Datganiadau i'r Wasg

Haf O Deithiau Amser Am Ddim Yn Yr Amgueddfeydd Cenedlaethol

Mynediad am ddim i bawb yw prif fyrdwn ymgyrch farchnata haf Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru (AOCC) eleni.

Bedair blynedd ar ôl i Lywodraeth Cynulliad Cymru gyflwyno'r polisi mynediad am ddim i bawb, mae'r amgueddfeydd yn denu mwy o ymwelwyr nac erioed o'r blaen. Bwriad yr ymgyrch felly yw atgoffa pobl yn lleol - ac yn genedlaethol - o rai o drysorau mwyaf y chwe amgueddfa sydd ar hyd a lled Cymru.

Meddai Robin Gwyn, Cyfarwyddwr Cyfathrebu AOCC:

"Ein bwriad eleni yw atgoffa pobl am yr hyn sydd ar gael yn ein hamgueddfeydd cenedlaethol. Mae'r neges yn hollol syml 0 dewch i weld rhai o drysorau mwyaf godidog Cymru - am ddim.

Ychwanegodd Alun Pugh, Gweinidog Llywodraeth Cynulliad Cymru dros Ddiwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon:

"Mae cadw plant yn brysur yn ystod misoedd hir yr haf yn dipyn o wait hi rieni. Mae chwe safle yr Amgueddfa Genedlaethol yn cynnig blas gwahanol ar fywyd yng Nghymru, ond mae un peth yn gyffredin iddyn nhw i gyd ? mynediad am ddim, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru ? felly gall pobl fwynhau diwrnod addysgol a llawn hwyl am ddim"

Gyda phedair amgueddfa genedlaethol yn ne ddwyrain Cymru, mae'r sloganau a ddefnyddir i hyrwyddo pob un ohonynt yn fachog ac yn ennyn diddordeb.

'Monet am ddim' yw'r neges a fydd yn cael ei ddefnyddio i hyrwyddo'r Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol yng nghanol Caerdydd, gan dynnu sylw at y casgliad arbennig o gelf argraffiadol ac ôl-argraffiadol sydd i'w weld yn yr amgueddfa. Mae Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan yn cael ei hyrwyddo gyda'r neges 'Diwylliant am Ddim'.

'Diemwntiau am ddim' yw'r neges i annog pobl i ymweld â Phwll Mawr: Amgueddfa Lofaol Genedlaethol Cymru, Blaenafon, enillydd diweddar Gwobr Gulbenkian am Amgueddfa'r Flwyddyn, ac 'Arwyr am Ddim' a geir wrth ymweld ag Amgueddfa'r Lleng Rufeinig yng Nghaerllion.

Mae AOCC hefyd yn gyfrifol am yr Amgueddfa Wlân Genedlaethol, Dre-fach Felindre ac Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis. Bydd Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn agor yn Abertawe fis Hydref eleni, gan adrodd hanes diwydiant a phobl Cymru. Mae mynediad am ddim i bob un o'r amgueddfeydd cenedlaethol, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.