleidyddol a daearyddol Cymru am byth.”

Yn nodi 40 mlynedd ers Streic y Glowyr, mae’r arddangosfa yn cofio blwyddyn o chwyldro, calon a chyfeillgarwch. O haf llawn gobaith a gwrthsefyll angerddol, yn arwain at aeaf o drais, caledi a cholli bywoliaeth ledled rhai o gymunedau mwyaf gwydn Cymru.  

Mae tocynnau Streic ‘84-85 Strike (26 Hydref 2024 – 27 Ebrill 2024) ar werth o 8 Awst 2024 yma.  

Mae rhaglen arddangosfeydd Amgueddfa Cymru wedi bod yn bosibl diolch i chwaraewyr People’s Postcode Lottery.  

DIWEDD  

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch gyda:   

Eleri Wynne  
Arweinydd Cyfathrebu, Amgueddfa Cymru   
Eleri.Wynne@amgueddfacymru.ac.uk