Datganiadau i'r Wasg

Ymgyrch Haf Yn Hyrwyddo Mynediad Am Ddim – I Bawb

'Ffasiwn am ddim' fydd neges fachog ymgyrch farchnata arbennig sy'n hyrwyddo'r Amgueddfa Wlân Genedlaethol yn Dre-fach Felindre dros yr wythnosau nesaf fel rhan o ymgyrch genedlaethol sy'n atgoffa pobl bod mynediad am ddim i bawb i bob un o'r amgueddfeydd, a weinyddir gan Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru (AOCC).

Bedair blynedd ar ôl i Lywodraeth Cynulliad Cymru gyflwyno'r polisi mynediad am ddim i bawb, mae'r amgueddfeydd yn denu mwy o ymwelwyr nac erioed o'r blaen. Bwriad yr ymgyrch felly yw atgoffa pobl yn lleol - ac yn genedlaethol - o rai o drysorau mwyaf y chwe amgueddfa sydd ar hyd a lled Cymru.

Meddai Robin Gwyn, Cyfarwyddwr Cyfathrebu AOCC:

"Ein bwriad eleni yw atgoffa pobl am yr hyn sydd ar gael yn ein hamgueddfeydd cenedlaethol. Mae'r neges yn hollol syml ? dewch i weld rhai o drysorau mwyaf godidog Cymru ? am ddim.

Ychwanegodd Alun Pugh, Gweinidog Llywodraeth Cynulliad Cymru dros Ddiwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon:

"Mae cadw plant yn brysur yn ystod misoedd hir yr haf yn dipyn o wait hi rieni. Mae chwe safle yr Amgueddfa Genedlaethol yn cynnig blas gwahanol ar fywyd yng Nghymru, ond mae un peth yn gyffredin iddyn nhw i gyd - mynediad am ddim, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru ? felly gall pobl fwynhau diwrnod addysgol a llawn hwyl am ddim"

Mae gan AOCC chwe amgueddfa yng Nghymru - yr Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd, Pwll Mawr: Amgueddfa Lofaol Genedlaethol Cymru, Blaenafon - enillydd Gwobr Gulbenkian eleni - Amgueddfa'r Lleng Rufeinig yng Nghaerllion, Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan, Amgueddfa Wlân Genedlaethol yn Nre-fach Felindre ac Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis. Bydd Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn agor yn Abertawe yn nes ymlaen eleni, gan adrodd stori pobl, diwydiant a blaengaredd yng Nghymru.

Mae mynediad i holl safleoedd AOCC am ddim, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.