Datganiadau i'r Wasg

Lansiad Grŵp Llais Dementia mewn Treftadaeth

Amgueddfa Cymru yn lansio Grŵp Llais Dementia mewn Treftadaeth newydd

Bydd y Grŵp Llais Dementia mewn Treftadaeth yn llywio project partneriaeth Amgueddfa Cymru a Chymdeithas Alzheimer Cymru – Amgueddfeydd yn Ysbrydoli Atgofion. ⁠ ⁠

Project tair mlynedd yw Amgueddfeydd yn Ysbrydoli Atgofion, dan nawdd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, i ddatblygu a darparu ffyrdd ymarferol i ymgysylltu â phobl sy'n byw gyda dementia ac i wella'u safon byw drwy wella mynediad i safleoedd ac adnoddau'r Amgueddfa.⁠ ⁠ 

Bydd y Grŵp Llais Dementia mewn Treftadaeth yn gweithio gyda'r tîm Amgueddfeydd yn Ysbrydoli Atgofion i ddatblygu tri prif beth:

  • Pecyn hyfforddi i ddatblygu sgiliau staff a gwirfoddolwyr y sector treftadaeth wrth gefnogi ymwelwyr wedi'u heffeithio gan ddementia
  • Pecyn i ofalwyr, teuluoedd ac anwyliaid y person sy'n byw gyda dementia i'w helpu i fagu hyder i ddefnyddio amgueddfeydd a'u hadnoddau gyda'r bobl yn eu gofal
  • Rhaglen gynaliadwy o weithgareddau ym mhob un o amgueddfeydd Amgueddfa Cymru ac yn y gymuned 

Dyfyniad gan aelod o’r GLlDmT

“Mae'n bleser bod yn rhan o'r Grŵp Llais Dementia mewn Treftadaeth oherwydd gall lleoliadau treftadaeth a hanes roi llwyfan i leisiau a chymuned dementia, yn ogystal a rhoi ymdeimlad bythol o berthyn i bobl fel fi.”

Y gobaith yw rhoi cyfle i bobl sydd wedi'u heffeithio gan ddementia i gadw cysylltiad â'n casgliadau cenedlaethol a'r straeon maen nhw'n eu hadrodd, a darparu cyfleon dysgu gydol oes i gymunedau er mwyn darganfod a rhannu eu hatgofion eu hunain.

Dywedodd Nia WilliamsCyfarwyddwr Profiad, Addysg ac Ymgysylltu

Dros y blynyddoedd mae Amgueddfa Cymru wedi bod yn datblygu adnoddau fel Cysur mewn Casglu, a gweithgareddau fel y Teithiau Tanddaearol Dementia-gyfeillgar yn Big Pit, ar y cyd ac ar gyfer pobl sydd wedi'u heffeithio gan ddementia. Diolch i'r Grŵp Llais Dementia mewn Treftadaeth, mae ganddon ni gyfle cyffrous i adeiladu ar ein harlwy, a gwneud llais dementia yn elfen greiddiol o'n darpariaeth ym mhob un o'n saith amgueddfa.

Dyweddodd Richard Maiorano, Arweinydd Cymunedau a Gwirfoddoli Cymdeithas Alzheimer Cymru:

I rai pobl mae amgueddfeydd a lleoliadau treftadaeth yn hynod bwysig, ac yn bresennol drwy gydol ein bywydau. Bydd y Grŵp Llais Dementia mewn Treftadaeth yn helpu i wneud yn siŵr fod pobl sy’n byw gyda dementia yn gallu parhau i gael boddhad o straeon a chasgliadau amgueddfa. Mae’n bleser cydweithio ag Amgueddfa Cymru i gefnogi datblygiad y pecynnau hyn, sy’n galluogi pobl sy’n byw gyda dementia i rannu eu profiadau ac ehangu mynediad i safleoedd ac adnoddau amgueddfa ar draws Cymru.”

Am fwy o wybodaeth am y project a chyfleon i gyfrannu, ewch i: Amgueddfeydd yn Ysbrydoli Atgofion - Gweithio dros Ddementia

- Diwedd -

Rhagor o wybodaeth

Sharon Ford

Rheolwr Rhaglen Iechyd a Lles Amgueddfa Cymru
sharon.ford@amgueddfacymru.ac.uk 
(029) 2057 3681

Gareth Rees

Arweinydd Llais Dementia Amgueddfa Cymru

gareth.rees@amgueddfacymru.ac.uk⁠

(029) 2057 3418

Nodiadau i’r Golygydd

Amgueddfa Cymru

Rydyn ni’n elusen, ac mae ein teulu o saith amgueddfa a chanolfan gasgliadau wedi’u gwasgaru ar draws Cymru. Mae ein safleoedd yn ofodau cymunedol hanfodol sy'n llawer mwy na lle ar fap. Ein nod yw defnyddio stori Cymru i ysbrydoli pawb fyddwn ni'n eu cyffwrdd, gan gydnabod bod gan bawb rywbeth i'w gyfrannu drwy ein casgliadau a'r gwaith rydyn ni'n ei wneud. Diolch i nawdd Llywodraeth Cymru mae mynediad am ddim i bob un o'n saith amgueddfa.

Mae dros 600 o staff yn gweithio yma ac rydyn ni'n croesawu tua 1.8 miliwn o ymwelwyr y flwyddyn. Mae dros 5 miliwn o eitemau unigol yn ein casgliadau, sy’n cynnwys celf a dylunio, hanes ac archaeoleg a’r gwyddorau naturiol. 

Ein hamgueddfeydd yw Amgueddfa Lechi Cymru, Amgueddfa Wlân Cymru, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, y Ganolfan Gasgliadau Genedlaethol, Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru a Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru.

Amgueddfa Cymru

Amgueddfeydd yn Ysbrydoli Atgofion

Project tair blynedd yw Amgueddfeydd yn Ysbrydoli Atgofion wedi'i arwain ar y cyd gan Amgueddfa Cymru a Chymdeithas Alzheimer's Cymru, gyda nawdd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Dechreuodd y project ym mis Ebrill 2022 gan adeiladu ar ein rhaglen bresennol o ddigwyddiadau dementia-gyfeillgar, gyda'r nod o  weithio gyda phobl sy'n byw gyda dementia, gofalwyr di-dâl, staff y sector gofal, staff y sector treftadaeth, gwirfoddolwyr a sefydliadau cynrychioliadol ledled Cymru, i ddatblygu a darparu ffyrdd ymarferol i ymgysylltu â phobl sy'n byw gyda dementia ac i wella'u safon byw drwy wella mynediad i safleoedd ac adnoddau'r amgueddfa.

Amgueddfeydd yn Ysbrydoli Atgofion