Datganiadau i'r Wasg

Y Pwll Mawr yn cofio'r 'consgriptiaid anghofiedig'

Ar 1 Medi, bydd y Pwll Mawr: Amgueddfa Lofaol Genedlaethol Cymru - enillydd gwobr fawr Gulbenkian am Amgueddfa'r Flwyddyn eleni - yn lansio arddangosfa i gofio cyfraniad Bois Bevin Cymru at yr Ail Ryfel Byd.

Bydd yr arddangosfa'n dathlu 60 mlynedd ers diwedd y Rhyfel, yn dilyn apêl y Pwll Mawr am straeon hen Fois Bevin.

Bydd cyhoeddiad o'r enw GLO yn cyd-fynd â'r arddangosfa, diolch i nawdd Persimmon Homes yng Nghymru. Mae'n adrodd straeon 15 o Fois Bevin gafodd eu magu yng Nghymru neu a gafodd eu consgriptio i weithio ym meysydd glo Cymru.

Fel rhan o'r dathliadau, bydd y Pwll Mawr yn cynnal aduniad i Fois Bevin Cymru ar 24 Medi, a drefnwyd diolch i gymorth rhaglen Cofio'r Ffrynt Cartref Cronfa'r Loteri Fawr. Bydd y digwyddiad yn rhoi cyfle i Fois Bevin â chysylltiadau â Chymru ddod at ei gilydd i ail-fyw eu profiadau o weithio danddaear yn ystod y cyfnod anodd yma yn hanes Prydain.

Cafodd 48,000 o ddynion ifanc eu consgriptio i wneud Gwasanaeth Gwladol ym mhyllau glo Prydain rhwng 1943 a 1948, yn rhan o gynllun Ernest Bevin, Gweinidog Llafur a Gwasanaeth Gwladol adeg y Rhyfel, i gadw diwydiant glo Prydain i fynd. Daeth llawer o'r Bois Bevin yma i weithio ym maes glo'r de. Newidiodd y profiad yma'u bywydau nhw, a'r cymunedau lleol am byth.

Meddai Peter Walker, Ceidwad a Rheolwr y Pwll Mawr: "Rydyn ni'n falch iawn o'r cyfle i dalu teyrnged i'r dynion arbennig hyn a wasanaethodd eu Brenin a'u Gwlad ar y 'ffrynt danddaear'. Mae'r arddangosfa yma a'r gweithgareddau sy'n cyd-fynd â hi'n rhoi cyfle i ni adrodd stori'r Bois Bevin o safbwynt Cymreig. Mae ymchwilio i'r project a'i ddatblygu wedi bod yn brofiad gwerth chweil i ni i gyd."

Mae'r Pwll Mawr yn un o chwe safle Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru ledled Cymru. Dyma safleoedd eraill AOCC: yr Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol, Caerdydd; Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan; Amgueddfa'r Lleng Rufeinig, Caerllion; yr Amgueddfa Wlân Genedlaethol, Dre-fach Felindre ac Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis. Bydd Amgueddfa Genedlaethol y Glannau'n agor yn Abertawe ym mis Hydref, gan adrodd stori diwydiant a blaengaredd Cymru.

Mae mynediad i holl safleoedd AOCC am ddim, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Mae'r Pwll Mawr ar agor bob dydd 9.30am - 5pm. Mae'r teithiau danddaear yn rhedeg yn gyson rhwng 10am a 3.30pm. Bydd yr arddangosfa 'Rhyfel y Maes Glo' ar agor trwy gydol Medi a Hydref.