Datganiadau i'r Wasg

Pren, Gwlân a Chlai

Dathlwch y newidiadau mewn 2000 mlynedd o dyfu ecolegol yn Sain Ffagan

1–3PM 14 Gorffenaf 2005

Dim ots ai tai crwn y Derwyddon neu dai'r dyfodol sy'n mynd ach bryd, mae'r adeiladau yn Amgueddfa Werin Cymru'n hen ffefrynnau yng nghalonnau a dychymyg y Cymry. Mae datblygiadau newydd pwysig yn y Pentre Celtaidd ac ail-lansio'r Tŷ ar gyfer y Dyfodol fel y Tŷ Gwyrdd: Byw Bywyd Cynaliadwy, yn cyfuno hen ffyrdd o ddefnyddio pethau o fyd natur fel pren, gwlân a chlai, â'r diddordeb cyfoes mewn byw bywyd 'gwyrdd' a chartrefi cynaliadwy.

Ers ail-adeiladu'r Pentre Celtaidd ym 1992, mae arbenigwyr yr Amgueddfa wedi bod yn cadw llygad barcud ar effeithiau amser ar yr adeiladau a'r deunyddiau naturiol. Oherwydd cymysgedd o damprwydd a difrod strwythurol, bu angen datgymalu to tŷ Conerton ac mae'r arbenigydd plethwaith a dwb, Dafydd Wiliam wrthi'n ei ail-godi gan ddefnyddio technegau traddodiadol ac adnoddau naturiol.

Y tŷ crwn, carreg yma gyda'i do gwellt mewn siâp côn fydd tŷ Derwydd y pentref a bydd yn cynnwys pethau fel llwyau efydd i ddarogan a phlanhigion cyfriniol y cyfnod fel uchelwydd. Mae'r Amgueddfa wedi gofyn am gymorth gr?p ail-greu Vicus i ail-godi'r palisâd pren o gwmpas y pentref. Rydyn ni wedi torri tir newydd wrth arbrofi gydag archaeoleg a dehongli hanes yn y pentref, ac mae'r duedd yma'n cyd-fynd yn berffaith â themâu Wythnos Archaeoleg Genedlaethol rhwng 16