Datganiadau i'r Wasg

Sioe Filwrol Rufeinig yn torri pob record

Heidiodd ymwelwyr o bell ac agos i Gaerllion dros y sul er mwyn mwynhau'r Sioe Filwrol Rufeinig, sy'n trawsnewid y dref fodern yn hen ganolfan Rufeinig Isca.

Trefnir y digwyddiad gan Amgueddfa'r Lleng Rufeinig, sy'n rhan o Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru, ac eleni llwyddodd yr amgueddfa i ddenu dros 6500 i'r digwyddiad, gan dorri pob record flaenorol.

Meddai Rheolwr yr amgueddfa, Bethan Lewis:

“Rydym yn hapus iawn gyda llwyddiant y Sioe Filwrol eleni. Tîm bach sydd yma yn yr amgueddfa ac mae pawb yn dod at ei gilydd i greu digwyddiad arbennig ar gyfer ein hymwelwyr.

“Roedd gan y digwyddiad rywbeth i bawb eleni — o grwpiau ail-greu Rhufeinig a milwyr Fictoraidd, i wneud masgiau a chyfle i blant wisgo i fyny. Mae'n ddiwrnod allan arbennig ar gyfer y teulu cyfan, a rydym yn hynod falch ein bod wedi llwyddo i ddenu cynifer o ymwelwyr dros y penwythnos.”

Bu'r grwp Fictoraidd, y 1879au — yn y digwyddiad am y tro cyntaf — yn llwyddiant mawr gydag ymwelwyr, yn ôl Roger Morgan, llawfeddyg gyda'r grwp:

“Rydw i wrth fy modd yn gwneud sioeau fel hyn; mae 'na awyrgylch arbennig ac mae'n arbennig gweld wynebau pobl wrth i ni ddisgrifio sut roedd cleifion yn cael eu trin yn y cyfnod.”

Mae Amgueddfa'r Lleng Rufeinig ar agor o ddydd Llun i ddydd Sadwrn o 10.00 tan 5.00 ac ar ddydd Sul o 2.00 tan 5.00. Mae mynediad am ddim, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru. Am ragor o wybodaeth ynglŷn â digwyddiadau yn yr amgueddfa ffoniwch (01633) 423 134.

Mae'r amgueddfa yn un o chwe safle Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru ar hyd a lled y wlad. Y safleoedd eraill yw Pwll Mawr: Amgueddfa Lofaol Genedlaethol, Blaenafon — enillydd Gwobr Gulbenkian eleni, Amgueddfa Wlân Genedlaethol, Dre fach Felindre, yr Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol, Caerdydd, Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan, ac Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis. Bydd Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, sy'n adrodd hanes pobl, diwydiant a blaengaredd yng Nghymru yn agor yn Abertawe yn yr hydref.