Datganiadau i'r Wasg

‘Rhydd i bawb ei farn ac i bob barn ei llafar’

Disgwylir ambell ymgom ddifyr os nad ychydig yn ddadleuol ar faes yr Eisteddfod eleni. Bydd gweithwyr Amgueddfa Lechi Cymru Llanberis, sy’n rhan o Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru (AOCC), yn efelychu bywyd a chymdeithas chwarel ers talwm trwy ail-greu Caban traddodiadol ar y maes. Y Caban oedd y man lle byddai’r chwarelwyr yn ymgynnull i drafod testunau amrywiol fel gwleidyddiaeth, undebaeth, diwylliant, cerddoriaeth, chwaraeon a chrefydd, gydag ambell bwnc llosg yn codi ei ben o dro i dro. Weithiai byddai dadl go ddifyr yn cymryd lle yn yr hen ddyddiau a diau bod natur ddynol heddiw yn parhau i fod cyn gystadleuol ag erioed. Felly gobeithiwn y bydd i Lywyddion y Dydd ar bob achlysur y nerth, gras ac amynedd i gyfarwyddo a chadw trefn ar y trafodaethau ac ar y cyfranogwyr a fydd yn datgan eu barn ar y gwahanol bynciau.

Yn y gorffennol, swydd etholedig, di-dâl a llafur cariad oedd Llywydd y Caban a’r gwaith, yn ogystal â chadw trefn, oedd datrys unrhyw anghydfod. Ef oedd piau’r gair olaf. Dynion doeth a phwyllog, gyda dawn siarad cyhoeddus, a ddewiswyd. Roeddynt yn uchel eu parch yn y gymdogaeth a nifer ohonynt yn flaenoriaid a chynghorwyr lleol. Roedd hi’n fraint ac anrhydedd cael eich ethol yn Lywydd Caban a byddai hyn yn ychwanegu at statws dyn o fewn ei gymdeithas. Yn naturiol, felly, byddai’r chwarelwyr yn chwennych y swydd o fod yn Lywydd y Caban.

Mae’n siwr na fydd unrhyw un yn synnu bod swydd y Llywydd heddiw, yn ein hefelychiad, yn parhau i fod yn ddi-dâl! Serch hynny, mae yna enwau go adnabyddus wedi gwirfoddoli i gymryd rhan fel llywyddion a chyfranwyr, oll yn uchel eu parch heddiw a ganddynt wybodaeth eithaf trylwyr o fröydd y garreg las. Gweler y rhaglen a’r rhestr enwau isod. Bydd pob trafodaeth yn berthnasol i fywyd cyfoes a gorffennol ardaloedd y chwareli. Un peth na fydd wedi newid o gwbl yw’r darpariaeth o de i leddfu’r syched a ddaw’n naturiol drwy siarad. Te, yn ôl yr hanes, oedd olew llefaru’r chwarelwyr!

Ar ddiwedd y dydd, y cyhoedd, neu o leiaf tua hanner cant ohonynt bob tro, fydd berchen y gair olaf. Byddant yn cael eu hannog i gymryd rhan gan Y Chwarelwr (yr actor Ifan Wyn o Dalwrn) a’i Gorn Chwarel a fydd yn sefyll y tu allan i ddrysau’r Caban (swn chwythu’r corn yn y gorffennol oedd y rhybudd bod ffrwydro’r graig ar fin digwydd). Felly, caiff y cyhoedd y cyfle i ddweud eu dweud a gofyn cwestiynau, o dan gyfarwyddyd y Llywydd, wrth gwrs. Dyma’r rhaglen am yr wythnos ac enwau’r Llywyddion:

RHAGLEN YMDDIDDAN CABAN Y CHWARELWYR

CERDDORIAETH Dydd Sadwrn 30 Gorffennaf o 11 yb–12 ac o 3– 4 yp yng nghwmni Mr Alun Llwyd

GWLEIDYDDIAETH Dydd Llun 1 Awst o 11 yb–12 ac o 3–4 yp yng nghwmni’r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas AC

LLENYDDIAETH A BARDDONIAETH Dydd Mawrth 2 Awst o 11 yb–12 ac o 3–4 yp yng nghwmni’r Prifardd Ieuan Wyn

CREFYDD Dydd Mercher 3 Awst o 11 yb–12 ac o 3–4 yp yng nghwmni’r Parchedig John Roberts (BBC)

CHWARAEON A HAMDDEN Dydd Iau 4 Awst o 11 yb–12 yp yng nghwmni Mr Arwel Jones (Hogia’r Wyddfa)

AMAETHYDDIAETH Dydd Iau 4 Awst o 3–4 yp yng ngwmni Mr Dei Tomos

UNDEBAETH Dydd Gwener 5 Awst o 11 yb–12 ac o 3–4yp yng nghwmni Mr Tom Jones MBE

IECHYD A LLES Dydd Sadwrn 6 Awst o 11 yb–12 yp yng nghwmni Dr Eddie Davies

Y DIWYDIANT LLECHI CYFOES Dydd Sadwrn 6 Awst o 3–4 yp yng nghwmni Dr Dafydd Roberts

Bydd Amgueddfa Lechi Cymru,Llanberis, yn agored i’r cyhoedd bob dydd fel arfer rhwng 10 y bore a 5 y prynhawn yn ystod wythnos yr Eisteddfod. Mae’r safle, sef hen weithdai cynnal a gofal Cwmni Chwarel Dinorwig gynt, yn allwedd i gyfnod sylweddol o orffennol peirianyddol Cymru ynghyd â thrysorfa o hanes cymdeithasol a diwylliannol y wlad. O fewn muriau trawiadol adeiladau’r Amgueddfa, gallwch gamu’n ôl mewn amser i ddarganfod hanes cymuned chwarelwyr llechi Cymru a’u teuluoedd, eu diwydiant a’u byd. Mae i’r safle awyrgylch arbennig os nad hudol. Gallwch bron ddychmygu bod y chwarelwyr a'r peirianwyr newydd ollwng eu hoffer a mynd adref ychydig oriau ynghynt.

Mae safleoedd eraill AOCC yn cynnwys yr Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd, Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan, Pwll Mawr: Amgueddfa Lofaol Genedlaethol Cymru, Blaenafon — enillydd Gwobr Gulbenkian eleni — Amgueddfa’r Lleng Rufeinig yng Nghaerllion, a’r Amgueddfa Wlân Genedlaethol yn Nre-fach Felindre. Bydd Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn agor yn Abertawe yn nes ymlaen eleni, gan adrodd stori pobl, diwydiant a blaengaredd yng Nghymru.

Mae mynediad i holl safleoedd AOCC am ddim, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â John Kendall, Swyddog Hyrwyddo, Amgueddfa Lechi Cymru, ar (01286) 873707 neu 07817 373941 neu â Gwenllian Carr, Pennaeth y Wasg a Chysylltiadau Cyhoeddus, AOCC, ar 07974 205849.