Datganiadau i'r Wasg
Dathlu cyfraniad y gymuned Tsieineaidd yng Nghymru yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
Dyddiad:
2024-11-12Mae arddangosiad newydd yn dathlu cyfraniad y gymuned Tsieineaidd wedi agor yn oriel Cymru... yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru.
Datblygwyd yr arddangosiad ar y cyd â'r Gymdeithas Tsieineaidd yng Nghymru fel rhan o broject Ein Straeon, dan nawdd Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Mae'n cynnwys straeon wyth person o dras Tsieineaidd sy'n byw yng Nghymru heddiw, yn eu geiriau eu hunain.
Mae cymunedau o Tsieina wedi bod yma ers dechrau'r 20fed ganrif o leiaf, a morwyr oedd nifer o'r mewnfudwyr cyntaf hyn. Ers y 1940au, mae newidiadau gwleidyddol ac economaidd wedi arwain at gynnydd yn y mewnfudo o Tsieina i Gymru.
Heddiw, mae pobl o dras Tsieineaidd yn byw ym mhob cwr o Gymru, yn cyfrannu at ein cyfoeth o ddiwylliannau, credoau ac ieithoedd. Mae cymunedau sylweddol wedi magu gwreiddiau yn Abertawe, Bangor, Caerdydd a Chasnewydd ers degawdau.
Drwy straeon personol a gwrthrychau bob dydd, gall ymwelwyr â'r Amgueddfa ddysgu am eu taith i Gymru, a'r heriau o adeiladu bywyd newydd mor bell o'u mamwlad. Mae'r hanesion yn dangos sut maen nhw a'u disgynyddion wedi gwneud eu marc ym mhob agwedd o fywyd Cymru – trwy eu swyddi a'u busnesau, a'u cyfraniad at ein cymunedau a'n diwylliant.
Dywedodd Sioned Hughes, Pennaeth Hanes a Datblygu Casgliadau Amgueddfa Cymru;
“Mae'n fraint cael cydweithio gyda'r Gymdeithas Tsieineaidd yng Nghymru i rannu'r straeon pwysig hyn yn oriel Cymru... yn Sain Ffagan. Bydd yr hanesion llafar a gofnodwyd gan broject Ein Straeon – sef sylfaen yr arddangosiad – yn dod yn rhan o archif yr Amgueddfa. Rydyn ni'n hynod ddiolchgar i'r gymuned am rannu eu profiadau â ni ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.”
Dywedodd Shirley Au-Yeung, sylfaenydd â Phrifweithredwr y Gymdeithas Tsieineaidd yng Nghymru;
“Mae'n fraint rhannu lleisiau ein cymuned mewn arddangosiad blwyddyn o hyd fydd yn dathlu dyfalbarhad a chyfraniad pobl o dras Tsieineaidd sy'n byw yng Nghymru. Mae straeon ugain o bobl yn cael eu hadrodd yn Sain Ffagan, ac ar Gasgliad y Werin Cymru, gan sicrhau y bydd cenedlaethau'r dyfodol yn gwybod yr hanes. Diolch i Amgueddfa Cymru a Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol am gefnogi'r gwaith pwysig hwn.”
Bydd yr arddangosiad i'w weld tan 12 Tachwedd 2025.
DIWEDD