Datganiadau i'r Wasg
Safbwynt(iau): Artistiaid yn ailddychmygu hanes Cymru mewn project dad-drefedigaethu arloesol
Dyddiad:
2024-11-21Soffa goch foethus oedd yn eiddo i drefedigaethwr a fu’n rhan allweddol o reolaeth Prydain dros India; brethyn Cymreig garw a ddefnyddiwyd i greu dillad ar gyfer dioddefwyr y fasnach drawsiwerydd mewn pobl gaeth; ac olion y fasnach mewn pobl gaeth ar lechi gogledd Cymru – dyma rai o'r gwrthrychau sydd wrth galon rhaglen gelfyddydol uchelgeisiol Safbwynt(iau), sy'n cael ei lansio y mis hwn.
Mae'r fenter arloesol, sy'n cael ei chefnogi gan Lywodraeth Cymru yn rhan o gywaith i wireddu amcanion diwylliant a threftadaeth Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol, yn cynnwys gwaith saith artist o dras ethnig a diwylliannol amrywiol o bob cwr o Gymru.
Nod Safbwynt(iau) yw dad-drefedigaethu'r casgliad cenedlaethol drwy ailddehongli'r gwrthrychau a chodi cwestiynau hanfodol, gan gynnwys lleisiau pwy sy'n cael eu clywed yn ein hamgueddfeydd a hanesion pwy sy'n cael eu hadrodd.
Mae'r artistiaid wedi cydweithio gyda saith safle Amgueddfa Cymru er mwyn gwahodd y gynulleidfa i glywed hanesion sydd heb eu hadrodd neu wedi'u celu am y gwrthrychau, a dod i werthfawrogi sut y gall deall y gorffennol greu dyfodol mwy cynhwysol.
Yn rhan o Safbwynt(iau) mae pob artist wedi cydweithio'n agos ag un o sefydliadau celf weledol blaenllaw Cymru yn ogystal â churaduron amgueddfa er mwyn dod â'r project yn fyw.
Bydd cyfle i ymwelwyr weld gosodweithiau fel gwaith Nasia Sarwar-Skuse, Cymru... ac ymerodraeth yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru. Mae'r gofod yn ail-greu ystafell fyw de Asiaidd, gyda soffa a fu'n berchen i Robert Clive – 'Clive o India' – pennaeth byddin yr East India Company, a chwaraeodd rôl sylweddol yn ymdrechion Prydain i drefedigaethu India.
Yn ogystal â churaduron Sain Ffagan, fe gydweithiodd Nasia â menter gymdeithasol Ways of Working ar y project.
Yr artistiaid eraill a'r sefydliadau celf weledol cyfatebol yw:
- Hannan Jones, Artes Mundi ac Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, sy'n defnyddio gwaith sain a ffilm i sbarduno sgwrs am hanesion amgen ac anhysbys.
- Jasmine Violet, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth ac Amgueddfa Lechi Cymru, sy'n edrych ar y cysylltiadau rhwng y diwydiant llechi Cymreig, y Caribî, a'r fasnach drawsiwerydd mewn pobl gaeth.
- Lal Davies, GS Artists ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau sy'n edrych ar ddiwydiant copr Cymru a'i gysylltiadau imperialaidd drwy gyfrwng arddangosfa ddigidol sy'n cyfuno ffilm, gwrthrychau archif personol, ffotograffau a thestun.
- Lucille Junkere ac Amgueddfa Wlân Cymru sy'n edrych ar frethyn Cymreig 'webs', brethyn gwlân, garw o safon isel a ddefnyddiwyd i greu dillad ar gyfer pobl gaeth o Affrica gafodd eu herwgipio i weithio ar blanhigfeydd yng Nghyfandiroedd America yn rhan o'r fasnach drawsiwerydd mewn pobl gaeth".
- Sadia Pineda Hameed, Canolfan Gelfyddydau Llantarnam Grange, a Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru sy'n ffurfio cysylltiadau rhwng hanes cloddio yng Nghymru a streicio ac echdynnu adnoddau byd-eang a symudiadau llafur heddiw.
- Sophie Mak-Schram, Canolfan Gelfyddydau Chapter ac Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd sy'n ymchwilio i sut y mae grym yn rhan strwythurol o'r sefydliad, ei chasgliadau a'r hanesion sy'n cael eu hadrodd er mwyn datblygu 'offer' sy'n ystyried neu’n herio grym a'i effaith.
Yn ogystal â churadu gwrthrychau mae'r artistiaid, drwy eu cefndir a'u harddulliau amrywiol, hefyd yn agor trafodaeth am sut y caiff hanes, grym a hunaniaeth eu cyflwyno. Eu nod yw adrodd straeon sy'n adlewyrchu profiad bywyd cymunedau amrywiol Cymru, ddoe a heddiw, o'u safbwynt nhw.
Dyfyniadau gan yr artistiaid yn esbonio pam eu bod wedi cymryd rhan yn Safbwynt(iau):
Dywedodd Hannan Jones: "Roedd Safbwynt(iau) yn taro tant â fy nghefndir diasporaidd innau, ac yn caniatáu i mi blethu hanesion mudo ac Ymerodraeth. Gan fy mod yn Gymreig a Gogledd Affricanaidd ond wedi fy magu yn Awstralia, mae gen i gyswllt dwfn â mudo cymdeithasol a diwylliannol, creu cymuned ac adrodd straeon."
Dywedodd Jasmine Violet: "Mae'n gam allweddol tuag at gefnogi artistiaid a chymunedau yng Nghymru sydd wedi'u hymyleiddio, yn agor trafodaeth hanfodol am ddad-drefedigaethu, ac yn gyfle i ddangos a dathlu lleisiau a phrofiadau amrywiol. Rydw i'n gobeithio creu projectau sy'n rhoi cefnogaeth barhaus i gymunedau, gan greu amgylchfyd mwy gonest a chynhwysol i bawb yng Nghymru."
Dywedodd Lal Davies: "Mae fy ngwaith yn defnyddio gwrthrychau hanesyddol fel drws i straeon personol a chymdeithasol, ac mae fy nghefndir yn dangos sut y gall hunaniaeth Gymreig fod yn gymhleth ac yn amlhaenog. Mae Safbwynt(iau) yn blatfform i ychwanegu fy llais i at ymdrechion Cymru i ddod yn genedl wrth-hiliol erbyn 2030, drwy gyfrwng gwaith ffilm a gweledol."
Dywedodd Lucille Junkere: "Fe wnes i gais i Safbwyntiau(au) i ymateb i Wastadeddau Cymru. Er bod ymchwil gwerthfawr yn bodoli ar y deunydd, mae safbwynt y rhai oedd yn cael eu gorfodi i wisgo'r brethyn gwlân anghyfforddus, crafog ar goll. Roeddwn i eisiau cyflwyno dull artistig a churadurol nad oedd yn lleihau erchyllterau'r Ymerodraeth Brydeinig. Yn hytrach, roeddwn i eisiau creu arddangosfeydd a naratifau diddorol a oedd yn osgoi cyflwyno fersiynau bras o hanes ond yn datgelu straeon lluosog wrth ymhelaethu a dathlu lleisiau ymylol."
Dywedodd Nasia Sawar-Skuse said: "Fe ddechreuais i weithio gyda Safbwynt(iau) wrth ymchwilio i gyswllt Robert Clive â Chymru ar gyfer traethawd ymchwil, oedd yn gyfle gwych i herio'r hanesion traddodiadol drwy amlygu straeon oedd wedi'i hesgeuluso a chysylltiadau a'r Ymerodraeth, yn enwedig straeon yn ymwneud â'r teulu Clive, ac i feithrin dealltwriaeth well o dreftadaeth ddiwylliannol Cymru."
Sadia Pineda Hameed; "Mae'r project yn edrych ar strategaethau gwrthsafiad streiciau mwyngloddwyr Cymru – oedd yn brwydro dros hawliau gweithwyr, ac i warchod tir, diwylliant a chymuned – a sut y daeth y rhain yn symbolau o gefnogaeth ryngwladol i streicwyr heddiw."
Sophie Mak-Schram: "Mae dad-drefedigaethu yn cynnwys gwyrdroi nifer o'r gwerthoedd a'r strwythurau sydd ar hyn o bryd yn gorthrymu cynifer ohonom ni. Y cwestiwn, mewn cyd-destun Ewropeaidd, yw: a oes modd dad-drefedigaethu tra bod y safbwynt canolog yn drefedigaethol?" Rydw i wedi bod yn gweithio ar themâu yn ymwneud â'r cwestiwn yn fy ngwaith artistig ac academaidd ers amser hir, ac mae'n gyffrous i fod nawr yn gweithio yn benodol ar safbwynt Caerdydd yn benodol, dinas gyda llawer o hanesion cymhleth.”
Dywedodd Cyfarwyddwr Profiad, Addysg ac Ymgysylltu Amgueddfa Cymru, Nia Williams; "Mae Safbwynt(iau) yn ffordd newydd o weithio fydd yn dod â newid sydd dirfawr ei angen i sut mae Amgueddfa Cymru yn adlewyrchu amrywiaeth ein cymdeithas.
"Rydyn ni'n rhan o'r cydweithio tuag at greu Cymru wrth-hiliol, ac felly mae'r bartneriaeth hon gyda Chyngor Celfyddydau Cymru, y saith artist a'r sefydliadau celf weledol wedi bod yn amhrisiadwy. Byddwn ni'n adeiladu ar y cysylltiadau sydd wedi'u meithrin yn rhan o Safbwynt(iau) ac yn adeiladu ar yr hyn sydd wedi'i ddysgu a'r dulliau newydd o weithio sy'n deillio o'r fenter."
Dywedodd Dafydd Rhys, Cyngor Celfyddydau Cymru; "Roedd hi'n bleser gallu gwethio gydag Amgueddfa Cymru, saith artist rhyfeddol, a saith sefydliad celfyddydol o bob cwr o Gymru i wireddu'r rhaglen hon. Mae Safbwynt(iau) wedi arbrofi â dulliau newydd cynhwysol a democrataidd o weithio, gan wneud yn siŵr fod y sector celfyddydau a threftadaeth yn adlewyrchu hanesion y cymunedau diwylliannol ac ethnig amrywiol sydd wedi cael eu hanwybyddu.
"Y gobaith yw y bydd cynnyrch creadigol y project yn herio ac yn denu cynulleidfaoedd o bob cefndir, gan amlygu'r dreftadaeth gymhleth rydyn ni'n ei rhannu."
Mae Safbwynt(iau) yn broject cydweithredol rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru ac Amgueddfa Cymru. Bydd y rhaglen i'w gweld o heddiw drwy gydol 2025.
Diwedd
Am fwy o wybodaeth neu ymholiadau'r wasg, cysylltwch a:
Rebceca Spencer, ESPR: Rebecca@es-pr.co.uk. 07946102531
Eva Simpson, ESPR: eva.simpson@es-pr.co.uk. 07801184016
—------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------
Safbwynt(iau):
Mae Safbwynt(iau) yn broject cydweithredol cyffrous rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru ac Amgueddfa Cymru sy'n ceisio newid yn y ffordd mae'r sector celfyddydau gweledol a threftadaeth yn adlewyrchu amrywiaeth diwylliannol ac ethnig ein cymdeithas. Cefnogir y project gan Lywodraeth Cymru yn rhan o'r cywaith i wireddu amcanion diwylliant a threftadaeth Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol.
Ymrwymiad Amgueddfa Cymru i ddad-drefedigaethu'r casgliad
Does dim un diffiniad penodol o ystyr dad-drefedigaethu, felly mae ein Siarter yn esbonio beth mae'n ei olygu i Amgueddfa Cymru. Mae'n diffinio chwe maes allweddol lle byddwn ni'n gweithio gyda chymunedau perthnasol i ddad-drefedigaethu'r casgliad.
Mae Amgueddfa Cymru yn cydnabod bod amgueddfeydd, eu casgliadau a'u diwylliant yn aml wedi'u gwreiddio mewn trefedigaethu a hiliaeth.
Yn haf 2021 fe gyhoeddwyd ein Siarter ar ddad-drefedigaethu'r casgliadau cenedlaethol. Mae Siarter dad-drefedigaethu casgliadau Amgueddfa Cymru yn canolbwyntio ar 6 maes allweddol:
- Ymchwil gyda'r gymuned
- Cyd-guradu deunydd
- Adnabod casgliadau hiliol
- Penderfyniadau am gaffael
- Mynediad at gasgliadau
- Digidol