Datganiadau i'r Wasg

Amgueddfa Orau Prydain Yn Dathlu Ei Llwyddiant

Ymunodd Alun Pugh, Gweinidog Llywodraeth Cynulliad Cymru dros Ddiwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon, â staff Pwll Mawr: Amgueddfa Lofaol Genedlaethol Cymru neithiwr (5 Gorffennaf) i ddathlu llwyddiant yr amgueddfa wrth ennill Gwobr Gulbenkian eleni.

Wrth gyflwyno'r Gweinidog, dywedodd Peter Walker, Ceidwad a Rheolwr y Pwll: "Mae holl staff y Pwll Mawr wrth eu boddau i ennill y wobr ac mae'n deyrnged i ymrwymiad ac ymroddiad y tîm cyfan. Rydyn ni'n falch iawn bod y Gweinidog yma i ddathlu gyda ni heno. Mae cefnogaeth bersonol y Gweinidog i'r project wedi rhoi hwb i ni i gyd yma yn y Pwll Mawr".

Dywedodd Alun Pugh, Gweinidog Llywodraeth Cynulliad Cymru dros Ddiwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon: "Mae ennill gwobr Amgueddfa'r Flwyddyn yn gamp aruthrol i'r Pwll Mawr ac yn un y mae'r amgueddfa'n ei llawn haeddu. Diolch i ymroddiad a brwdfrydedd yr holl staff, a'r gwaith ailddatblygu diweddar, mae'r Pwll Mawr bellach yn atyniad o safon fyd-eang, a bydd ennill y wobr yma'n codi proffil yr amgueddfa fel un sy'n cynrychioli ein treftadaeth ddiwydiannol falch ledled y DU ac i bedwar ban y byd."

Mae'r Pwll Mawr yn un o Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru. Mae amgueddfeydd eraill AOCC yn cynnwys yr Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol, Caerdydd, Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan, Amgueddfa'r Lleng Rufeinig yng Nghaerllion, yr Amgueddfa Wlân Genedlaethol, Dre-fach Felindre ac Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis. Bydd Amgueddfa Genedlaethol y Glannau'n agor yn Abertawe nes ymlaen eleni, gan adrodd stori blaengaredd pobl a diwylliannau Cymru.

Mae mynediad am ddim i holl safleoedd AOCC, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.