Datganiadau i'r Wasg
Datganiad Amgueddfa Cymru: Ailagor Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar ddydd Gwener 07 Chwefror
Dyddiad:
2025-02-06Wedi cwblhau’r gwaith cynnal a chadw hanfodol, mae’n bleser gan Amgueddfa Cymru gyhoeddi y bydd drysau Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn ailagor ar ddydd Gwener 7 Chwefror
Ar ddydd Sul 2 Chwefror, bu’n rhaid i Amgueddfa Cymru gau Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd i’r cyhoedd dros dro oherwydd problem fecanyddol gafodd ei hachosi gan fethiant cydran, a hynny mewn ardal benodol o fewn yr adeilad.
Ers hynny, mae ein timoedd wedi bod yn gweithio'n ddyfal i wneud y gwaith atgyweirio hanfodol yn y ffordd gyflymaf a mwyaf effeithiol posibl er mwyn sicrhau bod yr adeilad yn diwallu’r holl safonau diogelwch gofynnol.
Rydyn ni’n cydnabod yr effaith a gafwyd ar ein hymwelwyr, ond diogelwch a lles ein hymwelwyr, gwirfoddolwyr a staff, ynghyd â diogelu ein casgliadau, yw ein prif flaenoriaeth.
Meddai’r Prif Weithredwr, Jane Richardson:
“Fel cynifer o sefydliadau eraill ar draws Cymru a gweddill Prydain, mae rheoli a chynnal adeiladau sy’n heneiddio yn her barhaus. Hoffwn i ddiolch i’n staff a’n cyflenwyr sydd wedi gweithio ddydd a nos er mwyn datrys y broblem a helpu i leihau’r effaith ar ein hymwelwyr.
“Rydyn ni hefyd yn hynod ddiolchgar am yr holl gefnogaeth ddiffuant, amynedd a dealltwriaeth gan y cyhoedd yn ystod y cyfnod yma – rydyn ni’n edrych ymlaen at eich croesawu chi’n ôl.”
O ddydd Gwener, bydd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar agor 6 diwrnod yr wythnos (dydd Mawrth – dydd Sul) rhwng 10am a 4pm. Mae ar gau ar ddyddiau llun heblaw am Wyliau Banc.
Mae tocynnau ar werth ar gyfer arddangosfa Amgueddfa Cymru, Streic ’84-85. Ewch i https://amgueddfa.cymru/caerdydd am ragor o wybodaeth.
Diwedd y datganiad