Datganiadau i'r Wasg

Dathlu menywod ym myd y campau – arddangosfa newydd yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

Mae arddangosfa newydd yn dathlu llwyddiannau menywod Cymru ym myd y campau wedi agor yn oriel Cymru... yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru. 

LLun llydan o cas Menywod a Chwaraeon yn oriel Byw a Bod

Cynhyrchwyd yr arddangosfa hon mewn partneriaeth ag Archif Menywod Cymru fel rhan o'u project Menywod a Chwaraeon: Cymru, a ariennir gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol. ⁠Mae'n cynnwys straeon a gwrthrychau sy'n ymwneud â menywod ysbrydoledig Cymru o fyd y campau gan gynnwys y seiclwraig a enillodd fedalau Olympaidd, Nicole Cooke, a'r enillydd medal aur Taekwondo Olympaidd, Jade Jones. 

Mae'r gwrthrychau arbennig yn cynnwys helmed Taekwondo Jade Jones o Gemau Olympaidd Rio 2016, cap cyn-chwaraewraig a chapten pêl-droed Cymru, Laura McAllister, a gwisg y sglefrwraig ffigur a'r beirniad Olympaidd Mollie Phillips OBE. 

Ochr yn ochr â'r gwrthrychau hyn, mae hanes wyth ar hugain o fenywod Cymru o fyd y campau ar ffurf llyfryn, gan dynnu sylw at lwyddiannau menywod sy'n datblygu gyrfaoedd ar y llwyfan chwaraeon rhyngwladol. Mae ffilm o'r enw Beth yw'r Sgôr? yn edrych ar straeon yr arwresau chwaraeon ymhellach, wedi'u hadrodd yn eu geiriau eu hunain. ⁠ 

Dywedodd Fflur Morse, Uwch Guradur Bywyd Diwylliannol: 

“Rydym yn falch o gynnal yr arddangosfa bwysig hon sy’n dathlu llwyddiannau menywod Cymru ym myd y campau. Yn draddodiadol, mae hanes chwaraeon wedi canolbwyntio ar lwyddiant dynion ac mae'n bwysig ceisio mynd i’r afael â’r anghydbwysedd hwnnw. Mae Amgueddfa Cymru i bawb, a gobeithiwn y bydd ymwelwyr yn cael eu hysbrydoli gan straeon y menywod arloesol hyn.” 

Dywedodd Catrin Stevens, Rheolwr Project Menywod a Chwaraeon: Cymru ar ran Archif Menywod Cymru: ⁠ 

“Mae wedi bod yn fraint enfawr gweithio gyda Sain Ffagan i guradu’r arddangosfa hon. Dyma benllaw project dwy flynedd a ariannwyd gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, sydd wedi dod â straeon newydd ystod anhygoel o fenywod o fyd y campau i'r golwg. O gyn-bencampwyr sydd ddim gyda ni erbyn hyn, megis y nofwraig Olympaidd Irene Steer, enillydd medal aur, a chwaraewraig snwcer a phencampwraig y byd Agnes Davies, i ddelweddau o dimau a chwaraewyr cymunedol lleol. Mae'r arddangosfa hon a'r ffilm Beth yw’r Sgôr, a fydd yn cael ei dangos gyntaf yn ystod y digwyddiad agoriadol, yn talu teyrnged i lwyddiannau 60 o fenywod anhygoel Cymru o 37 o wahanol chwaraeon, sydd wedi cynrychioli Cymru ar y llwyfan rhyngwladol ac wedi ennill llu o fedalau ac anrhydeddau.⁠⁠ Rydym yn falch o allu rhoi llwyfan i'r straeon ysbrydoledig hyn.”   

Mae'r arddangosfa ar agor o 27 Tachwedd 2025 am flwyddyn a chaiff ymwelwyr ei gweld yn rhad ac am ddim. I gael rhagor o wybodaeth am broject Menywod a Chwaraeon: Cymru Archif Menywod Cymru, ewch i Menywod a Chwaraeon: Cymru

Gallwch chi weld rhagor o wrthrychau sy'n ymwneud â menywod a chwaraeon yng Nghymru yn Cymru… amdani hi yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru. Mae Cymru… amdani hi yn rhoi llwyfan i wrthrychau sy'n ymwneud â phêl-droed menywod yng Nghymru ac yn dathlu ymddangosiad Cymru ym mhencampwriaeth Ewro 2025. ⁠ 

DIWEDD

Nodiadau i’r Golygydd 

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch ag ellen.davies@amgueddfacymru.ac.uk

Mae Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb ac yma i bawb ei mwynhau. ⁠ Rydyn ni’n elusen, ac mae ein teulu o saith amgueddfa a chanolfan gasgliadau wedi’u gwasgaru ar draws Cymru. Ein nod yw tynnu sylw’r byd at ddiwylliant Cymru ac ysbrydoli pawb i ddysgu a mwynhau eu hunain drwy Gasgliad Cenedlaethol Cymru. Rydyn ni am ddim diolch i nawdd Llywodraeth Cymru ac mae croeso cynnes i bawb o bob cymuned. Dilynwch saith amgueddfa teulu Amgueddfa Cymru ar Instagram a Facebook. Dewch i fod yn rhan o stori Cymru – trwy ymweld â ni, gwirfoddoli, ymuno neu gyfrannu.  www.amgueddfa.cymru  

Sefydlwyd Archif Menywod Cymru ym 1998 i godi ymwybyddiaeth o fenywod yn hanes Cymru ac i ddiogelu ffynonellau’r hanes hwnnw, oherwydd heb ffynonellau, nid oes gennym hanes.  Mae Archif Menywod Cymru wedi ymgymryd â phrojectau arloesol mawr gan gynnwys cofnodi hanesion llafar gweithwyr ffatri benywaidd dewr yng Nghymru 1945-75 yn Lleisiau o Lawr y Ffatri a chofnodi profiadau ein gwleidyddion benywaidd sydd wedi gwasanaethu yn y Senedd ers 1999 yn Gwir Gofnod o Gyfnod. Rydym yn sefydliad gwirfoddol, cynhwysol sy'n anelu at ddathlu bywydau a straeon menywod Cymru. Ymunwch â ni. Mae rhagor o wybodaeth yma: www.archifmenywodcymru.org.