Datganiadau i'r Wasg
Gwresogi Carbon Isel: Diogelu Treftadaeth Cymru ar gyfer y Dyfodol
Dyddiad:
2025-03-07I ddathlu hanes cyfoethog Cymru yn y cyfnod cyn Dydd Gŵyl Dewi, mae Amgueddfa Cymru, mewn partneriaeth â Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru, yn edrych i'r dyfodol drwy weithredu atebion gwresogi carbon isel ym mhedwar o'i safleoedd.
Craen yn gosod pwmp gwres yn Sain Ffagan.
Yn 2024, sicrhaodd Amgueddfa Cymru werth dros £1 miliwn o gyllid grant drwy Grant Gwres Carbon Isel y Sector Cyhoeddus gan Wasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru.
Bydd hyn yn trawsnewid y ffordd y mae pedwar o saith safle Amgueddfa Cymru yn cael eu gwresogi, trwy osod pympiau gwres ffynhonnell aer (ASHP), gan arbed cyfanswm o bron i 50 tCO2e y flwyddyn.
Y safleoedd sy'n cymryd rhan yn yr ôl-osod gwresogi yw Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan, Amgueddfa Lechi Cymru, Amgueddfa Wlân Cymru a Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, sy’n Safle Treftadaeth y Byd UNESCO.
Mae’r gwaith wedi dechrau yn Sain Ffagan, lle mae cyfanswm o bum boeler nwy naturiol, i gyd o leiaf wyth oed, yn cael eu disodli gan bympiau gwres ffynhonnell aer. Mae'r gwaith uwchraddio'n digwydd yn y prif adeilad, yn ogystal ag yn adeiladau'r Ysgubor Fawr, Oakdale a’r Gweithdy ac mae'r gwaith bron â gorffen.
Mae Amgueddfa Lechi Cymru, yn Llanberis, yn disodli boeler olew 10 oed ac mae Amgueddfa Lofaol Cymru, Big Pit, Blaenafon, yn disodli boeler nwy naturiol 12 oed gyda phympiau gwres ffynhonnell aer newydd. Mae Amgueddfa Wlân Cymru: Drefach Felindre hefyd yn disodli dau o'u boeleri nwy petroliwm hylifedig (LPG) gyda systemau pympiau gwres ffynhonnell aer.
Mae'r pedwar safle wedi cael gwaith uwchraddio System Rheoli Adeiladau i wella’r modd o reoli y systemau gwresogi newydd, ac mae safleoedd yn gosod inswleiddio ychwanegol lle bo modd i leihau colli gwres a gwella effeithlonrwydd y pympiau gwres ffynhonnell aer ymhellach.
Dywedodd Phil Bushby, Cyfarwyddwr Rhaglenni Blaenoriaeth Amgueddfa Cymru
"Mae Amgueddfa Cymru yn falch iawn o fod wedi derbyn y Grant Gwres Carbon Isel o ychydig dros £1m gan Wasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru. Bydd y grant hwn yn helpu'r Amgueddfa i osod seilwaith sy'n lleihau ein dibyniaeth gyffredinol ar nwy naturiol yn rhai o'n prif safleoedd. Yn ogystal â hyn, bydd hefyd yn dileu ein defnydd o olew yn Llanberis yn llwyr a rhan fwyaf o’r LPG yn Nrefach. Mae'n ddechrau gwych ond rydym yn cydnabod bod mwy o waith i'w wneud bob amser."
Bydd Amgueddfa Cymru yn dileu danfoniadau o olew ac LPG i'w safleoedd mwy anghysbell, fel Amgueddfa Wlân Cymru, a bydd mwy o ddiogeledd ynni yn fudd arall o wneud y newid i bympiau gwres ffynhonnell aer.
“Rydym yn falch iawn ein bod wedi derbyn y grant hwn a fydd yn gwneud gwahaniaeth enfawr i'r amgueddfa wrth i ni barhau â'n gostyngiad mewn allyriadau carbon. Mae'r math hwn o gynnydd dim ond yn bosibl trwy gefnogaeth cynlluniau fel y Grant Gwres Carbon Isel ac rydym yn hynod ddiolchgar am y gefnogaeth. Byddwn yn argymell yn gryf y dylai sefydliadau sector cyhoeddus eraill wneud cais i'r ail rownd ariannu."
Mae rowndiau blaenorol o gyllid gwres carbon isel tebyg wedi dangos effeithiau sylweddol ar amrywiaeth o sefydliadau gan gynnwys ysgolion, gwasanaethau tân ac achub, awdurdodau lleol a sefydliadau gofal iechyd yn y sector cyhoeddus.
"Mae'n wych gweld Amgueddfa Cymru yn ymgysylltu â'r Gwasanaeth Ynni ar gyfer y grant gwres carbon isel. Efallai mai mynd i'r afael ag allyriadau tanwydd ffosil ar gyfer gwres yw'r her fwyaf i sero net ar ystad gyhoeddus Cymru. Drwy ddatblygu'r prosiectau hyn, mae Amgueddfa Cymru yn dangos eu bod yn barod i ddiogelu ei weithrediadau yn y dyfodol a chefnogi amcanion sero net Cymru."
David Powlesland, Pennaeth Cyflenwi Ynni Llywodraeth Cymru, Ymddiriedolaeth Garbon.
Mae Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru yn falch o gyhoeddi bod ail rownd Grant Gwres Carbon Isel y Sector Cyhoeddus ar agor ar hyn o bryd. Mae hyn yn cynnig cyfle gwerthfawr arall i sefydliadau'r sector cyhoeddus, fel Amgueddfa Cymru, gael cyllid i gynorthwyo gyda gwaith cyfalaf sydd â'r nod o ôl-osod atebion gwres carbon isel.
Y nod yw lleihau allyriadau carbon yn sylweddol a chyflymu trosglwyddiad Cymru i Sero Ne
Mae'r cyfnod ymgeisio ar agor tan 20 Mawrth 2025. Rhaid i brosiectau cymwys fod yn barod am fuddsoddiad a'u cwblhau erbyn 31 Mawrth 2026.
Am fwy o fanylion ac i wneud cais, ewch i: Grant gwres carbon isel y sector cyhoeddus: canllawiau [HTML] | GOV. CYMRU
DIWEDD
Nodiadau i Olygyddion
Am fwy o wybodaeth a lluniau, cysylltwch â:
Kat Taylor
Swyddog Cyfathrebu â Chleientiaid, Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru
kat.taylor@energyservice.wales
Mae'r Gwasanaeth Ynni yn gweithio gyda'r sector cyhoeddus a mentrau cymunedol i:
- leihau'r defnydd o ynni
- cynhyrchu ynni adnewyddadwy, sy'n eiddo lleol
- lleihau allyriadau carbon
Mae'r Gwasanaeth Ynni yn cynnig cyngor a chymorth technegol, masnachol a chaffael i helpu i droi prosiectau ynni yn realiti.
Mae'r Gwasanaeth Ynni yn gweithio ar:
- gynllunio ynni rhanbarthol
- effeithlonrwydd ynni
- ynni adnewyddadwy
- cerbydau trydan neu gydag allyriadau isel iawn
https://www.llyw.cymru/y-gwasanaeth-ynni-ar-gyfer-grwpiaur-sector-cyhoeddus-grwpiau-cymunedol
Carwyn Evans
Swyddog Cyfathrebu, Amgueddfa Cymru
029 2057 3460
Carwyn.evans@museumwales.ac.uk
Mae Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb ac mae yma i bawb ei defnyddio. Rydym yn elusen ac yn deulu o saith amgueddfa genedlaethol a chanolfan gasgliadau, wedi'u lleoli ledled y wlad. Ein nod yw ysbrydoli pawb drwy stori Cymru, yn ein hamgueddfeydd, mewn cymunedau ac yn ddigidol. Mae ein croeso yn rhad ac am ddim diolch i gyllid gan Lywodraeth Cymru ac yn ymestyn i bobl o bob cymuned.
Dilynwch saith amgueddfa Amgueddfa Cymru ar X, Instagram, neu Facebook. Chwaraewch eich rhan yn stori Cymru: drwy ymweld, gwirfoddoli, ymuno, cyfrannu. www.amgueddfa.cymru
Mae'r cyfle ariannu hwn ar gael i bob sefydliad sector cyhoeddus, ac eithrio awdurdodau lleol a chyrff addysg uwch (gall cyrff addysg bellach wneud cais), ac mae'n cefnogi dull adeilad cyfan o weithredu gwres carbon isel.