Datganiadau i'r Wasg

Hwyl Gwyliau'r Haf

Rhyfeddodau Gwyddoniaeth sy'n arwain rhaglen digwyddiadau teuluol yr Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol dros yr haf. O Droedio'r Traeth i Natur Nadredd ? mae 'na rhywbeth i bawb yn Oriel Ddarganfod Glanely.

30, 31 Gorffennaf a 1 Awst — Natur Nadredd! Dewch i weld byd bendigedig yr ymlusgiaid a dysgu am y nadredd sy'n byw yn yr anialwch. Bydd sgyrsiau a gweithgareddau ar gael ? ac efallai cewch gyfle i gwrdd â neidr fyw hyd yn oed — os ydych chi'n ddigon dewr!

6-14 Awst — Wythnos Genedlaethol y Môr. Darganfyddwch y byd hud o dan y môr a'i donnau. Dewch i'n helpu i greu murlun morol mawr 3D sy'n dangos pethau sy'n gorwedd ar wely'r môr.

9-12 Awst — Ydy siarcod mawr gwyn mor beryglus â hynny? Sut mae trin morfil cefngrwm? Dyma'ch cyfle i ddysgu am wahanol fathau o grwbanod môr, siarcod a mamolion môr ac i ddarganfod beth ddylech chi ei wneud os oes anifail o'r môr yn mynd yn sownd ar y lan. Dewch i weld creaduriaid y môr a llawer mwy yn ein Sioe Forol i'r Teulu.

Meddai Ciara Charnley, Swyddog Addysg Gwyddorau Naturiol,

"Mae 'na lwyth o ddigwyddiadau cyffrous yn digwydd yn yr Amgueddfa dros yr haf. O ddysgu am nadredd sydd yn byw yn yr anialwch at ddarganfod byd morol bendigedig Cymru. Yr Amgueddfa yw'r lle i fod! "

Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru sy'n gyfrifol am yr Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol, ynghyd â phum safle arall ar hyd a lled Cymru ? Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan, Pwll Mawr: Amgueddfa Lofaol Genedlaethol ? enillydd gwobr Gulbenkian eleni, Amgueddfa Wlân Genedlaethol, Dre-fach Felindre, Amgueddfa'r Lleng Rufeining, Caerllion ac Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis. Bydd Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn agor yn Abertawe yn nes ymlaen eleni, yn adrodd hanes pobl a diwydiant Cymru.

Mae mynediad am ddim I'r Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.