Datganiadau i'r Wasg

Cofeb I Ddathlu Cysylltiad Bwysig Gyda'r Unol Daleithiau

Bydd Americanwyr o blith Y Cymry Ar Wasgar yn ymweld â stondyn Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru ar faes yr Eisteddfod eleni ar gyfer coffáu Thomas Jefferson, trydydd Arlywydd yr Unol Daleithiau. Bydd seremoni arbennig yn cymryd lle nos Iau 4 Awst i ddadorchuddio cofeb i Jefferson wedi ei gwneud o lechen Gymreig ar ôl diwedd achlysur blynyddol Y Cymry Ar Wasgar.

Mae gan Gymru gysylltiadau o bob math â Gogledd America a tebyg bod rhyw ddwy filiwn o boblogaeth cyfoes yr Unol Daleithiau yn ymwybodol o'u tras Cymreig. Credir bod 11 o gyn-Arlywyddion ac 17 o arwyddwyr y Datganiad Annibyniaeth â chefndir Cymreig. Un o'r rhain oedd Thomas Jefferson oherwydd yr honiad bod ganddo gysylltiadau â'r ardaloedd chwarelyddol wrth droed yr Wyddfa. Er nad oes modd i brofi hyn bellach, un peth sy'n sicr yw bod gan fröydd y chwareli, a llawer man arall yng Nghymru, gysylltiadau agos iawn â'r Unol Daleithiau.

Chwarelwyr a'u teuluoedd oedd ymhlith y miloedd a fudodd o Gymru yn y gorffennol i gymryd mantais o gyni economaidd yr Unol Daleithiau a dianc gormes tirfeddianwyr trachwantus y pryd hwnnw er mwyn byw y freuddwyd o fywyd gwell a addewid gan America. Ceid dwsinau o chwareli llechi yn ardal Granville, talaith Efrog Newydd, gydag enwau fel 'Arvon' a 'Penrhyn', a Cymry oedd yn rhan helaeth o'r gweithlu. Mae'r cysylltiadau'n parhau heddiw. Gweler, er enghraifft, bod cwmni McAlpine, sydd berchen Chwarel y Penrhyn ym Methesda, hefyd yn berchennog ar Chwarel Hilltop yn nhalaith Efrog Newydd.

Cwbl briodol, felly, y bydd Cofeb Jefferson yn cael ei throsglwyddo ar ôl yr Eisteddfod er mwyn ei gosod mewn man amlwg ar dir Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis.

Meddai Dr Dafydd Roberts, Ceidwad Amgueddfa Lechi Cymru: 'Mae'n bwysig i ni gadw'n fyw y cysylltiadau hanesyddol sydd gennym gyda'r Unol Daleithiau ac mae cofeb Thomas Jefferson yn un ffordd arbennig o wneud hyn. Wedi'r cwbl, rydym hefyd yn dathlu'n cysylltiadau cyfoes.'

Mae croeso i unrhyw un sydd â diddordeb ymuno â ni ddydd Iau, drwy anfon ebost at rsvp@amgueddfacymru.ac.uk cyn ddydd Mawrth 2 Awst.

Rhagor...

Mae safleoedd eraill AOCC yn cynnwys yr Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol yng Nghaerdydd, Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan, Pwll Mawr: Amgueddfa Lofaol Genedlaethol Cymru, Blaenafon - enillydd Gwobr Gulbenkian eleni - Amgueddfa'r Lleng Rufeinig yng Nghaerllion, a'r Amgueddfa Wlân Genedlaethol yn Nre-fach Felindre. Bydd Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn agor yn Abertawe yn nes ymlaen eleni, gan adrodd stori pobl, diwydiant a blaengaredd yng Nghymru.

Mae mynediad i holl safleoedd AOCC am ddim, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.