Datganiadau i'r Wasg

Palu dros Fuddugoliaeth

Sioe Amaethyddol Frenhinol 18–21 Gorffennaf 2005

Pan ddechreuodd y Rhyfel ym 1939, lansiodd y llywodraeth ymgyrch i dyfu mwy o fwyd a ddaeth yn enwog fel yr ymgyrch “Dig for Victory”. Cafodd tir prysgwydd a gerddi eu troi'n llefydd i dyfu llysiau neu ffrwythau i fwydo'r genedl a'r lluoedd, ac ymunodd dros 87,000 o ferched â Byddin y Tir. Byddai'r merched hyn yn gwneud gwaith bôn braich caled ar y tir, mewn ffermydd a fforestydd, planhigfeydd a gerddi marchnad, er mwyn darparu cynnyrch i bobl Prydain.

Er mwyn cofio rhan allweddol merched Byddin y Tir yng Nghymru a'r ymgyrch Dig for Victory, bydd yr Amgueddfa Werin yn mynd ag ymwelwyr y Sioe Fawr nôl i weld sut le oedd Cymru yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Bydd yna ardd adeg y rhyfel, gan gynnwys Lloches Anderson, a ffrwythau, llysiau a pherlysiau o'r cyfnod.

";Wrth i fwy a mwy o weithwyr fferm gael eu galw i'r lluoedd, a mwy a mwy o'r tir gael ei drosi i gynhyrchu bwyd, rhoddodd Merched y Tir y bôn braich ychwanegol oedd ei angen ar ffermydd a'r gerddi," meddai Juliet Hodgkiss, Prif Gadwraethydd Gerddi Sain Ffagan. "Collodd Castell Sain Ffagan y rhan fwyaf o'i staff i'r lluoedd, felly Byddin y Tir oedd yn edrych ar ôl y tiroedd a'r gerddi, gan droi llawer o'r borderi blodau a'r gerddi prydferth a welwch chi yma heddiw yn lleiniau i dyfu ffrwythau a llysiau."

Bydd cadwraethwyr gerddi Sain Ffagan yn gwisgo fel Merched y Tir neu fel pobl Cymru adeg y Rhyfel yn y Sioe Fawr i roi cyngor ac i ddangos sut i fynd ati i dyfu a gofalu am gynnyrch ffres mewn bwcedi a baddonau alwminiwm. Bydd hyn yn rhan o flwyddyn o weithgareddau gan yr Amgueddfa i ddathlu ac astudio cyfraniad y Cymry at ymdrech y rhyfel. Bydd y gweithgareddau'n cynnwys casglu straeon gan ymwelwyr, gofalu am yr ardd ac esbonio rhan hanfodol cynnyrch ffres at ddiet y genedl am fod dogni llym ar fwydydd eraill. Cewch gyfle i weld y dognau ar gyfer pob oedolyn yn ystod y rhyfel, gwisgo masgiau nwy, a chamu nôl mewn amser i gyfnod cythryblus ond hanfodol yn ein hanes diweddar.

“Mae hi mor bwysig ein bod ni'n cofio cyfraniad gerddi a Byddin y Tir at ymdrech y rhyfel,” meddai Juliet. “Ni chafodd merched Byddin y Tir yr un hawliau â'r merched yn y lluoedd arfog, a daethon nhw i gael eu hadnabod fel y 'Gwasanaeth Sinderela', ond roedd eu gwaith caled a'u cyfraniad at ymdrech y rhyfel yn amhrisiadwy. Rydyn ni'n gwybod o'r llythyrau a'r casgliad hanes llafar yn yr Amgueddfa eu bod nhw wedi cael llawer iawn o hwyl, ac mae'n rhaid bod eu hannibyniaeth nhw wedi chwarae rhan bwysig wrth roi rhyddid i ferched Prydain.”

Mae amgueddfeydd eraill AOCC yn cynnwys yr Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol, Caerdydd, y Pwll Mawr: Amgueddfa Lofaol Genedlaethol Cymru — enillydd Gwobr fawr Gulbenkian eleni, Amgueddfa'r Lleng Rufeinig yng Nghaerllion, yr Amgueddfa Wlân Genedlaethol, Dre-fach Felindre ac Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis. Bydd Amgueddfa Genedlaethol y Glannau'n agor yn Abertawe nes ymlaen eleni, gan adrodd stori blaengaredd pobl a diwylliannau Cymru.

Mae mynediad i holl safleoedd AOCC am ddim, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.