Datganiadau i'r Wasg

Cymru wrth ei Gwaith

I ddathlu agor Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe, mae'r Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol yn cyflwyno arddangosfa gelf sy'n edrych ar y diwydiannau a greodd y Gymru fodern.

16 Medi–8 Ionawr 2006

Bydd yr arddangosfa'n darlunio diwydiannau mawr Cymru o'r 1770au i'r 1990au – Glo, llechi, metelau, llongau a thrafnidiaeth. Bydd yn dangos sut datblygodd golygfeydd diwydiannol o fod yn rhan o'r traddodiad tirluniau rhamantaidd i fod yn destunau yn eu hawl eu hunain.

Bydd peintiadau a gweithiau dyfrlliw o'r casgliad Cenedlaethol yn rhan o'r arddangosfa, gan gynnwys lluniau cynnar gan artistiaid oedd yn teithio ledled Cymru, fel Sandby ac Ibbestson. Cipiodd yr artistiaid hyn olygfeydd trawiadol a hardd o Gymru; portreadau poblogaidd o longau; gweithiau i goffáu a dathlu'r dechnoleg a'r diwydiannau newydd fel Portread Plaen John Thomas a llun Cuneo o locomotif Penydarren ; a gweithiau gan artistiaid blaenllaw'r 20fed ganrif fel Graham Sutherland, John Piper a Ceri Richards, a gafodd gomisiwn y Llywodraeth i gofnodi'r diwydiannau oedd yn cyfrannu at ymdrech y rhyfel.

Mae'r arddangosfa'n edrych ar gyfraniad pwysig merched at ddiwydiant trwm hefyd, o'r 'gopar ladis' mwyngloddiau copr Mynydd Parys, Ynys Môn oedd yn golchi ac yn curo'r mwyn copr; i'r merched oedd yn gweithio ochr yn ochr â'r dynion dan amodau echrydus a chwyslyd y diwydiant tunplat.

Bydd Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe'n agor ei drysau'n swyddogol am y tro cyntaf ar 18 Hydref. Bydd yr amgueddfa'n adrodd stori diwydiant a blaengaredd Cymru ac yn dangos effaith y Chwyldro Diwydiannol ar Gymru a'i phobl.

Mae'r Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol, Caerdydd yn un o saith safle Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru ledled Cymru. Dyma safleoedd eraill AOCC: Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan; y Pwll Mawr: Amgueddfa Lofaol Genedlaethol Cymru, Blaenafon – enillydd gwobr fawr Gulbenkian eleni; Amgueddfa'r Lleng Rufeinig, Caerllion; yr Amgueddfa Wlân Genedlaethol, Dre-fach Felindre ac Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis. Bydd Amgueddfa Genedlaethol y Glannau'n agor yn Abertawe ym mis Hydref, gan adrodd stori diwydiant a blaengaredd Cymru.

Mae mynediad i'r Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol am ddim, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â: Julie Richards, Swyddog y Wasg Yr Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol, Caerdydd Ffôn poced: 07876 476695 E-bost: julie.richards@amgueddfacymru.ac.uk,