Datganiadau i'r Wasg
CELF: Uchelgais Newydd i Gelf Gyfoes yng Nghymru
Dyddiad:
2025-07-16Mae CELF, yr oriel gelf gyfoes genedlaethol i Gymru, yn herio'r sector ddiwylliannol i edrych ar ffyrdd newydd o gynyddu proffil a mynediad at gelf gyfoes yng Nghymru.
Partneriaid CELF
Diolch i gydweithio Amgueddfa Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Chyngor y Celfyddydau mae CELF yn cael ei ddarparu drwy rwydwaith unigryw o orielau, gyda'r nod o weddnewid y tirlun diwylliannol drwy fynd â'r casgliad cenedlaethol o gelf gyfoes i gymunedau ar draws Cymru.
Drwy adeiladu ar egwyddorion cyd-gynhyrchu, bydd CELF yn galluogi cymunedau Cymru i fwynhau mwy o'u casgliad cenedlaethol, gan dynnu ar gasgliadau cyfoes Amgueddfa Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru, a thrwy gomisiynu gwaith gan artistiaid modern.
Diolch i nawdd Llywodraeth Cymru a gwaith hwyluso Cyngor y Celfyddydau, dros y 18 mis diwethaf mae CELF wedi sicrhau buddsoddiadau sylweddol yn isadeiledd presennol y naw oriel bartner, gan eu helpu i gynyddu mynediad at weithiau yn y casgliad cenedlaethol a gweithgareddau cysylltiedig i'r cyhoedd. Mae'r orielau yn cynnwys Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, Oriel Glynn Vivian yn Abertawe, oriel Mostyn yn Llandudno, Amgueddfa ac Oriel Casnewydd, Oriel Davies yn y Drenewydd, Oriel Myrddin yng Nghaerfyrddin, Oriel Plas Glyn y Weddw yn Llanbedrog, Canolfan Grefftau Rhuthun a Storiel ym Mangor.
Dywedodd Cadeirydd Annibynnol CELF, Mandy Williams Davies:
“Mae gan Gymru dreftadaeth gelfyddydol gyfoethog ac unigryw. Gall celf gyfoes ein helpu i fynd i'r afael â chwestiynau mawr am ein hunaniaeth fel cenedl, beth sy'n bwysig i ni ac i ble ydyn ni'n mynd.
Bydd gweithiau celf gyfoes o'r casgliad cenedlaethol yn cael eu benthyg a'u harddangos ar draws y rhwydwaith hwn, ac mae gweithiau comisiwn a gweithgareddau allestyn yn barod wedi ymgysylltu â chymunedau lleol a chenedlaethol. Drwy weddnewid y mynediad at gelf gyfoes ar draws Cymru, nod CELF yw gwneud celf gyfoes yn rhan amlycach o fywyd a lles bob dydd."
Dros y flwyddyn ddiwethaf mae gweithgareddau ac arddangosfeydd CELF wedi cael eu cynnal ar draws Cymru, fel project gwobrwyog Teulu yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth, ac arddangosfa Carreg Ateb: Vision or Dream? yn Mostyn, Llandudno. Fis Medi diwethaf daeth artistiaid, teuluoedd a chymunedau at ei gilydd i ddilyn llwybr drwy ganol Aberteifi o weithiau crefft comisiwn ac i ddathlu a dehongli gwrthrychau o'r casgliad cenedlaethol mewn ffordd ddynamig, newydd.
Dywedodd Ffion Rhys o Ganolfan y Celfyddydau Aberystwyth, un o'r orielau partner:
"Mae Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn falch o fod yn rhan o fenter CELF, syn ein galluogi ni i ddod â'r casgliad celf gyfoes cenedlaethol yn agosach at ein cynulleidfaoedd. Dylai'r celfyddydau fod yn agored i bawb, a gwireddu'r freuddwyd honno yw nod CELF.
“Diolch i'r nawdd, rydyn ni wedi uwchraddio ein systemau awyru a goleuo er mwyn creu hinsawdd addas i arddangos gweithiau pwysig, ac rydyn ni wedi ehangu'r tîm addysg ac allestyn i gysylltu â chymunedau newydd.
“Fel oriel heb gasgliad ein hunain, mae'r gronfa gomisiynu wedi bod yn newid byd, gan roi cyfle i ni gefnogi artistiaid o Gymru i greu gwaith newydd. Cafodd ein harddangosfa gyntaf fel rhan o CELF – Teulu – ei churadu ar y cyd â theuluoedd, gan ganolbwyntio ar ddatblygu'r gynulleidfa honno. Rydyn ni'n ddiolchgar i bawb sydd wedi gwneud hyn yn bosib."
Diolch i nawdd ychwanegol gan Lywodraeth Cymru, mae CELF hefyd wedi hwyluso project mawr sydd erbyn hyn wedi digideiddio dros 30,000 o weithiau o gasgliadau cenedlaethol Amgueddfa Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Drwy hyn bydd gwefan CELF yn rhoi cyfle i'r cyhoedd bori drwy filoedd o weithiau gan fwynhau, dysgu a chael eu hysbrydoli.
Esboniodd Pennaeth Celf Amgueddfa Cymru, Ceri Jones:
"Bydd y platfform digidol yn rhoi cip i bobl tu ôl i'r llenni ac yn esbonio mwy am y gweithiau celf, yr artistiaid, a'r straeon a'r llefydd wnaeth eu hysbrydoli.
“Gallwn ni roi cyfle i artistiaid comisiwn esbonio mwy, fel Angharad Pearce Jones a Geraint Ross Evans. Bydd lle hefyd i weithiau comisiwn gan bartneriaid CELF – fel y project gyda Bardd Plant Cymru wnaeth roi cyfle i blant ysgol o Gwm Rhondda i Langefni greu barddoniaeth yn ymateb i weithiau yn y casgliad gan artistiaid fel Mike Perry, Caroline Walker a Donald Rodney."
Dywedodd Jack Sargeant, y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol:
"Mae'r casgliad cenedlaethol yn perthyn i bawb yng Nghymru. Bydd y model unigryw hwn yn galluogi pobl i fwynhau'r casgliad yn eu cymunedau eu hunain. Bydd y platfform digidol newydd hefyd yn sicrhau y gall mwy o bobl ar draws Cymru, y DU a thu hwnt gael mynediad at y casgliad cenedlaethol unrhyw bryd, unrhyw le, mewn unrhyw fodd.
“Rydyn ni'n llwyr gefnogi gweledigaeth CELF i feithrin perthynas a chyfleon newydd gyda'r gymuned gelf weledol, gan sicrhau bod celf gyfoes yn dod yn rhan gryfach o iechyd a lles ein cymunedau."
Am ragor o wybodaeth am CELF a'r rhaglen ddigwyddiadau, ewch i celfarycyd.cymru.
DIWEDD
Nodiadau i olygyddion:
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:
communications@museumwales.ac.uk
Gwefan CELF:
Lluniau
Mae lluniau ar gael i lawrlwytho yma – https://we.tl/t-ciflu5TX9v
Defnyddiwch y credydau canlynol:
• Teulu. Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth. Ffotograffiaeth gan Emma Goldsmith
• Angharad Pearce Jones, Di-deitl © Angharad Pearce Jones/Canolfan Grefft Rhuthun. Ffotograffiaeth gan Dewi Tannatt Lloyd Comisiwn CELF Canolfan Grefft Rhuthun, 2025
• Nikhil Chopra, From Land to Fire © Nikhil Chopra/Oriel Gelf Glynn Vivian. Ffotograffiaeth gan Polly Thomas. Comisiwn CELF Oriel Gelf Glynn Vivian, 2025 Arddangosfa Teigrod a Dreigiau: India a Chymru ym Mhrydain
• Hannah Walters, Mab © Hannah Walters/Oriel Myrddin. Ffotograffiaeth gan Heather Birnie Comisiwn CELF Oriel Myrddin, 2024
• Shani Rhys James a Stephen West: Gofod Mewnol Storiel. Ffotograffiaeth gan Rhian Israel, Amgueddfa Cymru
• Mike Perry, Diwedd Onnen, Ffynnonofi, Sir Benfro, Cymru. © Mike Perry/Amgueddfa Cymru Casgliad Amgueddfa Cymru
• Caroline Walker, Cyflyrru © Caroline Walker/Amgueddfa Cymru. Casgliad Amgueddfa Cymru
• Joshua Donkor, Eric Ngalle Charles © Joshua Donkor/Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Casgliad Llyfrgell Genedlaethol Cymru
• Natalia Dias, Blodeuwedd © Natalia Dias / Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Casgliad Llyfrgell Genedlaethol Cymru
CELF
Mae datblygiad oriel gelf gyfoes genedlaethol i Gymru yn ffordd newydd o gynyddu proffil a mynediad at gelf gyfoes yng Nghymru, er mwyn sicrhau y gall pobl ar draws Cymru, a thu hwnt, gael mynediad at gelf gyfoes Gymreig yn lleol ac yn ddigidol.
Adeiladwyd y model gwasgaredig, unigryw ar y cyd, ac mae'n cynnwys 11 o orielau amrywiol ar draws Cymru, platfform digidol, a sefydliadau partner cenedlaethol fydd yn cysylltu cymunedau ac artistiaid â'n casgliad cenedlaethol.
Bydd y fenter greadigol genedlaethol hon yn weithgar yn lleol ac yn eirioli'n rhyngwladol, gan roi llwyfan i ddylanwad ac uchelgais artistig y genedl, a chynnig cyfleon i:
• Wneud mynediad i'r casgliadau cenedlaethol yn haws i bawb
• Cefnogi artistiaid ifanc a newydd o bob oed
• Cynyddu addysg ac ymgysylltu, yn enwedig ymysg pobl ifanc
• Buddsoddi a helpu gyda datblygu cyfalaf orielau presennol
• Codi proffil cenedlaethol a rhyngwladol
Partneriaid ac Orielau CELF
Mae CELF yn fenter gydweithredol rhwng deuddeg partner ar draws Cymru, wedi'i gefnogi gan y casgliad cenedlaethol sydd yng ngofal Amgueddfa Cymru a Llyfrgell Genedlaethol, a chyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru. Mae CELF yn cael ei gyflwyno gan:
• Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth
• Amgueddfa Cymru
• Cyngor Celfyddydau Cymru
• Oriel Gelf Glynn Vivian, Abertawe
• MOSTYN, Llandudno
• Llyfrgell Genedlaethol Cymru
• Amgueddfa ac Oriel gelf Casnewydd
• Oriel Davies, y Drenewydd
• Oriel Myrddin, Caerfyrddin
• Plas Glyn-y-Weddw, Pwllheli
• Canolfan Grefftau Rhuthun
• STORIEL, Bangor
Rhestr o arddangosfeydd wedi’i cefnogi gan CELF
|