Datganiadau i'r Wasg

Mae Streic! 84-85 Strike! yn dod â hanes Streic y Glowyr yn fyw ac yn edrych ar ei effaith hynod ar Gymru

Mae dros 40 mlynedd wedi bod ers i 22,000 o lowyr Cymru adael eu gwaith a cherdded allan o lofeydd ledled Cymru mewn protest yn erbyn cynlluniau’r Bwrdd Glo Cenedlaethol i gau 20 o lofeydd ar draws Prydain.

Fe barhaodd Streic 84-85 am 12 mis anodd, gan feithrin undod a deffroad gwleidyddol digynsail yng Nghymru. Roedd y gost i’r bobl yn enfawr: teuluoedd yn dioddef cyfnodau caled, cymunedau’n cael eu rhwygo, a pharhad i ddirywiad y diwydiant glo. 

Mae arddangosfa ddiweddaraf Amgueddfa Cymru Streic! 84-85 Strike!sy’n agor yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar ddydd Sadwrn 26 Hydref 2024, yn dod â’r cyfnod yn fyw. Bydd yr arddangosfa yn edrych ar sut beth oedd bywyd i deuluoedd a welodd eu gŵyr, tadau, brodyr a meibion yn cydsefyll ar y llinell biced, a bydd yn dilyn y wleidyddiaeth, yr angerdd a’r protestio yn ystod blwyddyn gythryblus i gymunedau yng Nghymru.

Mae’r arddangosfa hefyd yn edrych ar yr effaith gafodd y streic ar y rheiny oedd ddim ar y llinell biced – gan gynnwys ymdrech y menywod i greu nwyddau i gadw’u teuluoedd i fynd yn ystod blwyddyn o galedi. Mae'r arddangosfa hefyd yn dangos i ni sut beth oedd yr oes i blant, yn enwedig yn ystod Nadolig 1984.

O luniau personol a baneri protest i straeon teimladwy o gymrodoriaeth, colled a gobaith, mae’r arddangosfa yn ein hatgoffa ni o flwyddyn a newidiodd dirlun cymdeithasol, gwleidyddol a daearyddol Cymru am byth. Mae’r arddangosfa yn mynd ag ymwelwyr ar daith drwy themâu gwleidyddiaeth, angerdd a phrotest – o’r haf llawn gobaith a gwrthsefyll angerddol i’r gaeaf o drais, caledi a cholli bywoliaeth. 

Mae Streic! 84-85 Strike! wedi cael ei guradu gan Uwch Guradur Glo Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, Ceri Thompson. Roedd Ceri ei hun yn löwr yn ei 30au cynnar yn ystod y streic.

Dywedodd Ceri Thompson: Mae arddangosfa ddiweddaraf Amgueddfa Cymru yn ail-fyw y flwyddyn pan aeth y gymuned benben â llywodraeth Thatcher. Canolbwynt yr anghydfod oedd y frwydr i gadw swyddi a pheidio cau y pyllau glo - roedd hi’n flwyddyn galed ond hefyd yn flwyddyn a welodd gymunedau yn cryfhau, teuluoedd yn gwneud popeth i oroesi, a phobl o du hwnt i gymuned y pyllau glo yn brwydro ochr yn ochr â’r glowyr am degwch.

Rydw i wrth fy modd o gael taflu goleuni ar straeon sy’n cynrychioli y glowyr, eu teuluoedd, y grwpiau cymorth, yr heddlu a’r gwleidyddion tu ôl i Streic y Glowyr yn yr arddangosfa hon i nodi 40 mlynedd ers y flwyddyn honno.

Mae eitemau sydd werth ei gweld yn yr arddangosfa Streic! 84-85 Strike! yn cynnwys lluniau personol, tŵr weindio wedi’i atgynhyrchu i chwarter maint, trawstiau to glofa, offer gwaith glowyr gan gynnwys bathodynnau a lampau; deunyddiau cyfathrebu’r streic gan gynnwys placardiau a thaflenni, cofroddion diwylliannol gan gynnwys eitemau o gyngerdd Pits and Perverts a model o bwll glo Oakdale. 

Mae’r arddangosfa hefyd yn cynnwys lluniau a dynnwyd gan dri ffotograffydd o dri gwahanol safbwynt. Un o’r ffotograffwyr hynny sy’n cael ei gynnwys yn yr arddangosfa yw Richard Williams oedd yn gweithio fel ffotograffydd i’r wasg yn ystod y cyfnod. 

Dywedodd Richard Williams: “Roedd hi’n adeg eithafol, gydag emosiwn ac angerdd yn amlwg, ond yn ddealladwy iawn hefyd gan fyddai colli yn golygu byddai cymunedau yn newid am byth... Ro’n ni hefyd yno ar y diwedd ac ar ôl hynny wrth i’r glowyr ddychwelyd i’r gwaith a rhan fwyaf o olion y diwydiant yn dechrau diflannu.”

“Fel ffotograffydd llawrydd yn gweithio yng Nghymru, rydw i’n teimlo’n falch ac yn freintiedig fod fy lluniau yn cael eu harddangos fel rhan o arddangosfa mor bwysig yn yr Amgueddfa Genedlaethol. Mae’r lluniau yma’n ychwanegu ar yr hanes a dwi’n gobeithio y byddwn nhw’n apelio at y genhedlaeth ifanc yn ogystal â ni sy’n cofio cyfnod y streic.”

Streic! 84-85 Strike! yw arddangosfa ddiweddaraf Amgueddfa Cymru. Bydd Y Cymoedd, a agorwyd ym mis Mai 2024 a Drych ar yr Hunlun – a agorwyd ym mis Mawrth 2024 yn dal ar agor yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd tan fis Ionawr 2025.

Yn ôl Dr Kath Davies, Cyfarwyddwr Casgliadau ac Ymchwil Amgueddfa Cymru: “Fe wnaeth Streic y Glowyr 84-85 feithrin undod a deffroad gwleidyddol digynsail yng Nghymru. Roedd y gost i’r bobl yn enfawr: teuluoedd yn dioddef cyfnodau caled, cymunedau’n cael eu rhwygo, a pharhad i ddirywiad y diwydiant glo. Rydyn ni’n hynod falch o gyflwyno’r arddangosfa deimladwy hon sy’n edrych yn ôl ar flwyddyn dyngedfennol a newidiodd dirlun cymdeithasol, gwleidyddol a daearyddol Cymru am byth.