Datganiadau i'r Wasg
Hanes Y Diwydiant Gwlan Ar Gof A Chadw
Dyddiad:
2005-06-28Ddydd Iau 30 Mehefin, bydd cyfres o lyfrau gan Geraint Jenkins, sy'n olrhain hanes y diwydiant yn y rhan yma o'r byd yn cael eu lawnsio yn yr amgueddfa. Daw'r llyfrau a gyhoeddir gan Wasg Carreg Gwalch â'r diwydiant a hanes yr amgueddfa ei hun yn fyw. Teitlau'r llyfrau, sydd ar gael yn y Gymraeg a'r Saesneg yw Dre-fach Felindre a'r Diwydiant Gwlân a Melinau Gwlân, ac maen nhw ar gael am £5.50 yr un.
Cafodd yr amgueddfa sy'n un o chwe safle Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru ei hail-ddatblygu dros y blynyddoedd diwethaf fel rhan o strategaeth ddiwydiannol AOCC, a cheir hanes hyn yn un o'r cyfrolau a lawnsir yr wythnos hon.
Meddai Sally Moss, Curadur a Phennaeth yr Amgueddfa Wlân Genedlaethol:
"Mae'r llyfrau yma yn glasuron yn y maes ac yn llawn lluniau newydd a gwybodaeth wedi'i ddiweddaru. Mae'r llyfrau yma nid yn unig yn llawn gwybodaeth am y crefftau a'r crefftwyr a oedd yn ymwneud â'r diwydiant, ond hefyd yn cynnwys gwybodaeth helaeth am y diwydiant heddiw a'r rôl mae'r Amgueddfa Wlân Genedlaethol yn ei chwarae yn hyn oll."
Treuliodd Geraint Jenkins ei yrfa yn gweithio i AOCC, a bu'n bennaeth yr Amgueddfa Ddiwydiant a Môr ynghyd ag Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan. Mae'n awdur toreithiog ar hanes a thraddodiadau Cymru. Cafodd y llyfrau a lawnsir heddiw eu hysgrifennu pan oedd Dr Jenkins yn gweithio i'r amgueddfeydd.
Bydd Dr Jenkins ar gael i arwyddo copïau o'r llyfrau yn yr Amgueddfa Wlân Genedlaethol o 2.30 ymlaen brynhawn Iau.
Mae safleoedd eraill AOCC yn cynnwys yr Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd, Pwll Mawr: Amgueddfa Lofaol Genedlaethol Cymru, Blaenafon - enillydd Gwobr Gulbenkian eleni - Amgueddfa'r Lleng Rufeinig yng Nghaerllion, Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan ac Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis. Bydd Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn agor yn Abertawe yn nes ymlaen eleni, gan adrodd stori pobl, diwydiant a blaengaredd yng Nghymru.
Mae mynediad i holl safleoedd AOCC am ddim, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.