Datganiadau i'r Wasg

Hwyl Haf Crefftus i'r teulu oll

Bydd Hwyl Haf Crefftus i'r teulu oll yn Amgueddfa Lechi Cymru eleni. Mae'r rhaglen difyrrwch arbennig adeg gwyliau ysgol i blant yn rhedeg am bron i chwech wythnos o 24 Gorffennaf hyd at 2 Medi. Caiff bawb gyfle i addurno a lliwio llechi, gwneud fframiau mosaig llechen, dylunio ac argraffu bathodynau ac, am sbri sebonllyd a phersawrus, bydd Gweithdy Golch a Gwneud Golchbeli!

Bydd Hwyl Haf Crefftus i'r teulu oll yn Amgueddfa Lechi Cymru eleni. Mae'r rhaglen difyrrwch arbennig adeg gwyliau ysgol i blant yn rhedeg am bron i chwech wythnos o 24 Gorffennaf hyd at 2 Medi. Caiff bawb gyfle i addurno a lliwio llechi, gwneud fframiau mosaig llechen, dylunio ac argraffu bathodynau ac, am sbri sebonllyd a phersawrus, bydd Gweithdy Golch a Gwneud Golchbeli!

Meddai Swyddog Addysg yr Amgueddfa Celia Parri: “Rydym wedi trefnu gweithgareddau a fydd yn apelio at bawb. Mae'r Hwyl Haf Crefftus wedi ei gynllunio i sicrhau bod teuluoedd yn gallu treulio amser sylweddol yma a mwynhau difyrrwch gydag elfen o addysg. 'Does dim rhaid rhoi rhybudd na bwcio ymlaen llaw gan mai gweithdai galw i mewn ydyn nhw.”

Mae mynediad i'r Amgueddfa am ddim ond mae gofyn talu — dim mwy na phunt — am rai o'r crefftau a rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn ar bob adeg. Mae'r Gweithdy Golch a Gwneud Golchbeli o 11yb tan 1yp bob dydd Iau – Sul a Gwneud Bathodynau ar yr un dyddiau o 2yp tan 4yp. Mae pob sesiwn arall bob hanner awr o ddydd Llun tan ddydd Gwener o 11yb tan 3.30yp.

Yn ogystal, mae gan yr Amgueddfa fan chwarae allanol i blant o dan ddeuddeg a gweithgareddau i blantos bach yng nghwmni oedolion. Mae'r cyfleusterau'n cynnwys caffi a siop a gellir hefyd fwynhau atyniadau eraill yr Amgueddfa fel arddangosiadau crefft chwareli, olwyn ddŵr fwyaf tir mawr Prydain, hen weithdai a pheirianwaith Chwarel Dinorwig a rhes o dai a ddengys sut roedd teuluoedd chwarelwyr yn byw drwy'r oesoedd.

Mae safleoedd eraill AOCC yn cynnwys yr Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd, Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan, Pwll Mawr: Amgueddfa Lofaol Genedlaethol Cymru, Blaenafon — enillydd Gwobr Gulbenkian eleni, Amgueddfa'r Lleng Rufeinig yng Nghaerllion, a'r Amgueddfa Wlân Genedlaethol yn Nre-fach Felindre. Bydd Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn agor yn Abertawe yn nes ymlaen eleni, gan adrodd stori pobl, diwydiant a blaengaredd yng Nghymru.

Mae mynediad i holl safleoedd AOCC am ddim, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â John Kendall, Swyddog Marchnata, Amgueddfa Lechi Cymru, ar 01286 873707