Datganiadau i'r Wasg

4 DIWRNOD AR ÔL I GYMRU BLEIDLEISIO DROS UN O BEINTIADAU'R CASGLIAD CENEDLAETHOL FEL PEINTIAD GORAU PRYDAIN

Cefnogwch AMGUEDDFEYDD AC ORIELAU CENEDLAETHOL CYMRU trwy bleidleisio nawr.

Y bleidlais hon sy'n chwilio am ‘Beintiad Gorau Prydain' yw un o ddigwyddiadau rhyngweithiol mwyaf erioed y celfyddydau gweledol.

Dros y 10 niwrnod diwethaf, mae'r cyhoedd wedi bod yn pleidleisio dros eu hoff beintiadau – a dim ond 4 diwrnod sydd ar ôl. Caiff unrhyw un bleidleisio dros unrhyw beintiad yn y DU – boed yn hen neu'n newydd, o Brydain neu o dramor. A boed gan Titian, Constable, Renoir, Monet, Frida Kahlo, Beryl Cook neu bwy bynnag.

Caiff y canlyniad ei gyhoeddi'n fyw raglen Today Radio 4 (92-95 FM / 198 LW) mewn darllediad o'r Oriel Genedlaethol yn Llundain ar 5 Medi 2005.

"Mae'r Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol yng Nghaerdydd yn un o ddwsinau o orielau ledled y wlad sy'n cymryd rhan, ac rydyn ni'n gobeithio mai un o'n casgliad cenedlaethol ni fydd Peintiad Gorau Prydain,” meddai Dr Ann Sumner, Curadur Celf Gain yr Amgueddfa. "Dyma ein peintiadau mwyaf poblogaidd:-

  • Renoir La Parisienne 1874
  • Thomas Jones Adeiladau yn Napoli 1782
  • Monet San Giorgio Maggiore yn y Gwyll 1908
  • Francis Bacon Astudiaeth ar gyfer Hunan-bortread 1963
  • Van de Cappelle Gosteg 1654

"Ond mae angen eich cefnogaeth CHI i agor y cyfle cyffrous hwn i godi proffil ein casgliadau cenedlaethol i bawb yng Nghymru. Mae hi bron yn sicr mai'r dewis poblogaidd fydd La Parisienne gan Renoir, un o'n trysorau artistig mwyaf a chanddo fri byd-eang. Mae'r ‘ferch o Baris' yn agos iawn at galonnau'r genedl, ac mae ei charden post yn gwerthu'n dda. Ond mae gwaith ymchwil a chyhoeddusrwydd diweddar ar y peintiwr tirluniau o'r 18fed ganrif, y Cymro Thomas Jones wedi golygu bod ei Adeiladau yn Napoli yn apelio'n fawr hefyd. Mae'r bobl fwy traddodiadol yn dueddol o ffafrio Gosteg gan yr Hen Feistr Van de Capelle. Mae Hunanbortread Bacon yn cael ei edmygu'n fawr hefyd. Byddai'n dda gennym pe bai'r cyhoedd yng Nghymru'n pleidleisio ar wefan rhaglen Today BBC Radio 4 a rhoi gwybod i ni pa rai yw'n hoff beintiadau. Fy nheimlad personol i yw mai La Parisienne fydd ar y brig yng Nghymru! Mae'n llun poblogaidd – merch ifanc gosgeiddig yn gwisgo ei menig – ac mae'r lliwiau glas yn y llun yn wych.”

SUT MAE'R BLEIDLAIS YN GWEITHIO?

Y Rownd Gyntaf - O 25 Gorffennaf i 8 Awst, caiff y cyhoedd bleidleisio dros unrhyw beintiad ym Mhrydain. Cewch bleidleisio dros unrhyw beintiad mewn casgliad yn y DU (Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon).

Bydd yr holl bleidleisio'n digwydd ar wefan rhaglen Today www.bbc.co.uk/today. Cewch gofnodi eich sylwadau a'ch barn am y peintiadau hefyd wrth fwrw eich pleidlais.

I ddechrau trafodaeth genedlaethol fywiog, bydd panel o enwogion yn trafod eu hoff beintiadau ar raglen Today. Bydd y rhain yn cynnwys Alexander McQueen, Boris Johnson, Syr Paul Smith, Grayson Perry, Marcus Harvey a John Virtue.

Bydd tudalennau gwe arbennig ar www.bbc.co.uk/today a www.nationalgallery.org.uk yn helpu i sbarduno'r drafodaeth.

Y Rhestr Fer – O 15 Awst ymlaen, bydd y bleidlais yn symud i restr fer o'r 10 uchaf – ar sail y bleidlais gyhoeddus.

Bydd y bleidlais yn digwydd ar www.bbc.co.uk/today.

Bydd rhaglen Today yn cynnal trafodaeth dair wythnos o hyd ar sail y rhestr fer o beintiadau.

Y Rownd Derfynol – 5 Medi yn yr Oriel Genedlaethol. Bydd cyflwynydd Today, James Naughtie, a Chyfarwyddwr yr Oriel Genedlaethol, Charles Saumarez Smith, yn datgelu'r enillydd i'r genedl yn fyw ar Radio 4. Safleoedd AOCC yw'r Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol, Caerdydd; Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan; Pwll Mawr: Amgueddfa Lofaol Genedlaethol Cymru – enillydd Gwobr fawr Gulbekian eleni; Amgueddfa'r Lleng Rufeinig, Caerllion, Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis a'r Amgueddfa Wlân Genedlaethol, Dre-fach Felindre. Bydd Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn agor yn Abertawe yn nes ymlaen eleni gan adrodd stori blaengaredd a diwydiannau Cymru.

Mae mynediad i'r Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol am ddim, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch:

Julie Richards, Swyddog y Wasg
Yr Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol, Caerdydd
ffôn: 07876 476695
e-bost: Julie.richards@amgueddfacymru.ac.uk