Datganiadau i'r Wasg
Arddangos Cwilt Coffa AIDS Terry Higgins yng Nghymru am y tro cyntaf
Dyddiad:
2026-01-28Bydd cwilt i gofio Terry Higgins, un o'r bobl gyntaf yn y DU i farw o afiechyd yn gysylltiedig ag AIDS, yn cael ei ddangos yn oriel Cymru... yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru o 29 Ionawr 2026.
Gannwyd Terrence Higgins, neu Terry i chi a fi, yn Sir Benfro yn 1945. Cafodd ei fagu yn Hwlffordd, cyn symud i Lundain. Ar ôl iddo farw yn Ysbyty Sant Thomas yn Llundain ar 4 Gorffennaf 1982, sefydlwyd elusen yn ei enw fyddai'n newid cwrs yr epidemig HIV ac yn arbed miloedd o fywydau.
Cynhyrchwyd y cwilt, sydd ar fenthyg gan Ymddiriedolaeth Terry Higgins, i nodi 40 mlynedd ers ei farw a dathlu ei ddylanwad rhyfeddol. Mae'r wyth panel yn dathlu gwahanol rannau o'i fywyd, fel Cymro, dyn hoyw, ac aelod o'r Llynges Frenhinol. Yn ogystal â phaneli yn dathlu ei ffrindiau a Pride LHDTQ+ mae teyrnged bersonol gan ei bartner, Rupert. Cynhyrchwyd y panel olaf gan ddefnyddwyr, gwirfoddolwyr, a staff Ymddiriedolaeth Terrence Higgins i ddathlu'r gwelliannau rhyfeddol yn y frwydr yn erbyn HIV dros y 40 mlynedd diwethaf.
Dywedodd Mark Etheridge, Prif Guradur Datblygu Casgliadau: LHDTQ+ yn Amgueddfa Cymru
"Mae'n fraint arddangos Cwilt Coffa AIDS Terry Higgins yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru - y tro cyntaf i'r cwilt gael ei arddangos yng Nghymru. Effeithiodd yr epidemig HIV/AIDS ar fywydau cenhedlaeth gyfan, yn enwedig bywydau dynion hoyw. Does dim gwellhad llawn o hyd, ond mae triniaeth effeithiol yn golygu gall pobl gyda HIV fyw bywydau hir ac iach, heb basio'r afiechyd ymlaen.
Mae'n bwysig bod straeon LHDTC+ yn dod yn rhan o'n cof cenedl, gan sicrhau y gall cenedlaethau'r dyfodol ddysgu am hanes a diwylliant LHDTC+ yng Nghymru."
Dywedodd Richard Angell OBE, Prifweithredwr Terrence Higgins Trust:
"Roedd Terry yn Gymro i'r carn oedd yn byw yn ei famwlad am dros hanner ei fywyd. Mae'n wych bod ei ddylanwad yn cael ei dathlu yn amgueddfa genedlaethol Cymru. Roedd sawl agwedd o'i fywyd yn rhyfeddol ond bydd ei brofiadau - o'i fagwraeth mewn tref fechan, i ganfod ei hunaniaeth a'i gymuned yng nghanol bwrlwm ei hoff gerddoriaeth - yn gyffredin i bawb, yn enwedig pobl cwiar.
Pan fu farw Terry, doedd dim prawf am HIV, hab sôn am driniaeth. Nawr, mae gan Gymru gyfle i fod y wlad gyntaf yn y byd i stopio unrhyw achosion HIV newydd. Ein dyletswydd ni dros Terry, a phawb arall rydyn ni wedi'u colli, yw gwireddu'r freuddwyd hon."
Yn ogystal â'r cwilt bydd cyfle i weld portread o Terry gan yr artist Nathan Wyburn sy'n rhan o gasgliad Amgueddfa Cymru. Mae'r portread wedi'i greu o stampiau inc ar siâp logo calon Ymddiriedolaeth Terrence Higgins, gyda'r lliwiau coch a gwyrdd yn cyfleu gwreiddiau Cymreig Terry.
Mae Cwilt Coffa AIDS Terry Higgins i'w weld yn oriel Cymru... rhwng 29 Ionawr a 29 Mehefin 2026. Bydd y portread i'w weld rhwng 29 Ionawr a 27 Ebrill 2026.
Gallwch chi weld rhagor o wrthrychau sy'n ymwneud â hanes LHDT+ yn Nhymru yng nghasyn parhaol Cymru... Balchder yn yr oriel.
DIWEDD
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â: ellen.davies@amgueddfacymru.ac.uk
Mae Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb ac yma at ddefnydd pawb. Rydyn ni’n elusen, ac mae ein teulu o saith amgueddfa a chanolfan gasgliadau wedi’u gwasgaru ar draws Cymru. Ein nod yw tynnu sylw’r byd at ddiwylliant Cymru ac ysbrydoli pawb i ddysgu a mwynhau eu hunain drwy Gasgliad Cenedlaethol Cymru. Rydyn ni am ddim diolch i nawdd Llywodraeth Cymru ac mae croeso cynnes i bawb o bob cymuned. Dilynwch saith amgueddfa teulu Amgueddfa Cymru ar Instagram a Facebook. Dewch i fod yn rhan o stori Cymru – trwy ymweld â ni, gwirfoddoli, ymuno neu gyfrannu.
Terrence Higgins Trust yw elusen HIV amlycaf y DU. Rydyn ni'n cynnig gwasanaeth i bobl ar draws y DU sy'n byw gyda HIV. Yng Nghymru, mae hyn yn cynnwys cefnogaeth gan unigolion a chwrs 'byw gyda HIV'. Nod Ymddiriedolaeth Terrence Higgins yw sicrhau nad oes unrhyw achosion newydd o HIV yn y DU, cefnogi pobl i fyw bywyd llawn gyda HIV, a brwydro'r stigma. Mae rhagor o wybodaeth ar wefan tht.cymru.