Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
O heddiw ymlaen, bydd golygfa drawiadol yn croesawu ymwelwyr i Brif Neuadd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, wedi i sgerbwd mamoth anferth gael ei godi.
Mae'r mamoth i'w weld yn y Brif Neuadd
Yn dair medr o daldra, a phum medr o hyd, mae'r mamoth wedi'i brintio mewn 3D, ac yn gopi o esgyrn mamoth gafodd eu darganfod ym 1986 ar fferm yn Condover ger Amwythig. Ar ôl cael eu cloddio gan dîm o wyddonwyr a gwirfoddolwyr esgyrn, daeth i'r amlwg fod yr esgyrn rhwng 14,000 a 14,500 mlwydd oed – felly dyma'r esgyrn mamoth olaf i gael eu cofnodi ym Mhrydain, a rhai o'r olaf yn Ewrop.
Dyma'r sgerbwd mamoth blewog mwyaf cyflawn i gael ei ddarganfod ym Mhrydain, dim ond y penglog a'r gynffon sydd ar goll. Cafodd esgyrn o leiaf 3 mamoth bach (3–6 oed) eu darganfod gyda'r oedolyn, ond doedden nhw ddim yn perthyn i'w gilydd. Byddai oedolion gwrywaidd yn gadael yr haid ac yn crwydro ar ben eu hunain neu mewn grwpiau bach o wrywod. Byddai'r oedolion benywaidd a'u rhai bach yn byw gyda'i gilydd mewn grwpiau.
Dywedodd Mared Maggs, Pennaeth Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd:
‘Rydym yn hynod o falch i gyhoeddi bod y creadur anhygoel yma wedi cyrraedd Prif Neuadd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, arddangosfa sy'n rhoi bywyd newydd i Brif Neuadd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Fe fydd ymwelwyr yn cael cyfle unigryw i brofi maint pur y mamoth, gan danio rhyfeddod a chwilfrydedd wrth iddynt ymchwilio i fyd diddorol y creaduriaid hyn.
‘Fe fydd y mamoth yn dyrchafu'r profiad o'r amgueddfa i ymwelwyr newydd a rhai sy'n dychwelyd a dwi'n hynod o hapus i gyrraedd y pwynt le rydym yn gallu dadorchuddio darn anhygoel o hanes. Rydym fethu aros i groesawi bawb a rhannu'r stori hudol tu ôl i'r cawr o oes yr iâ.'
Dywedodd Caroline Buttler, Pennaeth Datblygu Casgliadau a palaeontolegydd :
‘Dyma ychwanegiad newydd gwych i deulu Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Bydd yn rhoi cyfle i holl ymwelwyr yr amgueddfa werthfawrogi union faint yr anifail rhyfeddol hwn, a deall y bydd roedd yn byw ynddo 14,000 years ago. Mae'n anhygoel ein bod wedi gallu ail-greu'r sgerbwd hwn gyda thechnoleg fodern fel printio 3D.'
Yn nes ymlaen eleni bydd Amgueddfa Cymru yn gofyn am help i roi enw i'r mamoth, gyda manylion pellach i'w cyhoeddi ar y cyfryngau cymdeithasol ac yn yr amgueddfa dros yr haf.
DIWEDD
Am fwy o wybodaeth a delweddau, cysylltwch â: Carwyn Evans, carwyn.evans@amgueddfacymru.ac.uk
Nodiadau i Olygyddion
Amgueddfa Cymru
Mae Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb ac yma at ddefnydd pawb. Rydyn ni'n elusen, ac mae ein teulu o saith amgueddfa a chanolfan gasgliadau wedi'u gwasgaru ar draws Cymru. Ein nod yw ysbrydoli pawb trwy stori Cymru – yn ein hamgueddfeydd, yn ein cymunedau ac yn ddigidol.
Rydyn ni am ddim diolch i nawdd Llywodraeth Cymru ac mae croeso cynnes i bawb o bob cymuned.
Dewch i fod yn rhan o stori Cymru – trwy ymweld â ni, gwirfoddoli, ymuno neu gyfrannu.
https://amgueddfa.cymru
Dilynwch saith amgueddfa teulu Amgueddfa Cymru ar Instagram a Facebook.