Datganiadau i'r Wasg

Self Portrait UK 14-19: Sut mae pobl ifanc Prydain yn eu gweld eu hunain?

www.channel4.com/selfportraituk

Bydd y cyflwynydd teledu a'r actores o Gymru, Lisa Rogers, yn agor arddangosfa deithiol Self Portrait UK 14–19 yn yr Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol, Caerdydd am 12pm dydd Iau, 14 Gorffennaf.

Mae'r arddangosfa bryfoclyd o hunanbortreadau gan bobl ifanc a gyflwynwyd i ymgyrch hunan-bortreadau hynod lwyddiannus Channel 4, yn rhoi cip unigryw ar hunaniaeth, straeon a diwylliannau unigryw pobl ifanc ym Mhrydain heddiw.

Mae'r arddangosfa'n cyflwyno 100 o hunan-bortreadau ar ffurf delweddau, fideos a sain, sy'n herio ein syniadau am y ffordd y mae pobl ifanc yn eu gweld eu hunain, a'r ffordd y mae pobl eraill yn eu gweld nhw. Mae'r gweithiau gan bobl ifanc o Gymru yn cynnwys llun trawiadol gan Callum Parker, brithwaith gofalus o ffotograffau personol gan Elin Jones, peintiad olew medrus gan Georgia Pawelko a phortread personol ar sail ffotograffiaeth a lluniau digidol gan Nicola Evans. Gan ddefnyddio cyfuniad o ddrama, rhaglen ddogfen a chomedi, mae Cory, Mark a Philip o Yikes TV, wedi cynhyrchu cyfres o ffilmiau pryfoclyd a phwerus sy'n adrodd stori eu bywydau.

Caiff detholiad o hunan-bortreadau gan gast o selebs, gan gynnwys y Gymraes Lisa Rogers, y bardd a'r awdur Benjamin Zephaniah, y balerina Darcey Bussell, yr offerynnydd Evelyn Glennie, y comedïwr a'r actores Shazia Mirza a'r DJ a'r darlledydd Trevor Nelson eu harddangos hefyd.

Dywedodd Michael Tooby, Cyfarwyddwr yr Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol, Caerdydd:

"Mae'r project cyffrous yma o safon uchel yn rhoi cyfle i bobl ifanc fynegi ac archwilio eu hanes a'u hunaniaeth trwy iaith fyd-eang celf. Mae'r gweithiau yn yr arddangosfa'n torri tir newydd o ran eu creadigrwydd, yn drawiadol o ran eu gonestrwydd ac yn rhoi cip unigryw ar wirionedd bob dydd a breuddwydion pobl ifanc heddiw."

Dywedodd Heather Rabbatts, Pennaeth Addysg, Channel 4, said: "Yn ystod blynyddoedd anodd ein harddegau rydyn ni'n dechrau meddwl go iawn am ein hunaniaeth, pwy ydyn ni, beth ydyn ni'n credu ynddo a sut rydyn ni am gael ein gweld. Mae'r ymateb i'r ymgyrch hunan-bortreadau wedi adlewyrchu hyn — mae pobl ifanc o bob lliw a llun wedi cyfrannu lluniau ohonyn nhw eu hunain gan fynegi ac archwilio'r pethau sy'n effeithio ar eu bywydau mewn ffyrdd beiddgar ac arloesol — eu syniadau, eu personoliaeth, eu doniau, eu gobeithion a'u pryderon — gan adlewyrchu'n llawn yr amrywiaeth a'r dychymyg sy'n diffinio pobl ifanc Prydain heddiw."

Mae mynediad i holl safleoedd AOCC am ddim, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Mae safleoedd AOCC yn cynnwys yr Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol, Caerdydd, Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan, Pwll Mawr: Amgueddfa Lofaol Genedlaethol Cymru — enillydd Gwobr fawr Gulbenkian eleni, Amgueddfa'r Lleng Rufeinig, Caerllion, yr Amgueddfa Wlân Genedlaethol, Dre-fach Felindre ac Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis. Bydd Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn agor yn Abertawe yn nes ymlaen eleni, gan adrodd straeon pobl, diwydiannau a blaengaredd Cymru.

I gael rhagor o wybodaeth ffoniwch Julie Richards, Swyddog y Wasg Yr Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol Cymru Ffôn: 07876 476695 E-bost: Julie.richards@amgueddfacymru.ac.uk

I gael rhagor o wybodaeth a lluniau o ymgyrch ac arddangosfa Self Portrait UK a Self Portrait UK 14-19, ffoniwch: Flora Whitley ar Ffôn: 0191 490 9250 E-bost flora@media19.co.uk