Datganiadau i'r Wasg

Plant yn Cyfnewid Nikes a beics am sandalau a chleddyfau

Anghofiwch y Playstation a'r Teledu, bydd plant yn byw hanes yn Amffitheatr Caerllion ar 9 a 10 Gorffennaf — wrth ymuno â'r Fyddin Rufeinig!

Mae'r Lleng Fach boblogaidd nôl am flwyddyn arall. Dyma gyfle i'r plant fartsio yn yr Amffitheatr gyda milwr Rhufeinig. Dywedodd Lloyd Astbury, 8 oed, o Gaerllion:

"Y flwyddyn ddiwetha' fe wisgais i fel Rhufeiniwr a mynd i fartsio yn yr Amffitheatr gyda chleddyf a milwr — alla'i ddim ag aros i fynd nôl eto, a gês i dystysgrif."

Eleni, bydd y dathliad yn cynnwys grwpiau ail-greu Gladiatoraidd, Canoloesol ac Oes Fictoria. Mae Roger Morgan o Gasnewydd yn llawfeddyg gyda'r grŵp ail-greu Oes Fictoria, y 1879's. Dywedodd,

"Rydw i wrth fy modd yn gwneud y sioeau yma, mae awyrgylch arbennig ac mae'n braf gweld wynebau pobl wrth i chi ddisgrifio triniaethau'r hen ddyddiau — llewygodd rhywun arna'i unwaith!"

Mae Britannia, grŵp y Gladiatoriaid wedi cymryd rhan ym mhroject 'Big Roman Dig' Channel 4, ac mae eu harweinydd, Dan Shadrake yn teimlo'r un fath,

"Rydyn ni am ddangos i bobl sut beth fyddai mynd i weld gornest gladiatoriaid ac rydyn ni'n cyffroi'r torfeydd gymaint eu bod nhw'n galw am waed!"

Yn ogystal â grwpiau ail-greu, bydd grŵp o filwyr go iawn yn ymuno yn yr hwyl ddydd Sadwrn, 9 Gorffennaf wrth i aelodau Bataliwn 1af Catrawd Brenhinol Cymru alw draw - gyda'u tanc! Ac os nad yw hynny'n ddigon i chi, bydd masnachwyr, tylinwr, sgyrsiau a gweithgareddau i blant, gan gynnwys cyfle i fartsio yn yr amffitheatr gyda milwr Rhufeinig.

Pris y tocynnau yw £10 i deuluoedd (2 oedolyn a 3 phlentyn), £4 i oedolion a £2 i gonsesiynau. Bydd y digwyddiad ar agor 11am–5pm dydd Sadwrn a dydd Sul. Gallai amserau'r arddangosfeydd amrywio, ffoniwch i holi.

Mae Amgueddfa'r Lleng Rufeinig yn un o chwe safle Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru ledled y wlad. Y lleill yw'r Pwll Mawr: Amgueddfa Lofaol Genedlaethol Cymru — enillydd gwobr fawr Gulbenkian eleni; yr Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol, Caerdydd; Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan; yr Amgueddfa Wlân Genedlaethol, Dre-fach Felindre ac Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis. Bydd Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe yn agor yn nes ymlaen eleni, gan adrodd straeon arloesol pobl a diwydiannau Cymru.

Mae mynediad am ddim i'r amgueddfa, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.